Hafan >
Byw >
Panel Dros Dro ac Ail-ymgysylltu (Panel DDA)
Panel Dros Dro ac Ail-ymgysylltu (Panel DDA)
Cylch Gorchwyl 2025 – 2026
Nod a Rôl
Nod y panel yw cyflawni'r ddyletswydd a osodir ar awdurdodau lleol yn Adran 19 o Ddeddf Addysg 1996 i wneud trefniadau ar gyfer darpariaeth Addysg Heblaw yn yr Ysgol addas ar gyfer dysgwyr nad ydynt bellach yn gallu mynychu'r ysgol am unrhyw reswm, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) salwch a gwahardd.
Bydd y Panel DDA yn ystyried gweithredu Tiwtora Dros Dro ar gyfer Ail-ymgysylltu; bydd hyn yn dilyn y cwricwlwm newydd i sicrhau bod gan ddysgwyr gymysgedd o ddarpariaeth bwrpasol i gefnogi modelau ail-integreiddio, gallai darpariaeth gynnwys darparwyr fel Smooth Starts Plus, robot AV1, Academy 21, addysg therapiwtig GROW neu becynnau pwrpasol unigol lle nodwyd.
Dim ond am hyd at 2.5 tymor y gellir gweithredu’r pecynnau hyn ac fel rhan o ddarpariaeth ailintegreiddio tra bod dysgwyr yn parhau ar gofrestr un ysgol prif ffrwd. Gellir defnyddio Tiwtora Dros Dro ar gyfer Ail-ymgysylltu neu AV1 robot hefyd ar gyfer y disgyblion hynny sydd yn analluog yn feddygol oherwydd salwch parhaus, er enghraifft triniaeth mewn ysbyty ac felly nid ydynt yn gallu mynychu’r ysgol yn gorfforol. Nid yw'r panel hwn yn cymeradwyo Darpariaeth Ddysgu Ychwanegol (DDdY) sy'n ddarpariaeth fwy hirdymor a pharhaol yn unol ag ADYTA, ac nid yw'n darparu cyngor ac arweiniad ar ddiwallu anghenion ICEM/ADY. Bydd proses frysbennu yn cael ei chynnal bob mis i sicrhau bod yr atgyfeiriadau’n briodol i’w hystyried gan y panel. Bydd y swyddog sy’n gyfrifol am frysbennu (gweler isod) yn goruchwylio’r broses hon.
Bydd y Panel DDA hefyd yn rhoi cymeradwyaeth yr ALl (neu fel arall) ar gyfer symudiadau wedi’u rheoli yn unol â Phrotocol Symudiadau wedi’u Rheoli Bro Morgannwg ar gyfer dysgwyr ysgol gynradd. Cadeirydd y Panel DDA yn y pen draw sydd â’r disgresiwn i ystyried achosion fel mesur brys ar unrhyw adeg yn ystod cylch y Panel DDA. Gall cadeirydd y Panel DDA benderfynu diystyru penderfyniadau brysbennu fel y mae’n ei ystyried yn briodol.
Aelodaeth
- CADEIRYDD - Swyddog Arweiniol dros Gynhwysiant Cymdeithasol
- IS-GADEIRYDDION - Rheolwr Cynhwysiant/Ymgysylltu ag Ieuenctid
- Cynrychiolwyr ADY (ADY, GSA)
- Cynrychiolwyr ysgolion cynradd ac uwchradd
- Cynrychiolwyr y Gwasanaeth Ymgysylltu
- Rheolwr Cysylltiadau Dysgu
- Cynrychiolwyr y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid a Chymorth Cynnar (GCIChC)
- Cynrychiolwyr Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc / Gan gynnwys y GCIChC
Gall aelodau cysylltiedig y panel gynnwys cydweithwyr a gweithwyr proffesiynol sy'n cynrychioli - SNAP Cymru, yr Heddlu, y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG), Diogelwch Cymunedol, Tai.
Amlder y Cyfarfodydd
Bydd y Panel DDA yn cwrdd bob 4 wythnos. Bydd angen i o leiaf 5 o'r gweithwyr proffesiynol a nodwyd uchod fod yn bresennol er mwyn i Banel DDA gael cworwm.
Bydd y panel ond yn cael ei gynnal os daw atgyfeiriadau i law erbyn y dyddiad cau a amlinellir a bod cworwm.
Grwpiau i’w hystyried gan y panel
Gallai darpariaeth dros dro fod yn briodol i ddisgyblion sydd:
- Er gwaethaf ymyrraeth yr ysgol a/neu asiantaethau eraill yn destun gwaharddiad parhaol * Sylwch y byddai hyn yn dilyn Diwrnod 16 ac ar ôl gwrandawiad y Pwyllgor Disgyblu Disgyblion yn unol â pholisi Gwahardd LlC.
- Er gwaethaf ymyrraeth yr ysgol a/neu asiantaethau eraill, mewn perygl sylweddol o gael eu gwahardd am gyfnod penodol estynedig neu dro ar ôl tro mewn lleoliad cynradd.
- Wedi cael cymorth gan y Gwasanaeth Ymgysylltu a/neu’r darpariaethau arbenigol y soniwyd amdanynt ynghynt ac y byddent yn elwa ar ailintegreiddio i ddarpariaeth brif ffrwd neu ddarpariaeth arbenigol arall.
- Dysgwyr a allai elwa ar symudiad wedi'i reoli (yn enwedig yn y sector cynradd).
Cylch Gorchwyl
- Ystyried tystiolaeth a roddwyd gan yr ysgol yn llym ac yn gadarn ynghylch gweithredu i gefnogi disgyblion unigol.
- Defnyddio tystiolaeth i ddod i ddyfarniad ynghylch a yw darpariaeth dros dro yn briodol i gefnogi ailintegreiddio ac ailsefydlu dysgwyr i'w hysgol brif ffrwd
- Sicrhau bod anghenion disgyblion yn cael eu diwallu mor hyblyg ac effeithlon â phosibl.
- Rhoi ystyriaeth i ddosbarthu adnoddau’n deg, yn gydradd ac yn effeithlon yn seiliedig ar benderfyniadau gwybodus.
- Pan fo’n briodol, sicrhau bod ysgolion yn cael eu cefnogi i ddatblygu ymyrraeth/darpariaeth briodol i ddisgyblion ag anawsterau cymdeithasol, emosiynol a/neu ymddygiadol sylweddol.
- Ystyried anghenion ICEM penodol unigol pob disgybl, yn enwedig os yw’r gofynion cymorth yn sylweddol neu os yw’r darpariaethau arbenigol yn llawn
Proses Atgyfeirio
- Rhaid rhoi gwybod i ysgolion am ddyddiadau'r Panel DDA a'r terfynau amser perthnasol ar gyfer atgyfeirio. Bydd hyn yn cael ei ddarparu ar ddechrau pob blwyddyn academaidd.
- Rhaid cwblhau’r ffurflenni atgyfeirio’n llawn. Rhaid darparu gwybodaeth ategol am gamau gweithredu’r ysgol ac asiantaethau eraill er mwyn sicrhau bod gan aelodau’r panel y ffeithiau perthnasol i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth.
- Mae angen cyflwyno ffurflenni atgyfeirio a dogfennau ategol i IRP@valeofglamorgan.gov.uk erbyn y terfynau amser a nodir bob mis.
- Bydd cymorth gweinyddol Tîm y Panel DDA yn gyfrifol am ddrafftio agenda a nodiadau cyfarfodydd y Panel DDA. Bydd y tîm hefyd yn gyfrifol am ddarparu dogfennaeth i aelodau’r panel.
- Bydd cymorth gweinyddol Tîm y Panel DDA yn rhoi gwybod i’r ysgolion am benderfyniadau’r panel o fewn 3 diwrnod gwaith.
Monitro
Caiff y cofnodion eu hystyried gan y Cadeirydd a’r Is-gadeirydd gan friffio Tîm Rheoli’r Gyfarwyddiaeth fel y bo’n briodol.
Bydd cymorth gweinyddol Tîm y Panel DDA yn gweithredu ac yn defnyddio dull cadarn o olrhain pob atgyfeiriad drwy ddefnyddio MIS System Capita ONE er mwyn cofnodi'r holl logiau cyfathrebu, cyfranogiadau agored/cau, ac i sicrhau bod cofnodion myfyrwyr yn gyfredol ac yn gywir, bydd hyn yn cael ei ddefnyddio i greu adroddiadau tymhorol cyfarwyddiaeth a phrosiectau.
Bydd data yn cael ei ddefnyddio er mwyn anfon prosiect contractio, Gwerthwch i Gymru ac fel mesur perfformiad.