Cost of Living Support Icon

Cynlluniau a chymorth arall i ofalwyr di-dâl

Dolenni defnyddiol: 

Seibiant o Ofalu 

Unrhyw seibiant sy'n cryfhau a/neu'n cynnal perthnasoedd gofalu anffurfiol ac yn gwella lles gofalwyr a'r bobl y maent yn eu cefnogi. Gellir cyflawni hyn drwy wasanaeth, gweithgaredd neu eitem.

 

Roedd y cynllun i fod i redeg tan 2026, ond diolch i fuddsoddiad pellach gan Lywodraeth Cymru, bydd bellach yn rhedeg am dair blynedd ychwanegol, tan ddiwedd mis Mawrth 2026.

 

Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, Corff Cydlynu Cenedlaethol y cynllun, yn darparu grantiau i fudiadau er mwyn i 60,000 o ofalwyr di-dâl allu cymryd seibiant erbyn 2029.

 

I wneud cais am seibiant byr, dylai gofalwyr di-dâl gysylltu â'u darparwr lleol yn uniongyrchol: 

 

Cynllun Seibiannau Byr Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru 

  

Llais y Gofalwyr  

Mae Llais Cymru yma i sicrhau bod eich barn a'ch profiadau yn cael eu defnyddio gan y rhai sy'n gwneud penderfyniadau i gynllunio a darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol gwell.  A phan fydd pethau'n mynd o'i le, gall eu heiriolwyr cwynion annibynnol a hyfforddedig eich cefnogi i wneud cwynion:

 

Llais Cymru

 

Porth Eiriolaeth Caerdydd a'r Fro

Porth Eiriolaeth Caerdydd a'r Fro (PECF) yw'r prif bwynt mynediad i unigolion sydd yn chwilio am gymorth eiriolaeth yn ardal Caerdydd a'r Fro. Bwriad PECF yw cysylltu ag unigolion a gweithwyr proffesiynol gydag eiriolwr cymwysedig sydd yn amddiffyn hawliau ac yn mynegi barn, dymuniadau a theimladau.

 

Porth Eiriolaeth Caerdydd a'r Fro

 

Profiad Cleifion: Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

 

Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Di-dâl

 

Iechyd Meddwl

 

Isod ceir manylion sefydliadau cenedlaethol i ofalwyr, sy'n rhoi cyngor, gwybodaeth a chymorth i ofalwyr di-dâl yng Nghymru:

 

Yn rhoi cyngor a gwybodaeth i ofalwyr a'r gweithwyr proffesiynol sy'n cefnogi gofalwyr:

 

Gofalwyr Cymru

 

Yn darparu llais cenedlaethol i rymuso rhieni a gofalwyr pobl ag anableddau dysgu:

 

Fforwm Cymru Gyfan  

 

Wedi ymrwymo i wella cymorth a gwasanaethau i ofalwyr di-dâl: 

 

Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru

 

Mae Dewis Cymru’n wefan sydd â’r nod o helpu pobl i gael gafael ar wasanaethau cymorth lleol a chenedlaethol yng Nghymru a dod o hyd i'r wybodaeth a'r cyngor sydd eu hangen arnynt i wella eu lles:

 

Dewis Cymru

 

Cerdyn Argyfwng i Ofalwyr

Mae’r Cerdyn Argyfwng i Ofalwyr yn helpu i drefnu bod rhywun yn cael gofal os bydd rhywbeth annisgwyl yn digwydd i'w ofalwr.

 

Un o'r pryderon mwyaf i ofalwyr yw sut y byddai'r aelod o'r teulu neu ffrind sy'n dibynnu arnynt yn ymdopi pe bai unrhyw beth yn digwydd i’w gofalwr. 


Mewn ymateb i hyn, mae Gofalwyr Cymru wedi llunio cerdyn newydd ar gyfer gofalwyr. Petai argyfwng neu ddamwain, mae cario’r cerdyn hwn yn sicrhau y rhoddir gwybod i gweithwyr brys ac eraill bod rhywun yn dibynnu arnoch chi fel gofalwr.

 

Mae lle i nodi manylion cyswllt mewn argyfwng ar y cerdyn, er enghraifft teulu neu ffrindiau sy’n gallu helpu: