Cost of Living Support Icon

Amddiffyn Plant

Lle bynnag y bo modd dylid cefnogi plant i dyfu a chyflawni o fewn eu teuluoedd a’u cymunedau eu hunain. Mae hawl hefyd gan blant a phobl ifanc i gael eu diogelu rhag niwed.

 

Adrodd am Broblem

Os credwch fod plentyn mewn perygl ar unwaith o gael niwed, cysylltwch â’r heddlu ar 999. Os credwch fod plentyn mewn perygl, neu ddim yn derbyn gofal cywir, neu bod gennych bryder am ei les/lles, cysylltwch â:

  • Cwmpawd Teulu Fro 0808 281 6727 (opsiwn 3) / Allan o oriau: 029 20 788570

 

Am ragor o wybodaeth am gadw plant yn ddiogel, eiriolaeth ac i adrodd pryder, ewch i wefan Compass Teulu’r Fro: 

 

 

 

Bwrdd Diogelu Plant Rhanbarthol Caerdydd a Bro Morgannwg

Mae’r Bwrdd Diogelu Plant Rhanbarthol yn Bartneriaeth sy’n gyfrifol am weithio ynghyd i oruchwylio diogelwch a lles plant a phobl ifanc ar hyd a lled Caerdydd a Bro Morgannwg.

 

Mae gan bawb gyfrifoldeb i ddiogelu plant.  Gall pob plentyn gael ei frifo, fod mewn perygl o gael ei niweidio neu ei gam-drin, beth bynnag fo’i oedran, rhyw, crefydd neu ethnigrwydd.  Mae deddfwriaeth diogelu a chanllawiau’r llywodraeth yn dweud bod diogelu yn golygu:

 

  • Amddiffyn plant rhag cael eu cam-drin
  • Atal unrhyw niwed i iechyd neu ddatblygiad plant
  • Sicrhau bod plant yn cael eu magu mewn amgylchedd sy’n cynnig gofal diogel ac effeithiol

 

www.bldpcaerdyddarfro.co.uk

 

Dewis-logoDewis Cymru

Ffeindiwch gwybodaeth am asiantaethau a sefydliadau amddiffyn plant ym Mro Morgannwg.

 

Dewis Cymru