CWRS HYFFORDDI CODI A CHARIO I OFALWYR DI-DÂL
Ddydd Iau 27 Tachwedd 25, mae Cyngor Bro Morgannwg yn cynnig cwrs codi a chario tair awr i ofalwyr di-dâl sy'n byw yn y Fro.
AR GYFER PWY MAE’R CWRS?
- Ydych chi'n darparu gofal di-dâl i rywun yn y gymuned (aelod o'r teulu neu ffrind) sy'n byw ym Mro Morgannwg?
- Ydych chi eisiau helpu rhywun i mewn ac allan o gadair neu wely?
- Ydych chi eisiau gwybod sut i helpu rhywun ar ôl cwympo?
- Ydych chi’n helpu rhywun gyda gofal personol e.e. mynd i’r toiled, cael cawod, cael bath
Os ateboch ydw i unrhyw o’r uchod, efallai y byddwch eisiau dod i un o’n sesiynau hyfforddiant codi a chario nesaf.
Er y caiff y sesiynau eu cynnal mewn ystafell hyfforddiant codi a chario, maen nhw’n anffurfiol iawn a chewch baned a bisged hyd yn oed.
PRYD A BLE MAE’R CWRS?
Bydd y cwrs yn cael ei gynnal yn y Swyddfeydd Dinesig, Y Barri CF63 4RT ar Ddydd Iau 27 Tachwedd rhwng 10am ac 1pm.
PARCIO
Mae mannau parcio ceir ar gael yng nghefn y swyddfeydd dinesig. Ar ôl parcio, allwch chi wneud eich ffordd i'r brif dderbynfa erbyn 09:50am.
A FYDD COST I CHI?
Bydd yr hyfforddiant a ddarperir am ddim. Ond mae 'na gost i Gyngor Bro Morgannwg wrth gynnal unrhyw gyrsiau ar gyfer gofalwyr di-dâl, felly gwnewch bob ymdrech i fynychu’r cwrs hwn. Bydd angen o leiaf 24 awr o rybudd arnom os nad ydych yn gallu dod i'r cwrs.
CYSWLLT
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y cwrs, anfonwch e-bost i:
Carersservices@valeofglamorgan.gov.uk neu ffoniwch 01446 704851
COFRESTRU
Llenwch y ffurflen ar-lein