Dyddiadau Allweddol
Symud i’r Ysgol Uwchradd ym mis Medi 2023
Dyddiad Agor: 23 Medi 2022
Dyddiad Cau: 25 Tachwedd 2022
Dyddiad y cynnig: 01 Mawrth 2023
Mewngofnodi i Borth Ceisiadau Ysgol
Gallwch wneud cais ar-lein am le mewn ysgol uwchradd pan fydd y broses dderbyn ar agor.
Defnyddiwch y system ceisiadau ysgol ar-lein i:
- Greu cyfrif, os nad oes un gennych eisoes
- Gwneud cais newydd
- Parhau gyda chais rydych wedi'i gadw
- Gweld eich cais
- Gweld eich cynigion am le mewn ysgol
Gwnewch gais ar amser. Gallwch weld dyddiadau pwysig un ystod y broses ymgeisio ar gyfer lle mewn ysgol isod. Os byddwch yn methu'r dyddiad cau, ni allwch wneud cais hwyr ar-lein. Bydd angen i chi gwblhau ffurflen gais hwyr ar bapur. Gallai colli’r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais effeithio’n sylweddol ar eich cyfle i gael y lle rydych yn ei ddymuno.
Ni chaiff ceisiadau hwyr eu hystyried yn y rownd gyntaf o ddyraniadau ar y dyddiad cynnig a gyhoeddir. Bydd llawer o ysgolion yn cael eu tanysgrifio'n llwyr ar ôl y rownd gyntaf, felly mae'n bwysig cyflwyno'ch cais ar amser i gael y cyfle gorau i sicrhau lle yn eich ysgol ddewisol. Yn dilyn y rownd gyntaf o ddyraniadau, caiff pob cais hwyr ei ystyried ynghyd ag unrhyw blant sydd ar y rhestr aros.
Polisi Derbyn Ysgolion 2023-24
Canllaw i Rieni ar Dderbyniadau Ysgol 2023/24
Llinell Amser y Broses Ymgeisio – Dyddiadau allweddol ar gyfer Derbyn i Ysgolion Uwchradd
Dyddiad
|
Y cam yn y broses ymgeisio
|
23 Medi 2022
|
Y broses o wneud cais i ddechrau ym Mlwyddyn 7 ym mis Medi 2023 yn cychwyn.
|
25 Tachwedd 2022
|
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau. Bydd angen cyflwyno unrhyw geisiadau a gwblheir ar ôl y dyddiad hwn ar bapur neu drwy e-bost a chânt eu hystyried fel ceisiadau hwyr
|
Tachwedd 2022 – Mawrth 2023
|
Caiff pob cais ei brosesu a'i asesu yn erbyn meini prawf gordanysgrifio derbyn i ysgolion uwchradd. Byddwn yn gwirio eich manylion cyfeiriad ac unrhyw wybodaeth ategol a roddir i ni.
|
1 Mawrth 2023
|
Dyddiad Cynnig. Byddwn yn anfon hysbysiad trwy e-bost neu lythyr os ydych wedi gofyn iddo gael ei anfon drwy'r post.
|
Mawrth 2023
|
Llunio rhestrau aros
|
15 Mawrth 2023
|
Y dyddiad cau ar gyfer ymateb rhieni i'r lle a gynigir. Sicrhewch eich bod yn derbyn neu'n gwrthod y lleoliad a gynigir i'ch plentyn.
|
Ebrill 2023
|
Mae ceisiadau (hwyr a cheisiadau ail ddewis) yr ail rownd yn cael eu prosesu a’u hasesu.
|
Ebrill/Mai 2023
|
Mae canlyniadau’r ail rownd yn cael eu hanfon allan yn y post. Bydd pob rownd arall yn cael ei phrosesu’n fisol o nawr ymlaen.
|
Medi 2023
|
Plant yn dechrau yn yr ysgol uwchradd.
|
St Richard Gwyn i gymryd rhan mewn Cynllun Peilot Trefniadau Derbyn Cydgysylltiedig
Yn dilyn cyflwyno cynllun peilot ar gyfer trefniadau derbyn cydgysylltiedig ar gyfer trosglwyddo o addysg gynradd i addysg uwchradd Medi 2021, mae corff llywodraethu Ysgol Uwchradd St Richard Gwyn R.C wedi cytuno i gymryd rhan yn y cynllun am ail flwyddyn ar gyfer proses ymgeisio 2023.
Yn ogystal ag Ysgolion Cymunedol Bro Morgannwg gallwch nawr wneud cais am le yn Ysgol Uwchradd St Richard Gwyn R.C drwy ddefnyddio'r gwasanaeth ymgeisio ar-lein fel y nodir uchod. Sicrhewch eich bod wedi darllen a deall yn glir y meini prawf derbyn ar gyfer yr ysgol yr ydych yn gwneud cais amdani.