Cost of Living Support Icon

Trafnidiaeth Ysgol

Children-Leaving-School

 

Mae gan Awdurdodau Addysg Lleol ddyletswydd statudol i ddarparu cludiant ysgol am ddim i ddisgyblion o oedran ysgol statudol sy'n preswylio y tu hwnt i bellter cerdded i'r ysgol briodol agosaf.  

 

Nid yw'r Cyngor yn darparu cludiant ysgol am ddim i blant oedran meithrin heblaw rhai sydd â Datganiad o Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).  

 

Mae gan Gyngor Bro Morgannwg bolisi dewisol sy'n darparu cymorth ariannol tuag at deithio i'r coleg ac oddi yno.

Trafnidiaeth Coleg: Teithio myfyrwyr addysg bellach i bobl ifanc 16/19 oed

 

Os yw'ch plentyn yn gymwys i gael cludiant am ddim i'r ysgol, fel arfer bydd sedd yn cael ei neilltuo ar gerbyd contract ysgol sy'n gwasanaethu eich ardal chi. Mewn achosion eraill bydd tocyn bws/ trên yn cael ei ddarparu i deithio ar y rhwydwaith gwasanaeth.

 

Trefniadau Cludiant Ysgol Prif Ffrwd 

 

  • Hysbysiad Trafnidiaeth

    Bydd rhieni/gofalwyr yn derbyn e-bost neu lythyr yn ystod yr haf gyda manylion cludiant a ddyrannwyd eu plenty. Gwiriwch y dudalen hon yn rheolaidd am unrhyw ddiweddariadau. 

     

     

  • Cymhwysedd ar gyfer Cludiant Am Ddim

    Mae disgyblion o’r Dosbarth Derbyn i Flwyddyn 11 yn cael eu hasesu'n awtomatig ar gyfer cludiant am ddim i'r ysgol:

     

    • Disgyblion Cynradd: Cymwys os ydynt yn byw dros 2 filltir o'u hysgol dalgylch (neu'r ysgol addas nesaf agosaf sydd ar gael os yw'n llawn)
    • Disgyblion Uwchradd: Cymwys os ydynt yn byw dros 3 milltir o'u hysgol dalgylch (neu'r ysgol addas nesaf sydd ar gael os yw'n llawn)
    • Mesur pellteroedd yn ôl y llwybr cerdded byrraf sydd ar gael a bydd angen i ddisgyblion fod yng nghwmni oedolyn cyfrifol os oes angen

     

    Nid oes angen ffurflenni cais, bydd llythyrau, negeseuon e-bost a/neu docynnau yn cael eu hanfon yn uniongyrchol at ddisgyblion/rhieni/gofalwyr mewn pryd ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd.

     

    Dim ond y disgyblion/rhieni/gofalwyr canlynol sydd angen cysylltu â'r tîm cludiant ysgol: 

     

    • Cofrestriadau hwyr

    • Newidiadau cyfeiriad diweddar

    • Dechrau Ôl-16 (Blwyddyn 12) ym mis Medi 

     

     

     

    Bydd pob disgybl presennol sydd wedi cael cludiant ysgol am ddim eleni yn derbyn llythyr/e-bost/tocyn bws yn awtomatig cysylltwch â ni os ydych wedi symud cyfeiriad yn ddiweddar)

     

    Bydd angen i ddisgyblion sy'n dechrau Blwyddyn 12 sy'n dymuno parhau â'u hastudiaethau yn mynychu eu hysgol dalgylch neu Goleg Dewi Sant, roi gwybod i'r tîm cludiant ysgol ddim hwyrach nag wythnos yn dilyn canlyniadau eu harholiadau er mwyn derbyn eu pas ar gyfer dechrau mis Medi.

     

    I gysylltu â'r tîm cludiant ysgol:

     

    E-bostiwch schooltransport@valeofglamorgan.gov.uk gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys y wybodaeth ganlynol: 

     

    • Enw'r plentyn

    • Dyddiad geni

    • Cyfeiriad

    • Rhif cyswllt

    • Ysgol

    • Rhif y llwybr (os yw'n hysbys)

     

    Sylwer: Mae'r disgyblion hynny sy'n gymwys i gael cludiant ysgol am ddim yn cytuno i gadw at bolisi trafnidiaeth Ysgolion Cyngor Bro Morgannwg a chod ymddygiad teithio Llywodraeth Cymru.