Cost of Living Support Icon

Dewis Ysgol

Gwybodaeth ac arweiniad ar ddewis ysgol addas i'ch plentyn ym Mro Morgannwg

 

Mae gan Fro Morgannwg 55 o ysgolion, gan gynnwys Ysgolion Meithrin, Cynradd, Uwchradd, Canol ac Arbennig.

 

Cyn i chi gwblhau cais, rydym yn argymell eich bod yn ymchwilio i'ch dewis ysgol.  Trwy gasglu cymaint o wybodaeth â phosibl am yr ysgolion yn eich ardal, gallwch benderfynu pa un fyddai fwyaf tebygol o ddiwallu anghenion eich plentyn.  

 

Dod o hyd i Ysgolion ym Mro Morgannwg  

 

Er mwyn eich helpu i benderfynu ar eich dewis ysgolion gallwch:

 

Ystyriwch ysgolion yn eich dalgylch

Nid oes angen i blentyn fyw o fewn dalgylch ysgol i fod yn gymwys i fynychu'r ysgol honno.  Fodd bynnag, rydym yn argymell eich bod yn ystyried cynnwys eich ysgol ddalgylch fel dewis wrth wneud cais am le mewn ysgol.  Mae plant sy’n byw yn yr ardal hon yn cael blaenoriaeth uwch o ran lle yn eu hysgol ddalgylch o gymharu ag ysgolion eraill a allai fod o ddiddordeb iddynt.

 

Nid yr ysgol sydd agosaf at gartref y plentyn yw’r ysgol ddalgylch bob tro. Gallwch ddod o hyd i'ch ysgolion dalgylch ar-lein. Nid yw byw yn nalgylch ysgol yn gwarantu lle i chi yn yr ysgol honno.

 

Ddod o hyd i'ch ysgolion dalgylch ar-lein

Ystyriwch sut bydd eich plentyn yn mynd i’r ysgol.

Eich cyfrifoldeb chi fel rhiant yw sicrhau bod eich plentyn yn gallu cyrraedd yr ysgol.

 

Teithio llesol - Dylai teithio llesol megis cerdded, beicio neu sgwtera fod y dull rydych yn ei ystyried wrth ddewis sut i gyrraedd yr ysgol. Gall teithio cynaliadwy hyrwyddo ymarfer corff, gwella dysgu disgyblion a chyfrannu at amgylchedd mwy diogel.

 

Trafnidiaeth ysgol am ddim - Efallai y byddwch yn gymwys i gael trafnidiaeth ysgol am ddim os yw eich plentyn yn byw pellter penodol o'r ysgol ddalgylch briodol agosaf. 

 

Trafnidiaeth amgen - Os nad ydych yn gymwys i gael trafnidiaeth am ddim i'r ysgol, mae llawer o opsiynau eraill ar gael. 

 

Dethol yr ysgolion o’ch dewis

Rhestrwch eich dewisiadau ysgol mewn trefn flaenoriaeth. Rhowch yr ysgol rydych chi ei heisiau fwyaf yn gyntaf.

 

Gwnewch yn siŵr eich bod yn dewis:

 

  • 3 ysgol ar gyfer Derbyn i Addysg Feithrin

  • 3 ysgol ar gyfer Derbyn i Addysg Gynradd

  • 3 ysgol ar gyfer derbyn i Addysg Uwchradd