Ymhellach i'n cyfathrebu diweddar ynghylch gwerthu tocynnau prynu a'r Rheoliadau Hygyrchedd Cerbydau Gwasanaethau Cyhoeddus (PSVAR), rydym bellach mewn sefyllfa i ddechrau cynnig tocynnau prynu ar lwybrau lle mae gweithredwyr wedi cael tystysgrif eithriad PSVAR yn llwyddiannus a lle mae capasiti yn caniatáu.
Nid yw pob gweithredwr wedi bod yn llwyddiannus yn eu ceisiadau eithriad. Yn anffodus, ar gyfer llwybrau a weithredir gan y darparwyr hyn, nid ydym yn gallu sicrhau bod seddi ar gael i'w prynu ar hyn o bryd. Nid oes angen i rieni/gofalwyr gysylltu â'r tîm trafnidiaeth i wirio a yw gweithredwr wedi cael tystysgrif eithriad cyn gwneud cais. Bydd pob cais yn cael ei asesu ar ôl ei dderbyn, a bydd ymgeiswyr yn cael gwybod am y canlyniad yn seiliedig ar statws eithriad y gweithredwr a'r capasiti sydd ar gael.
Yn ogystal, mae rhai gweithredwyr yn dal i aros am ganlyniad eu ceisiadau. Gellir cyflwyno ceisiadau am brynu tocynnau ar y llwybrau hyn o hyd; fodd bynnag, byddant yn cael eu rhoi ar restr aros nes bod penderfyniad gan yr Adran Drafnidiaeth wedi cael ei dderbyn gan y gweithredwr.
Mae croeso i rieni/gofalwyr wneud cais am docyn prynu waeth beth fo'r llwybr. Pan fo gweithredwr wedi cael tystysgrif eithriad a bod digon o gapasiti ar y cerbyd, bydd seddi yn cael eu gwerthu yn unol â hynny. Bydd tocynnau yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin.