Cost of Living Support Icon

Trafnidiaeth Coleg 

Teithio Myfyrwyr Addysg Bellach i Bobl Ifanc 16/19 oed  

 

Mae gan Gyngor Bro Morgannwg bolisi disgresiwn sy'n rhoi help ariannol tuag at deithio i sefydliad addysgol o ddewis y myfyriwr ac adref. Mae’n rhaid i fyfyrwyr fod rhwng 16 ac 18 oed ar neu cyn dechrau’r flwyddyn academaidd y maent yn gwneud cais amdano, ac mae’n rhaid iddynt fod yn byw mwy na 3 milltir ar droed o’u sefydliad addysgol o ddewis.  

 

Rhaid i’r sefydliad addysgol o ddewis fod yr agosaf sy’n cynnig y cwrs y maent yn dymuno ei ddilyn.  

 

Caiff yr holl geisiadau am grant teithio ar gyfer Coleg Caerdydd a’r Fro a Choleg Pen-y-bont eu hystyried gan y colegau eu hunain. 

 

 

Ar gyfer pob coleg arall cysylltwch ag Uned Trafnidiaeth Teithwyr y Cyngor trwy Contact One Vale