Cost of Living Support Icon

Partneriaethau Allweddol 

Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a’r Fro 

BPRhCaF – Y cymorth cywir, ar yr adeg gywir yn y lle cywir - mae'n gydweithrediad rhwng sefydliadau statudol, trydydd sector ac annibynnol yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg sy'n cydweithio i wella iechyd a lles y boblogaeth. 

 

Mae'r Bartneriaeth wedi ymrwymo i gyfres o addewidion sy'n gosod y flaenoriaeth ar gyfer camau y byddant yn eu cymryd gyda'i gilydd i gynllunio a chefnogi gofalwyr di-dâl ledled Caerdydd a Bro Morgannwg. Esbonnir yr addewidion hyn o fewn Siarter Gofalwyr Di-dâl Caerdydd a'r Fro. 

 

Siarter Gofalwyr Di-dâl - BPRhCaF 

 

Llais y Gofalwyr  

Mae Llais Cymru yma i sicrhau bod eich barn a'ch profiadau yn cael eu defnyddio gan y rhai sy'n gwneud penderfyniadau i gynllunio a darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol gwell. 

 

A phan fydd pethau'n mynd o'i le, gall eu heiriolwyr cwynion annibynnol a hyfforddedig eich cefnogi i wneud cwynion:

 

Llais Cymru 

 

Gofalwyr Cymru

Mae gofalu am eich anghenion eich hun mor bwysig pan fydd gennych gyfrifoldebau gofalu. Mae'n rhy hawdd blino’n lân a llosgi allan wrth i chi geisio cydbwyso popeth. Dyma ychydig o gyngor ar sut i ofalu amdanoch chi'ch hun hefyd, er mwyn i chi allu bod yn gryfach ac yn fwy gwydn i'r rhai rydych yn edrych ar eu hôl neu i'r person rydych yn gofalu amdano.

 

Edrych ar ôl eich hun 

 

Comisiynydd Plant Cymru

Rocio Cifuentes yw Comisiynydd Plant Cymru. Dechreuodd Rocio Cifuentes fel Comisiynydd ym mis Ebrill 2022. Hi fydd y Comisiynydd Plant am saith mlynedd.

 

Comisiynydd Plant Cymru

 

Comisiynydd Pobl Hyn Cymru

Mae’r Comisiynydd yn gweithio dros Gymru sy’n arwain y ffordd o ran grymuso pobl hŷn, mynd i’r afael ag anghydraddoldeb a galluogi pawb i fyw a heneiddio’n dda:

 

Comisiynydd Pobl Hyn Cymru 

 

Profiad Cleifion: Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

 

Strategaeth ar gyfer gofalwyr di-dâl

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio Strategaeth newydd ar gyfer gofalwyr di-dâl: