Cost of Living Support Icon

Healthy-Schools-Vale-Network-logoCynllun Ysgolion Iach

Mae Cynllun Ysgolion Iach Bro Morgannwg yn rhan o Rwydwaith Cynllun Ysgolion Iach Cymru ac yn rhan o Ysgolion dros Iechyd yn Ewrop

 

Nod y cynllun yw gwella iechyd a lles plant a phobl ifanc yng Nghymru.

 

Yn cael ei gydnabod gan Sefydliad Iechyd Y Byd (WHO) fel cynllun sy’n chwarae rhan allweddol wrth hybu iechyd plant a phobl ifanc, mae Cynllun Ysgolion Iach wedi cael ei ymestyn ledled Cymru ers 2000, ac yn rhan o Schools for Health in Europe (SHE).

 

Mae pob ysgol feithrin, gynradd, uwchradd, ysgolion arbennig ac unedau cyfeirio disgyblion ym Mro Morgannwg, yn ogystal ag Ysgol Gweithredu Dros Blant Headlands, yn cymryd rhan yng Nghynllun Ysgolion Iach Bro Morgannwg. Iechyd Cyhoeddus Cymru sy’n rheoli cynllun Y Fro, wedi’i gefnogi’n llawn gan yr Awdurdod Addysg Lleol a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.

 

Egwyddorion sylfaenol y cynllun yw:

  • Datblygu a rhoi cwricwlwm addysg iechyd gydlynol ar waith
  • Datblygu cysylltiadau da rhwng y cartrefi, yr ysgolion a’r gymuned.
  • Agwedd gadarnhaol at iechyd

 

Cynlluniau a pholisïau cenedlaethol a lleol

Mae’r Tîm Ysgolion Iach yn gweithio mewn partneriaeth gydag ystod o gynlluniau cenedlaethol a lleol, gan gynnwys Cynllun Gwella Iechyd Ysgolion Caerdydd a’r Fro (ScHIP). Mae ysgolion yn cael cymorth i nodi a gweithredu amrywiaeth o weithgareddau a chynlluniau sy’n adlewyrchu targedau gwella iechyd cenedlaethol a lleol, o fewn fframwaith o:

  • Arweinyddiaeth a chyfathrebu
  • Cwricwlwm 
  • Ethos ac amgylchedd
  • Ymwneud y teulu a’r gymuned

 

Mae disgwyl i ysgolion ddatblygu tri cham gweithredu iechyd ar gyfer y tair blynedd cyntaf, neu’r tri chyfnod cyntaf. Wedi hynny rhaid iddynt fabwysiadu amcan iechyd sylweddol dros ddwy flynedd, a hynny ddwy waith, dros gyfnod pedwar a phump.

 

Asesir ysgolion ar ddiwedd pob blwyddyn ysgol. Bydd yr ysgolion hynny sy’n cyrraedd y safon angenrheidiol ac yn cyflawni eu targedau Ysgolion Iach, yn derbyn tlws gan Lywodraeth Cymru, a gyflwynir mewn seremoni wobrwyo flynyddol.

                                  

Welsh Network of Healthy School Schemes logoGwobr Ansawdd Genedlaethol CYIRHC

Rhoddir y Wobr Ansawdd Genedlaethol i ysgolion sydd wedi cyflawni’r safonau uchaf ymhob un o saith agwedd iechyd a lles Ysgolion Iach.

 

I dderbyn y wobr rhaid bod ysgolion wedi cymryd rhan yn y cynllun am o leiaf naw mlynedd. Rhaid eu bod wedi cyflawni pob un o’r saith maes iechyd a amlinellir yn “Nangosyddion Gwobr Ansawdd Genedlaethol CYIRHC”.

 

Hyd yn hyn mae pedair ysgol yn Y Fro wedi derbyn y wobr glodfawr hon, sef Ysgol Gynradd Ynys Y Barri, Ysgol Gynradd Gladstone, Ysgol Gynradd Tregatwg ac Ysgol Llanilltud Fawr.

 

Dyma enghreifftiau o rai o’r cynlluniau mae ysgolion wedi eu cyflwyno mewn partneriaeth â sefydliadau eraill:

 

  • Polisi bwyd a ffitrwydd ysgol-gyfan
  • Clybiau coginio ar-ôl ysgol
  • Grŵp gweithredu ar faeth yn yr ysgol (SNAG)
  • Llwybrau diogel i’r ysgol
  • Cynlluniau i wella llythrennedd emosiynol e.e. Agweddau Cymdeithasol ac Emosiynol ar Ddysgu
  • Cynlluniau gwrth-fwlio
  • Cyngor Ysgol
  • Amseroedd chwarae actif
  • Gwell addysg ryw
  • Cynllun ailgylchu a chadwraeth ynni
  • Clybiau garddio
  • Diogelwch yn yr haul 
  • Mentrau golchi dwylo
  • Hyfforddiant Cymorth Cyntaf
  • Cynllun teithio i’r ysgol
  • Bocsys bwyd iachach/siop ffrwythau/peiriannau bwyd iachach/dŵr ar ddesgiau 

Cyswllt

Am ragor o wybodaeth am ymuno â’r cynllun neu ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â: 

 

Catherine Perry, Uwch-arbenigwr ar Hybu Iechyd


Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro,

Woodland House,
Maes-Y-Coed Road,

Caerdydd.

CF11 0SN.