Cymhwystra ar gyfer cymorth gan y gwasanaethau cymdeithasol
Mae yna feini prawf cymhwystra cenedlaethol ar gyfer gofal a chymorth i oedolion, plant a gofalwyr.
Mae 4 maen prawf y mae'n rhaid eu bodloni er mwyn i’r angen fod yn gymwys. Mae tabl meini prawf ar gyfer oedolion, gofalwyr a phlant. Mae hawl awtomatig i gymhwystra i’r rheiny sydd mewn perygl o gael eu cam-drin neu eu hesgeuluso.
- Rhoddir cymhwystra i angen nid i berson ac nid yw'n ymwneud â hawl i wasanaeth.
- Caiff ei gymhwyso i warantu mynediad at ofal a chymorth i'r rheiny na allant gyflawni eu deilliannau personol hebddo.
- Bydd rhai anghenion efallai’n cael eu diwallu drwy gynllun gofal a chymorth, ac eraill drwy fynediad at wasanaethau cymunedol.
- Gallai gwasanaethau cymunedol gynnwys y rhai a ddarperir gan sefydliadau’r sector cyhoeddus, preifat, a’r 3ydd sector, yn ogystal â grwpiau cymunedol, teulu a ffrindiau.
- Os na all darparu gofal a chymorth helpu’r unigolyn i gyflawni ei ddeilliannau, ni fydd cymhwystra yn berthnasol.