Cost of Living Support Icon

Foster-Wales-header

Maethu

Maethu Cymru Bro Morgannwg yw’r enw newydd ar wasanaeth maethu eich Awdurdod Lleol.

 

Rydym yn rhan o’r rhwydwaith cenedlaethol o wasanaethau maethu’r 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru ac yn cydweithio er mwyn adeiladu gwell dyfodol i blant lleol. Tîm Maethu Cymru Bro Morgannwg yw eich darparwr maethu lleol a’ch rhwydwaith cefnogi. Nid gwasanaeth maethu arferol mohonom; rydym yn llawer mwy cysylltiedig.

 

Fel sefydliad nid er elw, rydym wedi ymrwymo i weithio fel tîm gyda gofalwyr maeth er mwyn helpu i adeiladu dyfodol disglair ar gyfer plant ardal Bro Morgannwg Rydym yn eu helpu i aros yn eu cynefinoedd cyfarwydd, lle sy’n iawn iddyn nhw.

 

Er mwyn dod i wybod mwy am faethu ym Mro Morgannwg, gweler eich gwefan Maethu Cymru leol.

 

gwefan Maethu Cymru

 

Cysylltwch â Maethu Cymru: Bro Morgannwg

 

Maethu Cymru Bro Morgannwg

Swyddfa'r Doc

Heol yr Isffordd

Y Barri

CF63 4RT

 

  • 01446 729600