Cost of Living Support Icon

YJESS Logo New Background

Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid a Chymorth Cynnar

Mae’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid a Chymorth Cynnar (GCIChC) yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc rhwng 8 a 17 oed sy'n cymryd rhan, neu sydd mewn perygl o gymryd rhan, mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol neu droseddu a dioddefwyr eu troseddau/ymddygiad.

 

Ein gweledigaeth yw cefnogi pobl ifanc i adeiladu ar eu cryfderau a chyflawni eu potensial trwy nodi ein huchelgeisiau i wneud y canlynol:

  • Gweithio gyda'n gilydd i wella bywydau pobl ifanc, eu teuluoedd, dioddefwyr a'r gymuned trwy ddull adferol.
  • Gweithio gyda phobl ifanc i adeiladu ar eu cryfderau, gwella eu cyfleoedd ac annog penderfyniadau gwell trwy ddull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.
  • Gwerthfawrogi pwysigrwydd pobl ifanc a chael ein gyrru gan degwch, cynhwysiant a chydraddoldeb.

 

 I gael golwg fanylach ar y GCIChC, gweler ein Cynllun Cyfiawnder Ieuenctid ar gyfer 2023-2024.

  

  • Gwasanaeth Atal

    Nod y Gwasanaeth Atal yw cydweithio â phlant a phobl ifanc, teuluoedd, dioddefwyr a'r gymuned trwy ddull adferol.  Ein nod yw adeiladu ar eu cryfderau, gwella eu cyfleoedd ac annog penderfyniadau gwell, gan eu cadw'n ddiogel rhag niwed a chamfanteisio a'u dargyfeirio o ymddygiadau gwrthgymdeithasol neu droseddu trwy wneud hynny.

     

    Mae mwy o wybodaeth am y gwasanaeth ar gael yn Nhaflen y Gwasanaeth Atal

     

    Gall unrhyw un sydd â phryderon am ymddygiad plentyn neu berson ifanc wneud atgyfeiriadau, ar yr amod bod y person ifanc a'r teulu wedi cydsynio i'r atgyfeiriad gael ei gyflwyno. Mae’r ffurflen atgyfeirio ar gael yma

     

     

     

     

  • Gwasanaeth Cymorth i Ddioddefwyr

    Rôl y Swyddog Dioddefwyr yw rhoi cymorth i berson sydd wedi'i niweidio y mae trosedd ieuenctid neu ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi effeithio arno pan fo’r person ifanc sy'n gyfrifol wedi cael ei atgyfeirio gan yr Heddlu neu'r Llysoedd i’r GCIChC. Mae'r Swyddog Dioddefwyr yn trafod hyn mewn mwy o fanylder, gan roi cyfle i'r person sydd wedi’i niweidio fod yn rhan o broses adferol.

     

    Fel y person sydd wedi'i niweidio, mae gan y dioddefwr yr hawl i gael ei hysbysu am y diweddaraf o ran unrhyw benderfyniadau a wneir ac i leisio ei feddyliau a'i deimladau ynghylch y drosedd. Yn ogystal, mae gan y dioddefwr yr hawl i fynegi ei feddyliau a'i deimladau ynghylch sut y gallai'r person ifanc wneud iawn am ei drosedd/ymddygiad gwrthgymdeithasol. Gall hyn gynnig diweddglo i'r dioddefwr ac mae'n rhoi cyfle i bobl ifanc weld yr effaith y mae eu hymddygiad/dewisiadau wedi'i chael ar bobl eraill. 

     

    Ein nodau yw:

    Sicrhau bod yr holl gymorth a roddir i ddioddefwyr gan y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid a Chymorth Cynnar yn seiliedig ar God Ymarfer y Weinyddiaeth Gyfiawnder ar gyfer Dioddefwyr Troseddau 2020

    • Gwella dealltwriaeth y person ifanc o effaith yr ymddygiad a sut mae hyn wedi effeithio ar bobl eraill 
    • Rhoi cyfle i bobl ifanc gael effaith gadarnhaol ar eu cymuned.
    • Cefnogi'r rhai sy’n cael eu niweidio gan droseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol i sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed.
    • Hwyluso'r Broses Adferol i alluogi pob un o'r uchod. 

     

    Os hoffech chi wybod mwy am y gwasanaeth a gynigir, gweler Taflen Wybodaeth i Ddioddefwyr y GCIChC.   

      

     

     

     

  • Goruchwylio Gorchmynion Llys yn y Gymuned

    Gorchmynion Adsefydlu Ieuenctid (GAIau)

    Gall plant o dan 18 oed gael eu dedfrydu i GAI yn y llys, a all bara hyd at 3 blynedd.  Bydd y GAI yn cynnwys un neu fwy o ofynion, a fydd yn cael eu penderfynu gan y Llys yn dilyn asesiad gan y GCIChC.  Bydd gweithiwr y GCIChC yn cydlynu gofynion y GAI, gan helpu'r plentyn i ddeall yr hyn y mae angen iddo ei wneud, ymgymryd ag ymyriadau a chymorth gyda'r plentyn, rhoi cymorth i'w rieni a'i ofalwyr os oes angen, a'i gefnogi i gwblhau ei Orchymyn.   Bydd y gwaith yn cynnwys helpu'r plentyn i feddwl am ei ymddygiad a'r niwed y mae ei droseddu wedi'i achosi i ddioddefwr.  Bydd gweithiwr y GCIChC hefyd yn helpu'r plentyn i ddelio ag anawsterau yn ei fywyd yn well, gan gynnwys cymorth i gael mynediad i addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth os oes angen, sy'n cael ei nodi fel ffactor pwysig iawn a all helpu i'w lywio i ffwrdd o ymddygiad troseddol.  

     

     

     

     

    Gorchmynion Atgyfeirio 

     

    Pan fo plentyn gerbron llys wedi'i gyhuddo o drosedd ac yn pledio'n euog, gall y Llys gyflwyno Gorchymyn Atgyfeirio. Yna, mae angen i'r plentyn fynychu panel Gorchymyn Atgyfeirio gyda'i rieni/gwarcheidwad. Mae o leiaf ddau wirfoddolwr o'r gymuned leol yn arwain y panel Gorchymyn Atgyfeirio, gydag aelod o'r GCIChC hefyd yn bresennol. Dan y Gorchymyn Atgyfeirio mae'r plentyn yn cytuno ar gontract gyda'r Panel, sy'n cynnwys ffocws ar adeiladu dealltwriaeth o effaith y drosedd ar y dioddefwr a'r gymuned ehangach, a sut i geisio gwneud iawn am hyn i’r dioddefwr neu'r gymuned neu drwy gefnogi cyfarfod adferol rhwng y plentyn a'r dioddefwr os cytunir ar hynny.  Bydd y contract hefyd yn cynnwys rhaglen o ymyriadau a chymorth i leihau'r siawns o gyflawni troseddau pellach a chynyddu ei datblygiad cadarnhaol.  Gall Gorchmynion Atgyfeirio barhau am hyd at 12 mis. Bydd yr euogfarn wedi’i ‘ddisbyddu’ ar ôl cwblhau’r contract yn llwyddiannus.

     

    Goruchwylio ac Arolygu Dwys (GAD)   

     

    Mae hyn yn cael ei gynnwys fel un o ofynion GAI os yw'r llys yn penderfynu bod angen gwneud hyn fel dewis arall i ddedfryd o garchar er mwyn gallu ei gefnogi yn y gymuned gyda chymorth mwy dwys y gellir ei asesu yn ôl yr angen.  Yn dilyn asesiad, mae'r GCIChC yn argymell i'r llys lefel y cymorth a'r hyn y dylai'r cymorth hwn ei gynnwys, gan gynnwys cyrffyw wedi'i fonitro'n electronig ar gyfer rhan gyntaf y GAI.

     

    Rhaglenni Gwaith Mechnïaeth/Remánd   

     

    Mae gan y GCIChC ddyletswydd i gynnig gwybodaeth, cymorth mechnïaeth a phecynnau goruchwylio ar gyfer plentyn pan ofynnir iddo wneud felly gan y Llys. Pryd bynnag y bydd llys yn gwrthod mechnïaeth i blentyn (10-17 oed), mae angen i'r llys remandio’r plentyn i lety awdurdod lleol oni bai bod amodau penodol yn cael eu bodloni, ac os felly gall y llys remandio'r plentyn i Lety Cadw Ieuenctid. Mae'r GCIChC yn cefnogi plant a theuluoedd sy'n derbyn unrhyw un o'r canlyniadau hyn o'r llys cyn dedfryd.

     

    Gwarchodaeth   

     

    Mae dau fath o ddedfrydau o garchar: Gorchymyn Cadw a Hyfforddi (GCH), a all fod rhwng pedwar mis a dwy flynedd o hyd, neu Orchymyn Adran 91/92, a all bara am flynyddoedd a mwy ac sydd ar gael dim ond pan geir dedfryd am drosedd ddifrifol iawn yn Llys y Goron.  Mae plant yn cyflawni hanner cyntaf GCH neu Orchymyn Adran 91/92 mewn lleoliad carcharu i blant, a'r misoedd sy'n weddill yn y gymuned "ar drwydded" sy'n cael eu goruchwylio gan y GCIChC. Mae'r GCIChC yn gweithio'n agos gyda'r Carchar a'r Ystâd Ddiogel i gefnogi'r plant sy'n derbyn dedfrydau o garchar. Mae'r GCIChC yn ymweld â'r plant yn rheolaidd ac yn cwrdd â staff yr ystâd ddiogel, plant a'u teuluoedd i gynllunio rhaglenni gwaith tra byddant yn y ddalfa ac i gynllunio ar gyfer rhyddhau'r plentyn. Mae'n bwysig bod yr holl gynnydd da a wneir tra byddant yn y ddalfa yn parhau ar ôl rhyddhau, felly rydym yn gweithio gyda'r plant, eu teuluoedd ac asiantaethau eraill i gael plant yn ôl i addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth, ac yn eu cefnogi i beidio â chyflawni rhagor o droseddau fel rhan o gynlluniau adsefydlu. 

     

     

     

     

     

     

     

     

     

  • Adborth am y Gwasanaeth

    Beth rydyn ni'n ei wneud yn iawn? Beth sydd angen i ni ei wella? Dyma'r mathau o bethau yr hoffem wybod amdanynt gan unrhyw un sydd wedi dod i gysylltiad â'r gwasanaeth. Bydd eich adborth yn ein galluogi i gynnal lefel gadarnhaol o wasanaethau ar draws yr ymyriadau a'r cynlluniau cymorth a ddarparwn.

      

     

    Os oes gennych adborth ynghylch eich rhyngweithio â'r gwasanaeth, rhowch wybod i ni gan ddefnyddio'r codau QR neu'r dolenni isod:

     

     

     

    Barn y Plentyn/Person Ifanc.                                       Barn y Rhiant/Gofalwr                  

     

     

    Child.young person views                                        YJESS Parent.carer views

     

    Adborth gan y dioddefwr/person wedi'i niweidio

    YJESS - Victim Feeback QR

      

     

     

  • Cyfleoedd

    Fforwm Cyfiawnder Ieuenctid

    Rydym yn cynnal Fforwm Cyfiawnder Ieuenctid gyda phobl ifanc sy'n derbyn cymorth gan y GCIChC ynghylch sut mae'r gwasanaeth yn gweithredu. Rydym wedi trefnu hyn i drafod cyfranogiad pobl ifanc a theuluoedd a'n nod yw hwyluso gofod fforwm sy'n cael ei arwain a'i gyfarwyddo'n llwyr gan blant, pobl ifanc a theuluoedd. Os hoffech chi gael mwy o wybodaeth am y Fforymau Cyfiawnder Ieuenctid, gallwch ofyn am hyn gan yosadmin@valeofglamorgan.gov.uk.

     

     

     

    Swyddi gwag

     

    Os ydych am ymuno â thîm cefnogol sy'n datblygu'n barhaus wrth weithio gyda phlant a phobl ifanc ym Mro Morgannwg, gweler y swyddi gwag isod:

     

    Rheolwr Ymarfer

     

      

     

     

    Rheolwr Ymarferydd – Rheoli Achosion