Cost of Living Support Icon

Prydau Ysgol Am Ddim

Os ydych yn hawlio budd-daliadau penodol, gallech arbed arian trwy hawlio prydau ysgol am ddim i’ch plentyn.

 

Mae hawl gan blant sy’n mynychu ysgol ym Mro Morgannwg ac y mae eu rhieni neu eu gofalwyr yn derbyn y budd-daliadau canlynol i dderbyn Prydau Ysgol Am Ddim. 

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceiswyr Gwaith ar Sail Incwm
  • Lwfans Cymorth Cyflogaeth ar Sail Incwm
  • Credyd Pensiwn Gwarantedig
  • Cymorth dan Ran VI Deddf Mewnfudo a Lloches 1999
  • Credyd Treth Plant pan fo cyfanswm yr incwm blynyddol a enillir (yn unol ag asesiad CThEM) yn llai na £16,190
  • Credyd Treth Gwaith ychwanegol
  • Credyd Treth Gwaith ychwanegol 
  • Credyd Cynhwysol pan fo’r swm net blynyddol a enillir trwy gyflogaeth neu hunangyflogaeth yn £7,400 neu’n llai (yn unol ag asesiad yr Adran Gwaith a Phensiynau)

  

Disgyblion sy’n derbyn Lwfans Ceisio Gwaith neu Lwfans Ceisio Gwaith ar Sail Incwm yn eu rhinwedd eu hunain ac sydd hefyd yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim.

 

Ni fyddwch yn gymwys i dderbyn Prydau Ysgol Am Ddim os ydych yn derbyn Credyd Treth Gwaith neu Gredyd Cynhwysol a bod eich incwm net blynyddol a enillir trwy gyflogaeth neu hunangyflogaeth yn fwy na £7,400.

 

Sut mae gwneud cais

Gweinyddir Prydau Ysgol Am Ddim gan yr adran Budd-daliadau.

 

Lawrlwythwch ffurflen gais gan ei llenwi a’i dychwelyd i:

Prydau Ysgol Am Ddim

Adran Budd-daliadau

Swyddfeydd Dinesig

Heol Holltwn

Y Barri

CF63 4RU

 

 

Neu ffoniwch ni ar 01446 709244 a byddwn yn postio ffurflen atoch.

 

 

Rhaid i chi roi gwybod i ni os bydd newid i’ch amgylchiadau's newid, gan gynnwys:

 

  • Os byddwch yn dechrau gweithio neu stopio derbyn budd-daliadau
  • Os byddwch yn newid i fudd-dal gwahanol
  • Os byddwch yn newid eich cyfeiriad
  • Os byddwch eich plentyn yn symud i gyfeiriad arall
  • Os byddwch eich plentyn yn newid ysgol yn ystod y flwyddyn ysgol

 

Bydd angen i chi gwblhau cais newydd hefyd os bydd eich plentyn yn dechrau'r ysgol am y tro cyntaf ac am unrhyw blant canlynol pan fyddant yn dechrau’r ysgol.

 

Os yw’ch plentyn yn mynychu ysgol y tu allan i Fro Morgannwg, bydd angen i chi hawlio Prydau Ysgol Am Ddim gan y Cyngor lleoliad yr ysgol.

 

Sylwch na allwch hawlio Prydau Ysgol Am Ddim mewn ysgolion preifat, ysgolion meithrin neu goleg.