Cost of Living Support Icon

Y Tîm Cysylltiadau Dysgu 

Mae'r Tîm Cysylltiadau Dysgu yn dîm arbenigol o weithwyr addysg proffesiynol sy'n gweithio o fewn y gwasanaeth Safonau a Darpariaeth, Cyfarwyddiaeth Dysgu a Sgiliau, Bro Morgannwg.

 

Rydym yn deall bod rhai plant a phobl ifanc yn wynebu heriau ychwanegol a allai effeithio ar eu bywydau, a'u haddysg.   

 

Y Tîm Cysylltiadau Dysgu yw'r prif bwynt cyswllt a gwasanaeth cyswllt i blant, eu teuluoedd, ysgolion ac asiantaethau o fewn yr awdurdod lleol a thu allan i'r awdurdod lleol.  Rydym yn cefnogi ysgolion i ddiwallu anghenion y dysgwyr hyn. 


Ein prif nod yw eirioli dros bob dysgwr sydd â heriau ychwanegol, gyda phob agwedd ar eu haddysg, olrhain eu cyflawniadau, a’u cynorthwyo i oresgyn unrhyw rwystrau i’w llwyddiant, gan sicrhau eu bod yn gwireddu eu potensial llawn.   

 

Ble 

Swyddfeydd Dinesig, Y Barri, CF63 4RU

 

Cyfarwyddiaeth

Dysgu a Sgiliau

 

Gwasanaeth

Safonau a Darpariaeth

 

Sut i gysylltu â ni 

 

Yr hyn rydym yn ei wneud 

Mae’r Tîm Cysylltiadau Dysgu (TCD)  yn gwneud y cysylltiadau i sicrhau bod plant sy'n wynebu heriau ychwanegol yn gallu dysgu a datblygu. Gyda'r plentyn/person ifanc yn ganolog, rydym yn monitro sut mae dysgwyr yn dod ymlaen ac yn rhoi systemau, prosesau a strwythurau ar waith i helpu plant a phobl ifanc i wneud eu gorau, ac i gefnogi a herio ysgolion/darparwyr addysg ac asiantaethau eraill i'w helpu i wneud yn well.  Darperir hyn drwy gyngor a hyfforddiant ac mae'n sicrhau gwasanaethau ar gyfer y grwpiau canlynol o ddysgwyr:

 

  • Disgyblion o'r Mwyafrif Byd-eang  

  • Disgyblion sy'n ffoaduriaid a cheiswyr lloches   

  • Plant gweithwyr mudol 

  • Disgyblion sy'n siarad Saesneg yn iaith ychwanegol (SIY) 

  • Disgyblion o dras Sipsiwn, Roma, a Theithwyr (SRT)

  • Plant sy’n Derbyn Gofal (PDG) 

  •  

    Plant a arferai dderbyn gofal  

  •  

    Gofalwyr ifanc

  •  

    Plant y lluoedd

Ein prif gyfrifoldebau ac amcanion:

Mae ein gwaith yn canolbwyntio ar yr unigolyn. Rydym yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc, athrawon dynodedig mewn ysgolion, gweithwyr cymdeithasol, gofalwyr, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol eraill i sicrhau bod dyheadau uchel a chymorth targedig yn nod a rennir gan bawb sy'n ymwneud â'r plentyn neu berson ifanc.

 

Mae'r gwasanaeth yn cael ei ddarparu mewn partneriaeth ag amrywiaeth o randdeiliaid, gan gynnwys rhieni/gofalwyr, Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc, awdurdodau lleol eraill, ac ysgolion. Mae’r Tîm Cysylltiadau Dysgu (TCD) yn canolbwyntio ar sicrhau bod anghenion disgyblion sy'n wynebu heriau ychwanegol yn cael eu diwallu'n gyson drwy fod yn uchelgeisiol.   Mae'r Tîm yn ymdrechu i gyflawni'r uchelgais hon drwy weithredu mewn dwy ffordd wahanol ond cysylltiedig o gefnogi pob disgybl sy’n wynebu heriau ychwanegol yn enwedig plant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal.

  • Plant sy’n derbyn gofal a Phlant a Arferai Dderbyn Gofal

    Ysgol Rithwir y Fro

    Mae Ysgol Rithwir y Fro ar gyfer plant sy'n derbyn gofal yn bodoli i wella profiad addysgol a chanlyniadau'r plant hyn.  Rydym yn rhan o'r Tîm Rhianta Corfforaethol ar gyfer plant mewn gofal. 

     
    Nid oes gan Ysgol Rithwir y Fro ei hadeilad ysgol ei hun, ond mae gennym dîm o staff sef y Tîm Cysylltiadau Dysgu (TCD). Mae ein disgyblion yn mynychu ysgolion neu leoliadau addysg go iawn. Rydym yn gweithio gyda'r staff yn y lleoliadau hynny i lunio cynllun gweithredu a chynnig cymorth a gallwn fonitro ac olrhain pa mor dda y mae ein plant a'n pobl ifanc yn dod ymlaen.

     

    Pam mae angen ysgol rithwir?

    Mae llawer o blant a phobl ifanc unigol sydd mewn gofal, neu a arferai dderbyn gofal, yn mwynhau ac yn gwneud yn dda yn yr ysgol. Fodd bynnag, gall rhai plant a phobl ifanc wynebu heriau ychwanegol yn eu haddysg.  Mae gan yr Ysgol Rithwir Swyddog Arweiniol i gyflawni dyletswydd statudol yr awdurdod lleol i hyrwyddo cyflawniad addysgol ei blant sy'n derbyn gofal, a phlant a arferai dderbyn gofal, ble bynnag y maent yn byw neu'n cael eu haddysgu. 

     

    Rydym yn gweithio mewn partneriaeth agos â phlant a phobl ifanc, Gwasanaethau Plant, rhieni/gofalwyr ac ysgolion i ddiwallu anghenion unigol plant sy'n derbyn gofal fel eu bod yn gallu cael mynediad at addysg briodol a sicrhau'r canlyniadau addysgol gorau posib.  

     

    Rydym yn darparu pwynt cyswllt cyntaf a gwasanaeth cyswllt i ysgolion, gofalwyr maeth, gweithwyr cymdeithasol a’r rhai sy’n eu goruchwylio, a Swyddogion Adolygu Annibynnol ym Mro Morgannwg ac awdurdodau lleol eraill, gan sicrhau dull gweithredu amlasiantaeth cydgysylltiedig i roi Plant sy’n Derbyn Gofal ar ben y ffordd tuag at lwyddiant.

     

    Rydym yn gweithio gyda phlant yn y Blynyddoedd Cynnar, Oedran Ysgol Statudol ac Ôl-16

     

    Mae Ysgol Rithwir y Fro ar gyfer plant a phobl ifanc sydd: 

    • Dan ofal Bro Morgannwg ac sy’n cael eu haddysgu ym Mro Morgannwg  
    • Dan ofal Bro Morgannwg ac sy’n cael eu haddysgu mewn awdurdod lleol arall  
    • A arferai dderbyn gofal yn rhinwedd Gorchymyn Mabwysiadu, Gorchymyn Gwarchodaeth Arbennig neu Orchymyn Trefniant Plentyn   

     

    Plant a Phobl Ifanc

     

    The Fostering Network 

     

    Adoption UK

     

    Adoption UK LogoThe fostering network logo 

  • Plant â Saesneg fel Iaith Ychwanegol (SIY), a disgyblion o gymunedau’r Mwyafrif Byd-eang a Theithwyr

    Cael gwared ar rwystrau ac anghydraddoldebau o ran cyrhaeddiad a chyflawniad

    Mae’r Tîm Cysylltiadau Dysgu (TCD) yn cefnogi ysgolion i fynd i'r afael ag anghenion addysgol dysgwyr o amrywiaeth eang o gefndiroedd yn ogystal â phlant o dras Teithwyr, fel eu bod yn gallu cyrchu addysg briodol a sicrhau'r canlyniadau addysgol gorau posib.

      

    Rydym yn deall pwysigrwydd hyrwyddo perthnasoedd agored a chadarnhaol rhwng ysgolion, rhieni, gofalwyr, plant a phobl ifanc i gael gwared ar unrhyw rwystrau i ddysgu.  Trwy ein tîm, adnoddau a chymorth arbenigol, rydym yn darparu cyngor, arweiniad a hyfforddiant arbenigol i helpu i godi cyrhaeddiad i blant a phobl ifanc o gymunedau’r mwyafrif byd-eang a theithwyr.

     
    Fel tîm, rydym yn eirioli dros ddysgwyr ac yn darparu pwynt cyswllt cyntaf a gwasanaeth cyswllt i ysgolion, teithwyr, disgyblion o gymuned y mwyafrif byd-eang, gan gynnwys ffoaduriaid a cheiswyr lloches, partneriaid y trydydd sector, ac awdurdodau lleol eraill yng Nghymru. Mae hyn yn sicrhau dull amlasiantaethol cydgysylltiedig o gefnogi dysgwyr o gymunedau’r mwyafrif byd-eang, teithwyr a dysgwyr â Saesneg fel iaith ychwanegol (SIY) ar eu ffordd i lwyddiant.     

     

    Rydym yn cefnogi Sefydliad Dinas Noddfa ac yn Arweinwyr Awdurdod Lleol ar gyfer Rhwydwaith Ysgolion Noddfa Bro Morgannwg.

     

    Schools of Sanctuary LogoCity of Sanctuary Logoanti racist wales logo

  • Gofalwyr Ifanc

    Mae gofalwyr ifanc yn blant a phobl ifanc sy'n edrych ar ôl aelod o'r teulu neu ffrind sydd â salwch neu anabledd, neu sy'n helpu i ofalu amdanynt.

     

    Gall ddarparu gofal ymarferol neu gorfforol, helpu gyda gofal personol, a helpu gyda thasgau domestig a/neu gymorth emosiynol.   

     

    Mae’r Tîm Cysylltiadau Dysgu (TCD)   yn darparu cymorth a hyfforddiant i ysgolion i ddiwallu anghenion addysgol dysgwyr sy’n cael eu hadnabod fel gofalwyr ifanc, fel eu bod yn gallu cael mynediad at addysg briodol a chyflawni’r canlyniadau addysgol gorau posib. 

     

    Mae’r Tîm Cysylltiadau Dysgu (TCD)  yn bwynt cyswllt cyntaf i ysgolion, athrawon dynodedig, Gwasanaethau Plant, iechyd, a phartneriaid yn y trydydd sector, i ddiwallu anghenion unigol  gofalwyr ifanc. Mae hyn yn sicrhau dull amlasiantaethol cydgysylltiedig o gefnogi gofalwyr ifanc ar eu ffordd i lwyddiant.

      

    Mae ein gwaith yn canolbwyntio ar yr unigolyn. Rydym yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc, ac athrawon dynodedig mewn ysgolion, i sicrhau bod dyheadau uchel a chymorth targedig yn nod a rennir gan bawb sy'n ymwneud â'r plentyn neu berson ifanc.   

     

    Asesiad Gofalwr  

    Gall gofalwyr ifanc ofyn am asesiad, mae asesiad yn rhoi cyfle i chi siarad â rhywun am yr hyn a allai wneud gofalu’n haws.

     

    Asesiad Gofalwr Ifanc

     

    Llinell Gyngor Teuluoedd yn Gyntaf


    Families First advice line logo 

  • Plant Teuluoedd y Lluoedd Arfog

    Nid yw'n anghyffredin i blant y lluoedd brofi newidiadau rheolaidd i'w ffordd o fyw teuluol ac ysgol, a all fod ar fyr rybudd.     

    Mae teuluoedd y lluoedd arfog yn hyblyg ac yn gyffredinol yn wydn iawn mewn cyfnodau o ansicrwydd ac  mae cymuned ysgol yn chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau bod ein teuluoedd yn teimlo'n ddiogel ac yn cael eu cefnogi yn ystod cyfnod a allai fod yn heriol.                                   

     

    Mae’r Tîm Cysylltiadau Dysgu (TCD) yn darparu cefnogaeth a hyfforddiant i ysgolion i fynd i'r afael â'r anghenion addysgol ac ymgorffori darpariaeth i gefnogi plant a phobl ifanc yn y ffordd orau y mae eu rhieni ar hyn o bryd yn gwasanaethu neu wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog o'r blaen, fel y gallant gyflawni'r canlyniadau addysgol gorau posib.

     

    Fel tîm rydym yn gweithio gydag ysgolion, plant a phobl ifanc, gweithwyr addysg proffesiynol, teuluoedd y lluoedd arfog, a sefydliadau cymorth i gasglu eu barn a'u profiadau, a chodi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o brofiadau plant personél y lluoedd arfog.  Mae hyn yn sicrhau dull amlasiantaethol cydgysylltiedig o gefnogi plant y lluoedd ar eu ffordd i lwyddiant. 

     

    SSCE Cymru: Cefnogi Plant y Lluoedd Mewn Addysg yng Nghymrus

     

    SSCE Cymru Logoarmed forces covenant logo

     

Wales Nation of Sancturary LogoSchools of Sanctuary LogoCity of Sanctuary Logo
anti racist wales logoFamilies First advice line logoSSCE Cymru Logoarmed forces covenant logo
The Care Collective LogoThe fostering network logoAdoption UK Logo