Gwybodaeth i ofalwyr di-dâl
Gwybodaeth a chyngor
Rydym yn cynnig gwybodaeth, cyngor a chymorth am wasanaethau cymorth fel y gall gofalwyr di-dâl ddod o hyd iddynt a'u cyrchu a, lle bo hynny'n briodol, rhoi cymorth i gael mynediad at y gwasanaethau hyn.
Mae’r gwasanaeth hwn yn gweithredu fel pwynt mynediad cyntaf i ddarparu gwybodaeth i helpu pobl i ddeall sut mae'r system gofal a chymorth yn gweithredu yn eu hardal a'r mathau o wasanaeth, gan gynnwys gwasanaethau gofalwyr, sydd ar gael.
Y gwasanaethau gwybodaeth i oedolion a phlant yw:
Hyb Gofalwyr Di-dâl y Fro
Ydych chi'n gofalu am rywun annwyl a ddim yn gwybod ble i droi am wybodaeth, cyngor neu gymorth?
Mae Hyb Gofalwyr Di-dâl y Fro yn siop un stop i ofalwyr di-dâl sy'n cefnogi rhywun sy’n byw ym Mro Morgannwg a'i nod yw gwella ansawdd bywyd gofalwyr di-dâl.
Maent yn darparu gwybodaeth a chymorth i helpu gofalwyr di-dâl yn eu rôl, i wneud y mwyaf o’u bywydau law yn llaw â gofalu a chynnal eu hannibyniaeth.
Mae ganddynt linell gymorth dros y ffôn a gellir cysylltu â nhw hefyd drwy'r rhyngrwyd.
I wneud atgyfeiriad i Hyb Gofalwyr Di-dâl y Fro (gall hyn fod yn hunanatgyfeiriad neu drwy'r gwasanaethau cymdeithasol) cliciwch yma i lenwi'r ffurflen neu ffoniwch 02921 921024.
Gellir gweld staff y ganolfan hefyd mewn gwahanol leoliadau ledled y Fro, yn darparu gwasanaeth galw heibio. Gellir dod o hyd i fanylion lleoliadau ac amseroedd ar eu gwefan neu ar Facebook Neu ffoniwch nhw am fwy o wybodaeth.
Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd
Mae'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd (GGiD) yn darparu canllawiau ar ofal plant, gweithgareddau, i blant, pobl ifanc, rhieni a gofalwyr ym Mro Morgannwg.
Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd

Mae Dewis Cymru’n wefan sydd â’r nod o helpu pobl i gael gafael ar wasanaethau cymorth lleol a chenedlaethol yng Nghymru a dod o hyd i'r wybodaeth a'r cyngor sydd eu hangen arnynt i wella eu lles.
Mae’n cynnig gwybodaeth i’ch helpu i feddwl am yr hyn sy’n bwysig i chi, yn ogystal â gwybodaeth am wasanaethau a phobl yn eich ardal a all fod o gymorth i chi gyda’r pethau sy’n bwysig i chi.
Chwiliwch Dewis Cymru i ddod o hyd i wasanaethau i helpu gofalwyr ym Mro Morgannwg:
Cofrestrwch i dderbyn gwybodaeth
P'un a ydych chi’n:
-
ofalwyr di-dâl sy’n byw ym Mro Morgannwg,
-
neu’n weithiwr proffesiynol sy'n cefnogi gofalwyr di-dâl,
gallwch dderbyn gwybodaeth (e-fwletinau a chylchlythyr) a fydd o ddiddordeb i chi megis hyfforddiant, digwyddiadau neu ymgyngoriadau trwy lenwi'r ffurflen ar-lein isod:
Tanysgrifio i dderbyn gwybodaeth
Llais y Gofalwyr
Mae Llais Cymru yma i sicrhau bod eich barn a'ch profiadau yn cael eu defnyddio gan y rhai sy'n gwneud penderfyniadau i gynllunio a darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol gwell. A phan fydd pethau'n mynd o'i le, gall eu heiriolwyr cwynion annibynnol a hyfforddedig eich cefnogi i wneud cwynion:
Llais Cymru
Porth Eiriolaeth Caerdydd a'r Fro
Porth Eiriolaeth Caerdydd a'r Fro (PECF) yw'r prif bwynt mynediad i unigolion sydd yn chwilio am gymorth eiriolaeth yn ardal Caerdydd a'r Fro. Bwriad PECF yw cysylltu ag unigolion a gweithwyr proffesiynol gydag eiriolwr cymwysedig sydd yn amddiffyn hawliau ac yn mynegi barn, dymuniadau a theimladau.
Porth Eiriolaeth Caerdydd a'r Fro
Profiad Cleifion: Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Di-dâl
Iechyd Meddwl
Isod ceir manylion sefydliadau cenedlaethol i ofalwyr, sy'n rhoi cyngor, gwybodaeth a chymorth i ofalwyr di-dâl yng Nghymru:
Yn rhoi cyngor a gwybodaeth i ofalwyr a'r gweithwyr proffesiynol sy'n cefnogi gofalwyr:
Gofalwyr Cymru
Yn darparu llais cenedlaethol i rymuso rhieni a gofalwyr pobl ag anableddau dysgu:
Fforwm Cymru Gyfan
Wedi ymrwymo i wella cymorth a gwasanaethau i ofalwyr di-dâl:
Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru