Cost of Living Support Icon

Gofalu amdanoch chi eich hun

Mynediad at gymorth neu arweiniad a all eich helpu i ofalu am eich iechyd corfforol a meddyliol

Seibiant o Ofalu  

Unrhyw seibiant sy'n cryfhau a/neu'n cynnal perthnasoedd gofalu anffurfiol ac yn gwella lles gofalwyr a'r bobl y maent yn eu cefnogi. Gellir cyflawni hyn drwy wasanaeth, gweithgaredd neu eitem.

 

Roedd y cynllun i fod i redeg tan 2026, ond diolch i fuddsoddiad pellach gan Lywodraeth Cymru, bydd bellach yn rhedeg am dair blynedd ychwanegol, tan ddiwedd mis Mawrth 2026.

 

Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, Corff Cydlynu Cenedlaethol y cynllun, yn darparu grantiau i fudiadau er mwyn i 60,000 o ofalwyr di-dâl allu cymryd seibiant erbyn 2029.

 

I wneud cais am seibiant byr, dylai gofalwyr di-dâl gysylltu â'u darparwr lleol yn uniongyrchol:

 

Cynllun Seibiannau Byr Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru

 

Gofalu am eich Lles 

Mae'n bwysig eich bod yn gofalu am eich iechyd eich hun i'ch galluogi i barhau i weithio'n effeithiol yn eich rôl ofalu, os mai dyma beth rydych yn dewis ei wneud. 

Edrych ar ôl eich lles

Gwasanaeth Materion Lles

Mae ein Gwasanaeth Materion Lles yn un pwynt mynediad ar gyfer Gwasanaethau Iechyd a Lles i oedolion ym Mro Morgannwg a gall eich cysylltu ag ystod o wasanaethau a chymorth ar draws yr awdurdod lleol mewn perthynas ag Iechyd a Lles.

 

Gwasanaeth Materion Lles

Beth yw Cwmpawd Teulu'r Fro?

Rydym yn darparu amrywiaeth o wybodaeth, cyngor, cefnogaeth ac yn diogelu plant, pobl ifanc a'u rhieni a'u gofalwyr a'u teuluoedd ym Mro Morgannwg.

 

We have brought together the Family Information Service, Families First Advice Line, and the Intake Team.

Ein nod yw darparu'r wybodaeth a'r cymorth cywir i chi ar yr adeg iawn o'r pwynt cyswllt cyntaf.

 


Lles Emosiynol ac Iechyd Meddwl

Bydd yr ymgynghorwyr Cymorth Cynnar yn trafod beth sy'n bwysig i chi a'ch teulu, a sut i gael mynediad at yr help cywir ar yr adeg gywir.

 

Gall hyn gynnwys eich cyfeirio at ystod o wasanaethau sydd wedi’u nodi isod – neu roi gwybod i chi am wasanaethau eraill.

 

  • Gwasanaeth Lles Ieuenctid
  • Prosiect Emoji (Gweithredu Dros Blant)
  • YMCA Gofalwyr Ifanc
  • Platfform Yr Hangout 

Lles Emosiynol ac Iechyd Meddwl

 

Gallwch gysylltu â gwasanaethau a chymorth y Cyngor yn annibynnol, os yw'n well gennych:

Mae rhai ysgolion yn cynnig Clybiau Lles ar ôl ysgol a byddant i gyd yn cydnabod ac yn cefnogi unrhyw ddisgybl sydd â rôl fel gofalwr ifanc:

Clybiau Lles ar ôl ysgol

 

Mae'r argyfwng costau byw wedi cael effaith ychwanegol ar lawer o ofalwyr di-dâl:

Cymorth Costau Byw

 

Mae'r gwasanaeth Teuluoedd yn Gyntaf yn y Fro yn cynnig cefnogaeth i bobl ifanc sydd wedi cael profiadau niweidiol yn ystod plentyndod sy'n effeithio'n sylweddol ar eu hiechyd a'u lles:

Gwasanaeth Lles Ieuenctid

 

Mae'r Cyngor wedi casglu gwybodaeth am nifer o adnoddau i'ch helpu i wella eich lles yn ystod yr argyfwng presennol:

Iechyd a lles

 

Mae Gwasanaeth Llyfrgelloedd a Gwybodaeth y Fro yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau a llyfrau a allai eich helpu i reoli eich lles:

Iechyd a Lles llyfrgell

 

Y Tîm Cysylltiadau Dysgu yw'r prif bwynt cyswllt a gwasanaeth cyswllt i blant, eu teuluoedd, ysgolion ac asiantaethau o fewn yr awdurdod lleol a thu allan i'r awdurdod lleol.  Rydym yn cefnogi ysgolion i ddiwallu anghenion y dysgwyr hyn. 

 

Ein prif nod yw eirioli dros bob dysgwr sydd â heriau ychwanegol, gyda phob agwedd ar eu haddysg, olrhain eu cyflawniadau, a’u cynorthwyo i oresgyn unrhyw rwystrau i’w llwyddiant, gan sicrhau eu bod yn gwireddu eu potensial llawn.

Y Tîm Cysylltiadau Dysgu

 

Mae ein Tîm Byw'n Iach wedi gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid i greu nifer o deithiau cerdded i'ch cadw chi a'ch teulu yn iach, yn actif ac yn cael hwyl:

Teithiau Cerdded Llesol

 

Hawliau i Gymorth

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) a ddaeth i rym ar 6 Ebrill 2016. 

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru)

 

Mae'r gyfraith hon yn bodoli i wella lles pobl yng Nghymru ac mae'n cynnwys gofalwyr sydd angen cymorth. 

  • Yr hawl i lles

  • Yr hawl i wybodaeth, cyngor a chymorth

  • Yr hawl i asesiad os na ellir diwallu eich anghenion drwy wybodaeth a chyngor 

  • Yr hawl i gael eich llais wedi’i glywed a chael rheolaeth dros benderfyniadau am eich cymorth 

  • Yr hawl i eiriolaeth 

Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a’r Fro 

Mae'n gydweithrediad rhwng sefydliadau statudol, trydydd sector ac annibynnol yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg sy'n cydweithio i wella iechyd a lles y boblogaeth. 

Bwy'n Dda

 

Mae'r Bartneriaeth wedi ymrwymo i gyfres o addewidion sy'n gosod y flaenoriaeth ar gyfer camau y byddant yn eu cymryd gyda'i gilydd i gynllunio a chefnogi gofalwyr di-dâl ledled Caerdydd a Bro Morgannwg.

 

Esbonnir yr addewidion hyn o fewn Siarter Gofalwyr Di-dâl Caerdydd a'r Fro. 

Siarter Gofalwyr Di-dâl