Cost of Living Support Icon

Y Rhws – Ysgol Ddalgylch Uwchradd a Chludiant i'r Ysgol

Mae'r dalgylch diwygiedig ar gyfer Ysgol Gyfun y Bont-faen i gynnwys ardal y Rhws yn weithredol o fis Medi 2021 ac fe'i bwriedir ar gyfer mynediad Blwyddyn 7 a mynediad blwyddyn 7 wedi hynny.

 

Mae manylion am y newid mewn dalgylchoedd i'w gweld yn y ddolen isod:

 

 

Mae'r Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb, Atodiad D i'r adroddiad, yn nodi'n glir y byddai'r newid arfaethedig yn cael ei gyhoeddi ac yn berthnasol ar gyfer derbyn i ysgolion yn ystod y flwyddyn academaidd 2021/22.

 

  • Sut fyddwch chi’n cyflawni’r newidiadau a gynigir?

    Dechreuodd y cyfnod ymgynghori ar gyfer y cynnig ar 11 Rhagfyr 2019 a daeth i ben ar 3 Chwefror 2020.

     

    Cyflwynir Adroddiad Ymgynghori i’r Cabinet ar 22 Mawrth 2020.  Mae gan y Cyngor ddyletswydd statudol i ymgynghori ar drefniadau derbyn i ysgolion yn flynyddol ac i benderfynu ar y trefniadau ar gyfer 2020/21 yn dilyn ymgynghoriad priodol erbyn dim hwyrach na 15 Ebrll 2020.

     

    Yna caiff y trefniadau derbyn hyn eu cyhoeddi a’u cymhwyso ar gyfer derbyn i ysgolion yn ystod blwyddyn academaidd 2021/22. 

     

  • Pwy fydd yn cyflawni’r cynnig?

    Yn amodol ar gymeradwyo’r cynnig hwn, y Gyfarwyddiaeth Dysgu a Sgiliau fydd yn cyflawni’r cynnig hwn drwy gymhwyso’r trefniadau derbyn ar gyfer mynediad i flwyddyn academaidd 2021/22. 

     

  • Sut fyddwch chi’n gwybod a ydych wedi cyflawni diben y cynnig? 

    Bydd hyn yn cael ei benderfynu drwy gymhwyso’r trefniadau derbyn y cytunwyd arnynt ar 1 Mawrth 2021 ac wedi hynny. 

     

    Rhagwelir y bydd y newid yn arwain at nifer uwch o geisiadau llwyddiannus i ddisgyblion y mae eu rhieni wedi gwneud cais am le yn eu hysgol uwchradd leol erbyn y dyddiad cau. 

     

 

Darpariaeth Cludiant Ysgol am Ddim o'r Rhws i Ysgol Gyfun

Felly, darperir cludiant ysgol am ddim o ardal y Rhws i'r ysgol uwchradd ar y sail ganlynol:

 

Transport arrangements
Blwyddyn AcademaiddYsgol Gyfun y Bont-faenYsgol Gyfun Llanilltud FawrYsgol Uwchradd Whitmore
2021/22

Blwyddyn 7

Blwyddyn 8, 9, 10, 11, 12 a 13

Blwyddyn 8, 9, 10, 11, 12 a 13

2022/23

Blwyddyn 7 a 8

Blwyddyn 9, 10, 11, 12 a 13

Blwyddyn 9, 10, 11, 12 a 13

2023/24

Blwyddyn 7, 8 a 9

Blwyddyn 10, 11, 12 a 13

Blwyddyn 10, 11, 12 a 13

2024/25

Blwyddyn 7, 8, 9 a 10

Blwyddyn 11, 12 a 13

Blwyddyn 11, 12 a 13

2025/26

Blwyddyn 7, 8, 9, 10 a 11

Blwyddyn 12 a 13

Blwyddyn 12 a 13

2026/27

Blwyddyn 7, 8, 9, 10, 11 a 12

Blwyddyn 13

Blwyddyn 13

2027/28

Blwyddyn 7, 8, 9, 10, 11, 12 a 13

Dd/B

Dd/B

 

Cwestiynau Cyffredin

 

  • Rwy'n byw yn y Rhws a bydd fy mhlentyn/plant ym Mlynyddoedd 8, 9, 10, 11, 12 neu 13 ym mis Medi 2021 ac yn mynychu Ysgol Gyfun y Bont-faen, a oes ganddynt hawl i gludiant ysgol am ddim?

      

    Ymateb: Na.

     

    Darperir darpariaeth cludiant i'r ysgol yn unol â'r dalgylch blaenorol gyda'r Rhws yn gwasanaethu Ysgolion Uwchradd Llanilltud Fawr a Whitmore o fis Medi 2021.

     

    Ni ddarperir cludiant ysgol am ddim o'r Rhws i Ysgol Gyfun y Bont-faen ar gyfer disgyblion presennol yr oedd eu rhieni'n arfer dewis rhieni ac a oedd y tu allan i'r dalgylch ar gyfer yr ysgol cyn mis Medi 2021. 

     

  • Mae fy mhlentyn ym Mlwyddyn 7 ac yn mynychu Ysgol Gyfun Llanilltud Fawr o fis Medi 2021, fel y mae ei frawd/chwaer eisoes yn ei wneud, a oes ganddo hawl i gludiant ysgol am ddim?

      

    Ymateb: Na.

     

    Nid yw'r disgyblion hynny ym Mlwyddyn 7 sy'n byw yn y Rhws bellach yn derbyn cludiant ysgol am ddim i Ysgol Gyfun Llanilltud Fawr neu Ysgol Uwchradd Whitmore. Nid yw cludiant ysgol yn ystyried brodyr a chwiorydd.  Bydd Ttransport yn parhau ar gyfer Blynyddoedd 8, 9, 10, 11, 12 neu 13 o'r Rhws i Ysgol Gyfun Llanilltud Fawr neu Ysgol Uwchradd Whitmore.

     

    Mae gan rieni sydd wedi dewis anfon eu plentyn i Ysgol Gyfun Llanilltud Fawr yr opsiwn i brynu sedd sbâr (os oes un ar gael) ar y bws ysgol dan gontract am gost o £300 y flwyddyn. 

     

  • Rwyf am brynu pàs bws ar wasanaeth A16 (Y Rhws i Ysgol Gyfun y Bont-faen) ar gyfer fy mhlentyn sydd ym Mlwyddyn 8, 9, 10, 11, 12 neu 13 sy'n mynychu Ysgol Gyfun y Bont-faen ond dywedwyd wrthyf nad oes capasiti sbâr.  A fydd y Cyngor yn sicrhau bod seddi ar gael drwy drefnu bod cerbyd ychwanegol ar gael?

      

    Ymateb: Na.

     

    Penderfynodd y Cyngor dynnu'n ôl y cyllid ar gyfer talu cludiant ysgol o fis Medi 2020 ac nid yw'n gallu darparu cyllid ar gyfer gwasanaeth bws sy'n darparu ar gyfer disgyblion nad ydynt yn gymwys i gael cludiant am ddim i'r ysgol.

    Yn ogystal, mae gwasanaeth preifat sy'n rhedeg o ardal y Rhws i Ysgol Gyfun y Bont-faen (CC1) eisoes ar waith. Mae'n wasanaeth masnachol sy'n cael ei redeg gan Caring Coaches.

     

    Nid oes gan y Cyngor ddyletswydd statudol i werthu seddi sbâr ar ei wasanaethau cludiant ysgol dan gontract. Fodd bynnag, mae'n gwneud hynny yn ôl ei ddisgresiwn ac ar sail y cyntaf i'r felin. Ar hyn o bryd codir £300 y flwyddyn am seddi sbâr (cyfradd llawer is o'r gost wirioneddol y pen am ddarparu cludiant i'r ysgol). Unwaith y dyrennir yr holl seddi sydd ar gael, hysbysir rhieni/gofalwyr ac os nad ydynt yn llwyddo i brynu sedd, rhaid iddynt wneud eu trefniadau teithio eu hunain. Gwerthir pasys ar yr amod y gellir eu cymryd yn ôl ar fyr rybudd (os oes angen lle ar y bws i ddisgybl sy'n gymwys i gael cludiant am ddim i'r ysgol). Nid yw dyfarnu pàs i chi yn golygu y cewch bàs yn y blynyddoedd a ddaw.

     

    Ar hyn o bryd, nid oes seddi sbâr ar gael ar wasanaeth bws ysgol A16 yn dilyn dyraniad ar sail y cyntaf i'r felin o'r nifer fach o seddi a oedd ar gael.

     

    **Dylid nodi oherwydd Rheoliadau Hygyrchedd Cerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus (RhHCGC), ni all y Cyngor werthu capasiti sbâr ar rai gwasanaethau (h.y. y cerbydau hynny nad ydynt yn cydymffurfio â RhHCGC neu sydd wedi cael caniatâd dros dro tan ddiwedd blwyddyn academaidd 2020-21 gan yr Adran Drafnidiaeth).  O dan amgylchiadau o'r fath, byddwn yn rhoi cyngor ar ôl i chi gyflwyno'ch cais.

     

    Ar hyn o bryd nid yw'n hysbys a fydd yr Adran Drafnidiaeth yn rhoi eithriadau pellach, ar ôl 31 Rhagfyr 2021, felly efallai na fydd yn bosibl gwerthu seddi sbâr ar rai gwasanaethau. Bydd gwybodaeth am hyn yn cael ei hanfon cyn gynted ag y bydd y Cyngor wedi cael penderfyniad gan yr Adran Drafnidiaeth. Gan fod gwasanaeth cludiant ysgol A16 yn wasanaeth newydd mae'r gweithredwr yn darparu cerbyd sy'n cwrdd â'r RhHCGC. 

     

  • Rwyf wedi symud i ardal y Rhws yn ddiweddar, a fydd fy mhlentyn yn gymwys i gael cludiant am ddim i'r ysgol?

     

    Ymateb: Ar adeg gwneud cais i'n hadran Dderbyn, dylai rhieni holi pa ysgol yw ysgol ddalgylch eu plentyn. Darperir cludiant am ddim i'r ysgol, yn unol â pholisi cludiant ysgol y Cyngor:

     

     

  • Bydd fy mhlentyn yn mynychu Blwyddyn 7 ym mis Medi 2021. Fe wnes i gais am le yn Ysgol Gyfun Llanilltud Fawr a'i dderbyn. Rwyf wedi siarad â'r adran Dderbyn yn ddiweddar ac maent wedi dweud wrthyf nad oes lle yn Ysgol Gyfun y Bont-faen. A allaf gael pàs bws ysgol am ddim ar gyfer Ysgol Gyfun Llanilltud Fawr gan fod fy ysgol ddalgylch yn llawn?

     

    Ymateb: Na.

    Gan mai eich dewis cyntaf oedd Ysgol Gyfun Llanilltud Fawr a'ch bod wedi derbyn y lle hwnnw, rydych wedi arfer eich dewis fel rhiant ar gyfer ysgol nad yw'n ysgol ddalgylch. Pe baech wedi gwneud cais ar gyfer Ysgol Gyfun y Bont-faen ar yr adeg y gofynnwyd am geisiadau derbyn, y tebygolrwydd yw y byddech wedi cael lle yn yr ysgol a byddai'r cynnig o gludiant ysgol am ddim wedi'i wneud.