Mae unrhyw newidiadau arfaethedig i ysgolion yn destun y Cod Trefniadaeth Ysgolion diweddaraf (fersiwn 2018 ar hyn o bryd). Mae’r ddogfen hon yn rhoi gwybod i Gynghorau am ba agweddau addysgol ar y cynnig y mae'n rhaid iddo ymgynghori arno; er enghraifft, newidiadau i fath o ysgol, symud y safle i leoliad sy’n na milltir i ffwrdd neu newidiadau i niferoedd disgyblion sy’n fwy na 25%. Mae’r cyfnod ymgynghori’n rhoi cyfle i randdeiliaid i roi adborth ar y cynnig. Yn ystod y broses ymgynghori cynhelir sesiynau ymgysylltu rhanddeiliaid â disgyblion, rhieni, athrawon, llywodraethwyr ac aelodau’r gymuned i ateb ymholiadau a chlywed eu barn yn anffurfiol.
Wedyn caiff yr ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno i Gabinet y Cyngor (neu’r corff llywodraethu yn achos Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir) a fydd yn pleidleisio ar y cynnig gan bwyso a mesur y risgiau a’r manteision addysgol. Gellir naill ai gymeradwyo neu wrthod y cynnig ar y cam hwn ar sail adborth rhanddeiliaid. Os yw’r Cabinet yn cymeradwyo’r cynnig yna caiff Hysbysiad Statudol ei gyhoeddi, y gall y cyhoedd gyflwyno gwrthwynebiadau iddo. Rhoddir y gwrthwynebiadau i’r Cabinet, sydd wedyn yn gwneud y penderfyniad terfynol o ran a yw’n cymeradwyo neu’n gwrthod y cynnig. Mae hyn yn golygu na phenderfynir ar gynigion o flaen llaw gan fod llawer o gamau lle y gall cynigion gael eu gwrthod ar seiliau addysgol dilys. Mae mwy o wybodaeth am y broses ymgynghori statudol yn y canllaw hwn.