Cost of Living Support Icon

Panel Iechyd Cymdeithasol, Emosiynol a Meddyliol (PICEM)

Nod y panel yw cyflawni'r ddyletswydd a osodir ar awdurdodau lleol yn Adran 19 Deddf Addysg 1996 i wneud trefniadau i gynnig darpariaeth Addysg Heblaw yn yr Ysgol addas. Mae hyn ar gyfer dysgwyr nad ydynt bellach yn gallu mynychu'r ysgol am unrhyw reswm, gan gynnwys (ymhlith rhesymau eraill) salwch a gwahardd.

 

Bydd proses frysbennu yn cael ei chynnal bob mis i sicrhau bod yr atgyfeiriadau’n briodol i’w hystyried gan y panel. Bydd y swyddog sy’n gyfrifol am frysbennu (gweler isod) yn goruchwylio’r broses hon.

 

Mae PICEM yn ystyried lleoli disgyblion sydd eisiau symud o dan Brotocol Symud a Reolir Bro Morgannwg.

 

Aelodaeth

  • Pennaeth Safonau a Darpariaeth (Cadeirydd)

  •  

    Swyddog Arweiniol Cynhwysiant Cymdeithasol a Lles (Is-gadeirydd ac Arweinydd Brysbennu)

  • Rheolwr Cynhwysiant

  • Rheolwr Anghenion Cymhleth

  • Prif Seicolegydd Addysg

  • Cynrychiolwyr ysgolion cynradd ac uwchradd (Penaethiaid) 

  • Cynrychiolwyr ein arbenigol Tîm y Gwasanaeth Ymgysylltu

  • Rheolwr Cysylltiadau Dysgu

  • Rheolwr Ymgysylltu â Disgyblion

  •  

    Rheolwr Gweithredol ar gyfer ADY

  •  

    Aelodau eraill a all fod yn bresennol yw'r Gwasanaethau Cymdeithasol, yr Heddlu, gweithwyr iechyd proffesiynol, Snap Cymru, a YJESS os yw eu cyfranogiad yn briodol

Bydd PICEM yn cwrdd bob 4 wythnos (gweler siart Proses Atgyfeirio PICEM). Bydd angen i o leiaf 5 o'r gweithwyr proffesiynol a nodwyd uchod fod yn bresennol er mwyn i PICEM fod â chworwm. 

 

Ni fydd y panel yn cael ei gynnal oni bai bod atgyfeiriadau wedi’u derbyn erbyn y dyddiad cau a nodir a’i fod â chworwm.

 

Grwpiau i’w hystyried gan y panel

Gall atgyfeirio fod yn addas ar gyfer disgyblion sydd: 

  • Wedi cael ymyrraeth ysgol ddwys dros gyfnod o amser nad yw wedi effeithio’n gadarnhaol ar ymddygiad hyd yn hyn

  • Er gwaethaf ymyrraeth yr ysgol a/neu asiantaethau eraill, mae’r disgyblion mewn perygl sylweddol o waharddiad parhaol

  • Er gwaethaf ymyrraeth yr ysgol a/neu asiantaethau eraill, mae’r disgyblion mewn perygl sylweddol o waharddiad estynedig neu dro ar ôl tro am gyfnod penodol

  • Wedi cael gafael ar gymorth gan y Gwasanaeth Ymgysylltu a/neu'r arbenigwyr a byddai'n elwa o gymorth pwrpasol i ailintegreiddio i’r brif ffrwd

 

Cylch Gorchwyl

  • Ystyried tystiolaeth a roddir gan yr ysgol yn drylwyr ac yn ofalus ynghylch gweithredu i gefnogi disgyblion unigol

  • Defnyddio’r farn honno i ddod i gasgliad ynghylch ai darpariaeth brif ffrwd yw’r dewis mwyaf priodol ar gyfer disgybl penodol

  • Rhoi cyngor a chyfarwyddyd i ysgolion ynghylch bodloni anghenion disgyblion yn y brif ffrwd, fel sy’n briodol

  • Sicrhau bod anghenion disgyblion yn cael eu diwallu mor hyblyg ac effeithlon â phosibl

  • Rhoi ystyriaeth i ddosbarthu adnoddau’n effeithlon yn seiliedig ar benderfyniadau ar sail gwybodaeth

  • Sicrhau bod ysgolion yn cael eu cefnogi i ddatblygu ymyrraeth/darpariaeth briodol i ddisgyblion ag anawsterau cymdeithasol, emosiynol a/neu ymddygiadol sylweddol

  • Ystyried anghenion ICEM penodol unigol pob disgybl, yn enwedig os yw’r gofynion cymorth yn arwyddocaol

  • Rhaid i o leiaf 2 gynrychiolydd ysgol fynd i PICEM er mwyn i'r panel fod â chworwm

 

Proses Atgyfeirio

Rhaid i’r ysgol gwblhau’r ffurflenni atgyfeirio’n llawn. Rhaid darparu gwybodaeth ategol am gamau gweithredu’r ysgol ac asiantaethau eraill er mwyn sicrhau bod gan aelodau’r panel yr holl ffeithiau i seilio penderfyniadau gwybodus arnynt.

 

Mae angen cyflwyno ffurflenni atgyfeirio a dogfennau ategol i SEMHP@valeofglamorgan.gov.uk erbyn y terfynau amser a nodir bob mis.