Cost of Living Support Icon

Primary School Miss School Miss OutPresenoldeb a Lles Addysg

Cymorth a chyngor ynghylch mynychu ysgolion ym Mro Morgannwg

 

Rydym yn deall y gall fod yn anodd weithiau cael eich plant allan o’r gwely ac allan o’r tŷ ar amser bob bore, yn enwedig os nad yw eich plentyn eisiau mynd am ryw reswm.

 

Fodd bynnag, mae er eu lles gorau i fynychu'r ysgol, felly dyma rai ffyrdd y gallwch helpu i'w cael allan o'r tŷ ac i'r ysgol yn brydlon.

 

Gwyddom y gall plant sy'n colli hyd yn oed dim ond ychydig bach o addysg syrthio ar ei hôl hi'n gyflym ac y gallant golli llawer o gyfleoedd. Gall bod yn hwyr yn rheolaidd hefyd achosi problemau cymdeithasol yn ogystal â phroblemau academaidd.

 

Beth alla i ei wneud i sicrhau bod fy mhlentyn yn mynychu'r ysgol?

  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod polisi presenoldeb yr ysgol; mae gan bob ysgol un.

  • Gwnewch yn siŵr bod eich plentyn yn cyrraedd ar amser i ddechrau sesiynau'r bore a'r prynhawn.

  • Os ydych chi'n amau bod eich plentyn yn colli'r ysgol neu'n anhapus yn yr ysgol, cysylltwch â'r ysgol neu'r Tîm Cynhwysiant a all helpu i ddatrys unrhyw anawsterau a chynnig cyngor cyfeillgar.

  • Os yw eich plentyn yn colli'r ysgol, cysylltwch â'r ysgol. Bydd staff yr ysgol yn gweithio gyda chi i helpu i wella'r sefyllfa. Mae'n well cysylltu â ni yn gyntaf fel y gallwn sicrhau bod camau'n cael eu cymryd i'ch helpu.

  • Os yw eich plentyn i ffwrdd am resymau eraill fel apwyntiad meddyg neu'r deintydd, rhowch wybod i'r ysgol ymlaen llaw.

  • Gwnewch yn siŵr bod eich plentyn yn gwybod nad ydych yn cymeradwyo ei fod yn colli'r ysgol am unrhyw reswm, ond byddwch yn wyliadwrus am unrhyw resymau penodol dros beidio â mynychu'r ysgol, fel bwlio, anawsterau gyda gwaith ysgol.

  • Cymerwch ddiddordeb yn addysg eich plentyn, gofynnwch iddo beth wnaeth e’ yn yr ysgol a chael gwybod a yw'n cael trafferth mewn unrhyw ffordd a chofiwch gynnig eich cefnogaeth. Os na allwch ei helpu, siaradwch â'r ysgol a rhowch wybod iddo am unrhyw anawsterau.

 

Rwy'n dal i gael trafferth anfon fy mhlentyn i'r ysgol.

Rhowch wybod i'ch ysgol yr hoffech gael help a chefnogaeth a beth yw eich pryderon. Efallai y gallant helpu ac efallai y byddant yn atgyfeirio i'r Tîm Cynhwysiant i gael mwy o gefnogaeth i'ch plentyn ac i chi.

  

Gallwch e-bostio ar unrhyw adeg am gyngor ac arweiniad:

 

Byddwn yn gweithio gyda chi a'r ysgol i sicrhau bod eich plentyn yn cael cymorth neu'n mynd i'r afael ag unrhyw faterion a allai fod yn eu hatal rhag mynd i'r ysgol.  

 

Mae'n bwysig eich bod yn ceisio cael help ar gyfer materion presenoldeb cyn gynted â phosibl cyn i'r pryderon fynd yn fwy ac yn anoddach i'w datrys.

 

Os nad oes rhesymau dilys dros beidio â mynychu, yna mae mesurau cyfreithiol y gellir eu cychwyn a all gynnwys cyhoeddi Hysbysiadau Cosb Benodedig (HCB) ac erlyniadau Deddf Addysg ysgol.  

 

Unwaith eto, os oes gennych bryder am unrhyw un o'r materion hyn, cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl: