Cost of Living Support Icon

Addysg Ddewisol yn y Cartref

Mae addysg ddewisol yn y cartref – y cyfeirir ati weithiau fel 'ADdC' – yn derm a ddefnyddir i ddisgrifio pan fo rhieni'n dewis addysgu eu plant eu hunain yn hytrach na'u hanfon i'r ysgol.   

 

Yng Nghymru, fel gyda gweddill y DU, mae addysg addas amser llawn yn orfodol, ond nid yw mynd i'r ysgol ei hun yn orfodol ar yr amod bod y ddarpariaeth ddysgu yn cael ei gwneud fel arall gan y rhiant.

 

Pan fydd rhiant yn penderfynu addysgu ei blentyn/plant gartref, mae angen iddo hysbysu'r ysgol yn ysgrifenedig. Bydd yr ysgol yn tynnu'r plentyn oddi ar ei  chofrestr ac yn hysbysu'r Awdurdod Lleol fel y gall yr Awdurdod Lleol gynnig cymorth i chi a sicrhau bod y ddarpariaeth ar gyfer dysgu yn addas.

 

Gall rhieni plant nad ydynt wedi bod ar gofrestr ysgol o'r blaen, neu sydd wedi symud i'r ardal, hysbysu'r Awdurdod Lleol yn uniongyrchol eu bod yn addysgwyr cartref er mwyn sicrhau nad ydynt ar eu colled o ran y cymorth sydd ar gael i ddysgwyr ADdC yn yr ardal.

 

Beth sydd angen i mi ei addysgu i fy mhlentyn/plant?

O dan adran 7 Deddf Addysg 1996, eich dyletswydd chi fel rhiant yw sicrhau bod eich plentyn yn cael addysg effeithlon amser llawn sy'n addas ar gyfer ei oedran, ei allu a'i ddawn ac ar gyfer unrhyw anghenion addysgol arbennig sydd ganddo.

 

Gellir gwneud hyn naill ai yn yr ysgol neu fel arall.  Ystyrir bod addysg yn effeithlon ac yn addas os yw'n galluogi’r plentyn i gyflawni ei botensial a'i baratoi at fywyd fel oedolyn. Mae gan blant hawl i addysg o dan gyfraith Cymru ac fel rhan o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn  (CCUHP) o dan Erthygl 28.

Beth sy'n digwydd os yw'n ymddangos nad wyf yn darparu addysg addas?

O dan adran 437(1) Deddf Addysg 1996, mae dyletswydd ar awdurdodau lleol i ymyrryd os yw'n ymddangos nad yw rhieni'n darparu addysg addas. Bydd eich awdurdod lleol yn cynnig ymweld â'ch cartref gyda'r nod o'ch helpu i oresgyn yr anawsterau o fewn amserlen y cytunwyd arni.

 

Os byddwch yn methu â dangos i'r awdurdod lleol eich bod yn darparu addysg addas, a’i fod yn teimlo bod angen i'ch plentyn fynd i'r ysgol, mae’n rhaid iddo gyflwyno Gorchymyn Mynychu'r Ysgol (GMY) i chi.  I gael mwy o wybodaeth am y Gorchymyn, darllenwch Fframwaith Presenoldeb ar gyfer Cymru Gyfan:

 

Fframwaith Presenoldeb ar gyfer Cymru Gyfan

Cymorth gan yr Awdurdod Lleol

Bydd aelod o'r Tîm Cynhwysiant yn cysylltu â chi i gynnig cyfarfod neu ymweld â’r cartref er mwyn trafod yr adnoddau sydd ar gael i chi, ynghyd â dulliau dysgu a gwahanol gynlluniau gwaith y gellid eu defnyddio.  Ar ôl yr ymweliad cychwynnol, cynigir cysylltiadau dilynol blynyddol wedyn i gefnogi eich darpariaeth addysg yn y cartref ac i asesu a ydych yn bodloni neu'n parhau i fodloni'r gofynion cyfreithiol o fod yn addas, yn effeithlon ac yn amser llawn.  

 

Er eich bod chi fel rhieni yn cymryd cyfrifoldeb llawn am addysg eich plentyn, efallai y bydd rhai rhieni'n dewis cyflogi tiwtoriaid a gallwn roi cyngor ynglŷn â'r math hwn o drefniant.

 

Yn sgil grant diweddar gan Lywodraeth Cymru, rydym hefyd bellach yn gallu cynnig ystod o gymorth i ddysgwyr ADdC i'w helpu i fodloni'r rhwymedigaeth o ddarparu addysg addas amser llawn ac i helpu i sicrhau bod dysgwyr a addysgir yn y cartref yn gallu manteisio ar gymwysterau ffurfiol ac ystod o gymorth arall.  

Dysgwyr sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)

Gall dysgwyr sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) gael eu haddysgu gartref, er y bydd angen i ni sicrhau bod eu hanghenion ADY yn cael eu diwallu'n briodol gan y ddarpariaeth ADdC. Fodd bynnag, os yw dysgwyr yn mynychu ysgol arbennig, ni ellir tynnu eu henwau oddi ar gofrestr yr ysgol heb gydsyniad yr Awdurdod Lleol.

Arholiadau TGAU a chymwysterau eraill

Gall elfen asesu ac asesu ymarferol barhaus llawer o gyrsiau cymwysterau safonol fel TGAU gyfyngu ar y dewis sydd ar gael i blant ADdC. 

 

Fodd bynnag, mae cymwysterau TGAU Rhyngwladol (TGAUrh) ar gael i ddisgyblion a addysgir gartref a gall opsiynau eraill fod ar gael drwy golegau lleol.  Gallwn gynnig cymorth ac arweiniad ynglŷn â sut y gellir ennill y cymwysterau hyn.

 

Os ydych yn ystyried addysgu eich plentyn/plant yn y cartref, cysylltwch â’r Tîm Cynhwysiant i gael llyfryn gwybodaeth. Bydd hwn yn rhoi'r holl wybodaeth i chi am bolisi ac arfer Awdurdod Lleol Bro Morgannwg.