Cost of Living Support Icon

Meithrinfeydd Iach

Mae'r cynllun, sy'n rhan o Gynllun Ysgolion Iach Llywodraeth Cymru, wedi ei anelu at bawb sy'n darparu gofal plant oed meithrin, gan gynnwys ysgolion meithrin, grwpiau chwarae, gofalwyr plant a chanolfannau teulu.

 

Meithrinfeydd iach

Bwriad y cynllun ydy hyrwyddo iechyd yn y meysydd canlynol:

  • Maeth ac iechyd y geg
  • Gweithgaredd corfforol a chwarae gweithredol
  • Diogelwch
  • Glendid
  • Iechyd meddwl ac emosiynol, lles a pherthynasau
  • Amgylchedd
  • Iechyd yn y gweithle

  

Mae'r cynllun yn cymryd agwedd bositif ac yn bwriadu cydnabod ymarfer da fel bo meithrinfeydd, grwpiau chwarae a gofalwyr plant sy'n rhan o'r cynllun yn gallu gweithio trwy'r pynciau uchod. 

 

 

Ym Mro Morgannwg, mae deg o leoliadau sydd eisoes wedi ymuno â'r Cynllun Cynaliadwy Meithrinfeydd Iach ac yn gwneud gwaith rhagorol. Gobeithio bydd mwy o sefydliadau yn y maes yn ymuno maes o law.

 

Mae gwaith partneriaeth yn allweddol i lwyddiant y cynllun. Mae ystod o sefydliadau lleol yn rhan ohono, gan gynnwys Cymdeithas Darparwyr Meithrin Cymru, Cymdeithas Genedlaethol Gofalwyr Plant, Mudiad Meithrin, Bro Morgannwg, Iechyd y Cyhoedd Cymru a thîm Dieteteg Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Sefydlwyd cysylltiadau cryff gyda chynlluniau eraill yn y maes, megis Cyfnod Sylfaen, Dechrau'n Deg a Chynllun Gwên.

 

Sefydlir arferion iechyd o oedran ifanc iawn, sy'n golygu bod cynefin y blynyddoedd cynnar yn amser delfrydol i ddylanwadu ar iechyd plant. Mae cyfleoedd gan bobl sy'n gweithio yn y maes i wneud cyfraniad anferth at iechyd a lles y plant sydd o dan eu gofal, ac mae Cynllun Cynaliadwy Meithrinfeydd Iach Bro Morgannwg yma i'w cynorthwyo wrth wneud hyn.

 

Catherine Perry, Uwch Arbenigwraig Hyrwyddo Iechyd 

Ysgolian Iach

Iechyd Cyhoeddus Cymru

Tîm Iechyd Cyhoeddus Caerdydd a'r Fro

Tŷ Coetir

Heol Maes y Coed

Caerdydd CF14 4HH