Pwy all gwneud cais
Mae’r grant ar gael i ddisgyblion sy’n gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim neu sy’n blant sy’n derbyn gofal ac sy’n:
- Dosbarth derbyn, Blwyddyn 1, Blwyddyn 2, Blwyddyn 3, Blwyddyn 4, Blwyddyn 5 neu Flwyddyn g ysgol gynradd a gynhelir ar ddechrau blwyddyn ysgol newydd
- Blwyddyn 7, Blwyddyn 8, Blwyddyn 9, Blwyddyn 10 neu Flwyddyn 11 ysgol gynradd a gynhelir ar ddechrau blwyddyn ysgol newydd
- Yn y dosbarth Derbyn, Blwyddyn 1, Blwyddyn 2, Blwyddyn 3, Blwyddyn 4, Blwyddyn 5, Blwyddyn 6, Blwyddyn 7, Blwyddyn 8, Blwyddyn 9, Blwyddyn 10, Blwyddyn 11 neu gyfatebol mewn ysgol arbennig, canolfan adnoddau anghenion arbenigol neu uned cyfeirio disgyblion.
Nid yw’r grant ar gael i ddisgyblion sy’n mynychu ysgolion preifat.
Mae’r arian hefyd ar gael i’r holl blant sy’n derbyn gofal o oedran ysgol gorfodol.
Rhaid bod y rhiant/gwarcheidwad sy’n gwneud y cais fod yn cael un o'r canlynol:
-
Credyd Cynhwysol - ac nid ydych chi a/neu'ch partner (os yw'n berthnasol) yn gyflogedig
-
Credyd Cynhwysol - ac naill ai chi neu’ch partner (os yw’n berthnasol) yn cael cyflogaeth ond, nid yw’r incwm net a enillir (o’r ddau ohonoch, os yw’r ddau yn cael cyflogaeth) yn fwy na £7,400 y flwyddyn neu £616.67 y mis
-
Gwarant elfen o Gredyd Pensiwn y Wladwriaeth
-
Cefnogaeth dan Rhan VI o Ddeddf Mudo a Lloches 1999
-
Plant dros 16 oed sy'n derbyn budd-dal eu hunain, sy'n byw y tu allan i'r cartref