Cost of Living Support Icon
Children-Leaving-School

Derbyn Plant i'r Ysgolion Cynradd

Gwybodaeth a chanllawiau ar wneud cais am le mewn ysgol gynradd  ym Mro Morgannwg

 

Mae’r polisi cyfredol yn caniatáu un derbyniad ym mis Medi, sy'n galluogi disgyblion o oedran dosbarth derbyn i gael eu derbyn i'r ysgol yn llawn amser ym mis Medi ar ôl eu pen-blwydd yn bedair oed.

 

Dosbarth Derbyn 2024

Proses Ar-lein yn agor:  27 Tachwedd 2023

Dyddiad Cau:  22 Ionawr 2024

Dyddiad Cynnig:  17 Ebrill 2024

 

Canllaw i Rieni ar Dderbyniadau Ysgol 2024/25

 

Gallwch wneud cais ar-lein am le mewn ysgol gynradd pan fydd y broses dderbyn ar agor.

 

Defnyddiwch y system ceisiadau ysgol ar-lein i:

  • Greu cyfrif, os nad oes un gennych eisoes
  • Gwneud cais newydd
  • Parhau gyda chais rydych wedi'i gadw
  • Gweld eich cais
  • Gweld eich cynigion am le mewn ysgol 

 

Gwnewch gais ar amser.  Gallwch weld dyddiadau pwysig yn ystod y broses ymgeisio ar gyfer lle mewn ysgol​ isod. Os byddwch yn methu'r dyddiad cau, ni allwch wneud cais hwyr ar-lein.  Bydd angen i chi gwblhau ffurflen gais hwyr ar bapur. Gallai colli’r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais effeithio’n sylweddol ar eich cyfle i gael y lle rydych yn ei ddymuno.  

 

Ni chaiff ceisiadau hwyr eu hystyried yn y rownd gyntaf o ddyraniadau ar y dyddiad cynnig a gyhoeddir. Bydd llawer o ysgolion yn cael eu tanysgrifio'n llwyr ar ôl y rownd gyntaf, felly mae'n bwysig cyflwyno'ch cais ar amser i gael y cyfle gorau i sicrhau lle yn eich ysgol ddewisol. Yn dilyn y rownd gyntaf o ddyraniadau, caiff pob cais hwyr ei ystyried ynghyd ag unrhyw blant sydd ar y rhestr aros. 

 

Llinell Amser y Broses Ymgeisio - Dyddiadau allweddol ar gyfer Derbyn i Ysgolion Cynradd

 

Dyddiad

Y cam yn y broses ymgeisio

27 Tachwedd 2023

Mae’r broses o wneud cais i ddechrau mewn Dosbarth Derbyn ym mis Medi 2024 yn cychwyn

22 Ionawr 2024

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau. Bydd angen cyflwyno unrhyw geisiadau a gwblheir ar ôl y dyddiad hwn ar bapur neu drwy e-bost a chânt eu hystyried fel ceisiadau hwyr

 

Ionawr i Ebrill 2024

Caiff pob cais ei brosesu a'i asesu yn erbyn meini prawf gordanysgrifio derbyn i ysgolion cynradd. Byddwn yn gwirio eich manylion cyfeiriad ac unrhyw wybodaeth ategol a roddir i ni.

 

17 Ebrill 2024

Dyddiad Cynnig. Byddwn yn anfon hysbysiad trwy e-bost neu lythyr os ydych wedi gofyn iddo gael ei anfon drwy'r post.

 

Ebrill 2024

Llunio rhestrau aros

 

1 Mai 2024

Y dyddiad cau ar gyfer ymateb rhieni i'r lle a gynigir. Sicrhewch eich bod yn derbyn neu'n gwrthod y lleoliad a gynigir i'ch plentyn.

 

Mai 2024

Mae ceisiadau (hwyr a cheisiadau ail ddewis) yr ail rownd yn cael eu prosesu a’u hasesu.

 

Mai/Mehefin 2024

Mae canlyniadau’r ail rownd yn cael eu hanfon allan yn y post. Bydd pob rownd arall yn cael ei phrosesu’n fisol o nawr ymlaen. 

Medi 2024

 

Mae'r plant yn dechrau yn yr ysgol gynradd.

 

 

 

Canllaw i Rieni ar Dderbyniadau Ysgolion

Caiff derbyn plant i ysgolion cynradd ei reoli a’i weinyddu gan ‘Awdurdod Derbyn’. Ar gyfer Ysgolion Cymunedol ac Ysgolion Gwirfoddol a Reolir, Cyngor Bro Morgannwg yw’r awdurdod hwn.  Ar gyfer Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir ac Ysgolion Sefydledig, yr Awdurdod Derbyn yw’r Corff Llywodraethu.

 

Bydd derbyniadau i ysgolion cynradd yn cael eu cyflwyno fel arfer os nad yw rhif derbyn yr ysgol wedi’i gyrraedd. Pan fo nifer y ceisiadau ar gyfer derbyn i ysgol yn fwy na nifer y llefydd sydd ar gael, h.y. pan fo rhif derbyn wedi'i gyrraedd, bydd llefydd yn cael eu dyrannu drwy ddefnyddio meini prawf derbyn cydnabyddedig.

 

 

Trefniadau Derbyn Cydlynol

Mae cyrff llywodraethu Ysgol Gynradd All Saint's C.W, Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llansannor, Ysgol Gynradd St Andrew, Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Saint y Brid, Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Dewi Sant, Ysgol Gynradd Gatholig Sant Joseph's R.C ac Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Y Wig a Marcroes wedi cytuno i gymryd rhan yn y cynllun. Hefyd gall Ysgolion Cymunedol Bro Morgannwg nawr hefyd ymgeisio am leoedd yn yr ysgolion hyn drwy ddefnyddio’r gwasanaeth ymgeisio ar-lein fel y nodir uchod. Sicrhewch eich bod wedi darllen a deall y meini prawf derbyn ar gyfer pob ysgol yr ydych yn ymgeisio amdanynt.

    •  Ysgol Gynradd All Saint's C.W

 

 

Yn achos ysgolion ble mae corff llywodraethol yr ysgol yw’r awdurdod derbyn, cynghorir rhieni i gysylltu â’r ysgol yn uniongyrchol. Ym Mro Morgannwg yr ysgolion hynny ydy (dolenni i wefannau allanol yr ysgolion yw’r rhain, ac maent yn Saesneg):  Ysgol Gynradd St Helens R.C a Pendoylan C/W.

 

 

Gwirio Dalgylch eich Ysgol

O fewn y Cyngor, mae gan bob ysgol ardal y maent yn draddodiadol yn gwasanaethu o'r enw Dalgylch Ysgol.

 

Gwirio dalgylch eich ysgol drwy ddefnyddio eich cod post: 

 

 

Mae gofyn i rieni ddweud pa ysgol yr hoffent i’w plentyn fynd iddi, hyd yn oed os mai ysgol y dalgylch yw hi. Oherwydd hyn, ni fydd hawl awtomatig gan ddisgyblion sy’n byw mewn dalgylch a ddiffiniwyd i fynd i’r ysgol honno. Rhaid cyflwyno cais ffurfiol.

 

Nodwch: Gallai methiant i wneud cais erbyn y dyddiad cau olygu gwrthod cais rhai rhieni / cynhalwyr am le yn yr ysgol leol /ddethol. Os bydd y galw’n uwch na’r nifer o leoedd sydd ar gael, bydd blaenoriaeth i blant y dalgylch bob tro. Fodd bynnag, nid oes gwarant y caiff plentyn fynd i’r ysgol ddethol. 

 

  

 

Nodwch: pan fydd rhieni’n cyflwyno gwybodaeth gamarweiniol yn fwriadol er mwyn i’w plant gael eu hystyried ar gyfer ysgol a fyddai allan o’u cyrraedd fel arall, mae’r Cyngor yn cadw’r hawl i dynnu cynnig yn ôl. Gellid erlyn y rhieni hefyd o dan Adran 5(b) o Ddeddf Anudon 1911.