Cost of Living Support Icon

Gwarchodaeth Arbennig

Mae ar bob plentyn a pherson ifanc angen amgylchedd hirdymor, sefydlog a chariadus lle gallant ffynnu a chyrraedd eu potensial nes eu bod wedi tyfu i fyny.  Mae'r dudalen hon yn esbonio un ffordd y gellir cyflawni hyn ar gyfer plant nad yw eu rhieni biolegol yn gallu gofalu amdanynt.  Gelwir hyn yn Warchodaeth Arbennig. 

 

Beth yw Gwarchodaeth Arbennig

Mae Gorchymyn Gwarchodaeth Arbennig (GGA) yn ffordd gyfreithiol o roi cyfrifoldebau hirdymor, clir i'r person sy'n gofalu am y plentyn yn gysylltiedig â magwraeth y plentyn. Ar yr un pryd, mae'n cynnal y cysylltiad cyfreithiol rhwng y plentyn a'i rieni biolegol.  Mae'n ddewis amgen i opsiynau eraill megis Mabwysiadu, Gorchymyn Trefniadau Plentyn neu faethu plentyn yn y tymor hir.

 

Unwaith y bydd GGA wedi'i wneud, y Gwarcheidwad Arbennig fydd gofalwr parhaol y plentyn hyd nes y bydd y plentyn hwnnw'n 18 oed. 

 

 

 

  • O dan ba amgylchiadau y gall Gorchymyn Gwarchodaeth Arbennig fod yn addas?

    Gall Gorchymyn Gwarchodaeth Arbennig fod yn arbennig o addas ar gyfer:

    • Plant mewn gofal maeth hirdymor

    • Plant sy'n derbyn gofal yn barhaol gan aelodau o'u teulu ehangach

    • Plant hŷn sy'n dymuno cadw cysylltiad cyfreithiol â'u teulu biolegol, ond a fyddai'n elwa o drefniadau gofal mwy parhaol

    • Plant o deuluoedd lle ceir gwrthdaro â safbwyntiau diwylliannol neu grefyddol a'r cyfreithlondeb ynghylch mabwysiadu

  • Pwy all wneud cais am Orchymyn Gwarchodaeth Arbennig?

    Gwneir Gorchymyn Gwarchodaeth Arbennig drwy gais ffurfiol i lys.  Gallwch wneud cais i fod yn Warcheidwad Arbennig os ydych dros 18 oed a'ch bod yn:

    • Warcheidwad ar y plentyn

    • Gofalwr maeth gyda’r awdurdod lleol ac mae’r plentyn wedi byw gyda chi am flwyddyn cyn i’r cais gael ei wneud

    • Perthynas i'r plentyn ac mae'r plentyn wedi byw gyda chi am flwyddyn cyn i'r cais gael ei wneud

    • Unrhyw un a enwir mewn Gorchymyn Preswylio neu Orchymyn Trefniadau Plentyn fel person y mae'r plentyn i fyw gydag ef, neu sydd â chydsyniad pawb y mae Gorchymyn Preswylio neu Orchymyn Trefniadau Plentyn o'r fath mewn grym yn ei blaid

    • Unrhyw un sydd â chaniatâd gan: Yr Awdurdod Lleol (os yw'r plentyn wedi bod yn 'derbyn gofal' o dan adran 31 am lai na 12 mis) neu Y rheiny sydd â chyfrifoldeb rhianta dros y plentyn neu’r Llys

    • Unrhyw un y mae'r plentyn wedi byw gyda ef am dair o'r pum mlynedd diwethaf

  • Beth yw'r weithdrefn ar gyfer gwneud cais am Orchymyn Gwarchodaeth Arbennig?

    Os yw'r plentyn yn derbyn gofal gan awdurdod lleol, rhaid i'r ymgeisydd roi tri mis o rybudd ysgrifenedig i'r awdurdod sy'n gofalu am y plentyn. Os nad yw'r plentyn yn derbyn gofal gan awdurdod lleol, rhaid i'r ymgeisydd roi hysbysiad ysgrifenedig i awdurdod lleol yr ardal y mae'r ymgeisydd fel arfer yn preswylio ynddi.

     

    Yn ystod y cyfnod tri mis hwn, mae'r awdurdod lleol yn cynnal asesiad ac yn paratoi adroddiad ysgrifenedig i'r llys ystyried addasrwydd yr ymgeiswyr i fod yn Warcheidwaid Arbennig.

     

    Bydd yr adroddiad asesu hwn yn asesu anghenion y plentyn, ei ddymuniadau a'i deimladau, gwybodaeth am y darpar Warcheidwa(i)d Arbennig, barn y bobl sy'n ymwneud â bywyd y plentyn a pha gymorth y gallai fod ei angen. Rhaid cwblhau'r asesiad hwn p'un a yw'r plentyn wedi derbyn gofal gan yr Awdurdod Lleol ai peidio.

     

    Ni chaiff y Llys wneud Gorchymyn Gwarchodaeth Arbennig oni bai ei fod wedi derbyn yr asesiad.

     

    Unwaith y bydd yr asesiad wedi'i gwblhau, mater i'r person sy'n dymuno dod yn Warcheidwad Arbennig yw penderfynu a ddylid gwneud cais ffurfiol i'r Llys. Efallai yr hoffech gael cyngor cyfreithiol am hyn.

  • Pa gymorth sydd ar gael?

    Fel rhan o'r broses GGA, rhaid i'r Awdurdod Lleol ystyried pa gymorth y gallai fod ei angen.

     

    Gallai cymorth fod ar ffurf:

    • Cymorth Ariannol

    • Cymorth Cyfoedion

    • Amser teulu (a elwid gynt yn gyswllt)

    • Gwasanaethau Therapiwtig

    • Cymorth i hyrwyddo sefydlogrwydd o ran perthnasoedd

    • Cyfryngu

     

    Mae gan y bobl ganlynol hawl i ofyn am asesiad am gymorth:

    • Y plentyn sy'n gysylltiedig â’r GGA neu riant y plentyn

    • Plentyn y mae person wedi rhoi hysbysiad mewn perthynas ag ef i awdurdod lleol o'i fwriad i wneud cais am GGA neu riant y plentyn hwnnw

    • Plentyn y mae'r Llys wedi gofyn am adroddiad Awdurdod Lleol ar ei gyfer neu riant y plentyn hwnnw

    • Plentyn sy'n gysylltiedig â, neu a enwir mewn adroddiad Awdurdod Lleol ar gyfer y Llys

    • Gwarcheidwad Arbennig neu ddarpar Warcheidwad Arbennig

    • Plentyn Gwarcheidwad Arbennig neu ddarpar Warcheidwad Arbennig

    • Perthynas i blentyn a oedd yn dod dan y tri phwynt bwled cyntaf ar yr amod bod trefniadau cyswllt wedi'u sefydlu cyn y cais am asesiad

     

    Yn gyffredinol, dylai sicrhau amgylchedd cartref sefydlog, perthnasoedd cefnogol a gofalgar i'r plentyn helpu.

  • Sut mae Gwarchodaeth Arbennig yn wahanol i Fabwysiadu?

    Mae mabwysiadu yn dod â'r cysylltiad cyfreithiol rhwng plentyn a'i rieni biolegol i ben, ac yn trosglwyddo'r holl gyfrifoldeb rhianta i'r rhieni mabwysiadol. Disodlir tystysgrif geni'r plentyn gan dystysgrif sy'n enwi'r mabwysiadwyr fel rhieni'r plentyn. Yn wahanol i Orchymyn Mabwysiadu, nid yw GGA yn golygu bod cyfrifoldeb rhianta yn dod i ben ar gyfer y rhiant biolegol, nac unrhyw un arall sydd â chyfrifoldeb rhianta, mae GGA yn dod i ben pan fydd y plentyn yn dod yn 18 oed.

     

    Mae GGA yn rhoi mwy o gyfrifoldeb rhianta i'r Gwarcheidwad Arbennig am y plentyn. Mae hyn yn golygu bod gan y Gwarcheidwad Arbennig gyfrifoldeb o ddydd i ddydd am ofalu am y plentyn ac am wneud penderfyniadau ynghylch sut y caiff ei fagu a'i fod yn gallu diystyru dymuniadau'r rhiant biolegol os oes angen.

     

    Bydd rhiant biolegol yn parhau i fod yn rhiant cyfreithiol i'r plentyn, ond bydd ei gyfrifoldeb rhianta yn gyfyngedig iawn.  Er bod GGA ar waith, mae angen cydsyniad ysgrifenedig pob person sydd â chyfrifoldeb rhianta dros y plentyn, neu ganiatâd y Llys ar gyfer y canlynol:

    • I’r plentyn gael ei adnabod gan gyfenw gwahanol

    • I’r plentyn adael y DU am fwy na thri mis

    • I’r plentyn gael gweithdrefn feddygol wedi’i chwblhau ar sail grefyddol neu ddiwylliannol

    • Os hoffai'r Gwarcheidwad Arbennig wneud cais am Orchymyn Mabwysiadu

  • Sut mae Gwarchodaeth Arbennig yn wahanol i Orchymyn Trefniadau Plentyn?

    Mae Gorchymyn Trefniadau Plentyn (GTP) yn rhoi cyfrifoldeb rhianta i ddeiliad y Gorchymyn, a rennir ag eraill sydd â chyfrifoldeb rhianta, ac mae’n pennu y dylai’r plentyn fyw gyda deiliad y Gorchymyn. Ar gyfer pob penderfyniad arall, rhennir cyfrifoldeb rhianta yn gyfartal a rhaid ymgynghori â phawb sydd â chyfrifoldeb rhianta wrth wneud penderfyniadau am y plentyn.

     

    Fodd bynnag, gall Gwarcheidwad Arbennig ddefnyddio ei gyfrifoldeb rhianta i wahardd unrhyw un arall gyda’r rhan fwyaf o faterion. Mae hyn yn golygu y bydd yn gwneud yr holl benderfyniadau mawr am y plentyn, e.e. ble mae’n byw a ble mae’n mynd i'r ysgol, a gall roi caniatâd ar gyfer y rhan fwyaf o driniaethau meddygol.

     

    Pan fo GTP ar waith, gall rhiant biolegol wneud cais ar unrhyw adeg i'w diweddu ('rhyddhau'). Nid oes rhaid i awdurdodau lleol roi cymorth i bobl sydd â GTP, er bod ganddynt y disgresiwn i dalu lwfans.

  • Beth all Gwarcheidwad Arbennig ei ddisgwyl gan yr Awdurdod Lleol?

    Bydd y Gwasanaethau Plant yn cadw mewn cysylltiad â'r Gwarcheidwad Arbennig, o leiaf unwaith y flwyddyn i sicrhau bod popeth yn mynd yn ddidrafferth. Efallai y bydd hyn yn amlach os mai dyna sydd ei angen.

     

    Gall y Gwasanaethau Plant hefyd fod mewn cysylltiad o bryd i'w gilydd i roi gwybod i Warcheidwaid Arbennig am newidiadau sy'n effeithio ar drefniadau cymorth Gwarchodaeth Arbennig yn lleol megis newid mewn manylion cyswllt fel y bydd pob Gwarcheidwad Arbennig yn gwybod ble i fynd am gyngor a chymorth os bydd angen.

     

    Os oes gennych bryderon neu ymholiadau, mae croeso i chi gysylltu â ni ar unrhyw adeg.

  • Beth yw eich cyfrifoldebau fel Gwarcheidwad Arbennig?

    Cynnig cartref sefydlog, cariadus a gofalgar i'r plentyn i gyflawni ei botensial llawn. 

     

    Ychydig o gyfrifoldebau ffurfiol sydd gan Warcheidwaid Arbennig, fodd bynnag, yn ôl y gyfraith, mae'n rhaid i chi hysbysu'r Awdurdod Lleol os ar unrhyw adeg:

    • Byddwch yn newid eich cyfeiriad

    • Nid oes gan y plentyn gartref gyda chi mwyach

    • Mae’r plentyn yn marw

    • Mae'r plentyn yn derbyn cymhorthdal incwm neu lwfans ceisio gwaith

    • Mae'r plentyn wedi dechrau gweithio'n llawn amser

    • Os ydych yn bwriadu symud i Awdurdod Lleol arall

    • Mae newid yn eich amgylchiadau ariannol

    • Mae newid i anghenion ariannol neu adnoddau’r plentyn

    Rhaid i Warcheidwaid Arbennig sy'n derbyn cymorth ariannol lenwi holiadur ariannol blynyddol. 

  • Pa mor hir mae Gorchymyn Gwarchodaeth Arbennig yn para?

    Bydd GGA fel arfer yn para nes bod y plentyn yn troi’n 18 oed.

     

    Caiff y Llys gytuno i ddiweddu ('rhyddhau') neu newid ('amrywio') Gorchymyn Gwarchodaeth Arbennig os bydd rhai pobl, megis y Gwarcheidwad Arbennig, rhywun sydd â chyfrifoldeb rhianta neu'r person ifanc, yn gwneud cais i'r Llys.

     

    Dim ond os oes newidiadau sylweddol ers i'r gorchymyn gael ei wneud y gall rhieni biolegol wneud cais i'r Llys i'r Gorchymyn gael ei ryddhau.

 

Gwybodaeth Ychwanegol

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch neu os ydych eisiau siarad am wneud cais am Orchymyn Gwarchodaeth Arbennig, siaradwch â'ch gweithiwr cymdeithasol os oes gennych un eisoes. Neu gallwch gysylltu â: