Y Cynnig Gofal Plant Cymru ym Mro Morgannwg
Mae'r Cynnig Gofal Plant yn darparu gofal plant wedi'i ariannu, sydd ar gael i fyfyrwyr mewn Addysg Bellach ac Uwch a rhieni cymwys sy’n gweithio, i blant 3-4 oed.
Gall gofal plant a ariennir ddechrau o'r tymor ar ôl pen-blwydd y plentyn yn 3 oed gan ddod i ben yn union cyn i'r plentyn ddechrau addysg llawn amser.
Mae'r Cynnig Gofal Plant yn darparu gofal plant wedi'i ariannu am 48 wythnos y flwyddyn.
Yn ystod y tymor, gallech gael arian ar gyfer hyd at 17.5 awr yr wythnos o ofal plant mewn darpariaeth gofal plant gofrestredig.
Yn ystod gwyliau’r ysgol, gallech gael arian ar gyfer hyd at 30 awr yr wythnos o ofal plant mewn darpariaeth gofal plant gofrestredig yn ystod tair wythnos benodol fesul tymor.
Sylwer: Mae meini prawf isafswm ac uchafswm cyflogau yn berthnasol. Rhaid i gyrsiau addysg bellach ac uwch fodloni meini prawf cymhwysedd.
I gael rhagor o wybodaeth am gymhwysedd, dyddiadau ymgeisio a'r broses gwneud cais am y Cynnig Gofal Plant, ewch i: Cynnig Gofal Plant
Llinell gymorth Cynnig Gofal Plant Cymru
Rhif ffôn: 03000 628 628
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg
Mae'r llinell gymorth ar agor:
- Dydd Llun i ddydd Iau 9am i 5pm
- Dydd Gwener 9am i 4:30pm
.
Y Cynnig Gofal Plant
Y Cynnig Gofal Plant a Dechrau Addysg Feithrin
Mae'r fideo hwn yn esbonio'r gwahaniaeth rhwng cyllid y Cynnig Gofal Plant a dechrau addysg feithrin ym Mro Morgannwg: