Cost of Living Support Icon

Maethu Preifat

Mae maethu preifat yn wahanol iawn i’r gofal mae’r cyngor yn ei ddarparu drwy ofalwyr maeth wedi eu cymeradwyo

 

Mae maethu preifat yn digwydd o dan yr amgylchiadau yma gofal am dros 28 diwrnod, gofal gan oedolyn sydd ddim yn berthynas, trefniant preifat rhwng y gofalwr a’r rhiant neu plentyn sydd ddim yng ngofal yr awdurdod lleol.

 

Y drefn arferol yw bod rhiant yn dewis a threfnu maethu preifat.  Mae yna sawl patrwm gwahanol, yn eu plith:

  • plant sy’n symud yma o dramor ar gyfer addysg a gofal iechyd
  • plant yn byw gyda chyfeillion ar ôl gwahanu, ysgariad neu ddadlau gartref
  • unigolyn ifanc yn byw gyda theulu ei gariad neu ei chariad
  • pobl ifanc yn byw gyda theulu cariad
  • pobl sydd yn astudio neu’n gweithio, ond sydd ag oriau anghymdeithasol sy’n ei gwneud hi’n anodd gofalu am eu plant eu hunain

 

Mae plant mewn trefniadau maeth preifat yn cael eu diogelu gan Ddeddf Plant 1989 (Rhan XI) a’r rheoliadau cysylltiedig.  Bwriad y rheoliadau yw amddiffyn plant bregus sydd yn debygol o dderbyn gofal tymor hir ar aelwydydd eraill.

 

Mae’n rhaid i’r gofalwr maeth preifat:

  • ddweud wrth y cyngor am fwriad i faethu preifat o leiaf chwe wythnos o flaen llaw (neu o fewn 48 awr mewn argyfwng)
  • ddweud wrth y cyngor pan mae’r plentyn yn gadael, esbonio pam mae’n gadael, a rhoi enw a chyfeiriad gwarchodwr newydd y plentyn.

Mae’n rhaid i’r rhieni:

  • barhau i fod yn gyfrifol am eu plentyn
  • roi cymaint â phosib o wybodaeth i’r gofalwr newydd - er enghraifft cofnodion iechyd, anghenion bwyd a diod, crefydd, manylion addysgiadol, tarddiad ethnig ac yn y blaen
  • ddweud wrth y cyngor am y trefniant newydd (os nad yw’r gwarchodwr newydd wedi gwneud hynny eisoes).

Mae’n rhaid i’r cyngor:

  • sicrhau bod y gwarchodwr maeth preifat yn addas
  • ymweld yn gyson er mwyn sicrhau fod amgylchiadau’r plentyn yn ddiogel ac yn addas
  • sicrhau bod cymorth ar gael pan mae angen cymorth, i’r gwarchodwyr maeth preifat a’r rhieni
  • cadw golwg ar safon gyffredinol y gofal.

 

Os oes yna le i gredu bod y plentyn yn dioddef niwed arwyddocaol, neu mewn peryg o ddioddef niwed arwyddocaol, mae’n bosib y bydd y plentyn yn cael ei gymryd o ofal maeth preifat i ofal y cyngor.

 

  • 01446 725202