Cost of Living Support Icon

Plant sy’n Colli Addysg

Ydych chi'n poeni am blentyn yn colli ysgol neu ddim yn derbyn addysg?

 

Os ydych chi’n meddwl y gallai plentyn fod yn colli ysgol neu addysg, mae angen i'r Tîm Cynhwysiant gael gwybod ar unwaith.

 ​

Mae angen i chi gysylltu â ni ar unwaith os ydych:

  • wedi sylwi bod plentyn ddim yn mynychu'r ysgol yn rheolaidd.

  • yn credu nad yw plentyn yn derbyn unrhyw addysg.

  • yn pryderu am blant sydd wedi mynd ar goll o'ch ardal neu'ch cymdogaeth.

 

Beth fydd yn digwydd pan fyddaf yn rhoi gwybod am bryder?

Drwy roi gwybod am eich pryder i ni rydych yn sicrhau diogelwch a lles rhai o'r bobl ifanc mwyaf agored i niwed yn ein cymuned.

  • Pan gawn eich adroddiad, byddwn yn ceisio olrhain y plentyn a byddwn yn siarad ag asiantaethau a gweithwyr proffesiynol eraill i gael gwybod beth maen nhw’n ei wybod.

  • Os ydym yn fodlon bod y plentyn wedi'i gofrestru mewn ysgol neu'n derbyn addysg addas, ni fyddwn yn cymryd unrhyw gamau pellach.

  • Os na chedwir gwybodaeth am y plentyn, bydd y Tîm Cynhwysiant yn cysylltu â'r teulu i sicrhau bod y plentyn yn ddiogel yn ogystal â thrafod addysg y plentyn.

  • Os bydd angen, byddwn hefyd yn cynnig cymorth i helpu'r plentyn i ddychwelyd i'r ysgol.

 

Barod i godi pryder?

 

Aelodau’r cyhoedd

Cliciwch yma i roi gwybod am bryder  ynghylch presenoldeb plentyn

 

Nid oes angen i chi roi eich manylion personol wrth lunio adroddiad ond, os gwnewch hynny, bydd yr holl wybodaeth yn cael ei thrin yn gyfrinachol.

Gweithiwr proffesiynol

Lawrlwythwch y ffurflen i godi pryderon ynghylch presenoldeb plentyn: