Cost of Living Support Icon

Cynhalwyr Ifanc  

Mae gofalwr ifanc yn berson ifanc o dan 18 oed Young carers

sy’n darparu cefnogaeth a gofal i rywun ag anabledd,

salwch, cyflwr iechyd meddwl gwael,

neu sydd â dibyniaeth ar gyffuriau neu alcohol.  

 

Gall gofalwr ifanc ddarparu cymorth a gofal i rywun

maen nhw’n byw gyda nhw, a allai fod yn rhieni,

brodyr a chwiorydd, neiniau a theidiau ac ati.

 

Mae gofalwyr ifanc hŷn (oed 18-25) hefyd yn cael eu galw'n oedolion ifanc sy’n ofalwyr ac efallai bod ganddyn nhw anghenion cymorth gwahanol i ofalwyr iau.

 

Gallant ddarparu gofal ymarferol neu gorfforol, helpu gyda gofal personol, a helpu gyda thasgau domestig a / neu gefnogaeth emosiynol.

 

Gall gofalwyr ifanc wynebu cyfrifoldebau gofalu difrifol, yn ogystal â'r tasgau dyddiol maen nhw’n eu cwblhau ar gyfer eu rhieni fel gwaith tŷ, coginio ac ymolchi, maen nhw’n byw gyda phwysau ychwanegol yr ysgol ac, yn aml, diffyg dealltwriaeth gan eu ffrindiau ysgol.

 

Faint o ofalwyr ifanc sydd yng Nghymru?

Yn ôl Cyfrifiad 2021, mae dros 22,500 o ofalwyr ifanc a gofalwyr sy’n oedolion ifanc yng Nghymru.

 

Fodd bynnag, mae'n debygol bod y gwir nifer yn llawer uwch, gan nad yw llawer o ofalwyr ifanc yn cael eu nodi'n ffurfiol. Dyna pam ei bod hi mor bwysig bod gofalwyr ifanc yn teimlo'n ddiogel wrth ddatgelu eu hunain—fel y gallan nhw dderbyn y gydnabyddiaeth a'r cymorth maen nhw'n ei haeddu.

 

Asesiad Cynhalydd

Gall cynhalwyr ifanc wneud cais i dderbyn asesiad. Bydd asesiad yn rhoi cyfle i chi siarad â rhywun
am y math o gefnogaeth a allai hwyluso eich dyletswyddau gofal. 

Asesiad Cynhalwyr Ifanc

 

 

Datgelu eich bod chi’n ofalwr ifanc

Os ydych chi'n berson ifanc sy'n helpu i ofalu am aelod o'r teulu – boed oherwydd salwch, anabledd, problemau iechyd meddwl neu gamddefnyddio sylweddau – efallai eich bod chi'n ofalwr ifanc.

 

Gall gadael i'ch ysgol wybod wneud gwahaniaeth mawr. Gallwch:

 

  • Siarad ag athro dibynadwy
  • Gofyn i gael siarad ag Arweinydd Gofalwyr Ifanc yr ysgol

 

Mae datgelu eich hun yn golygu y gall eich ysgol ddeall eich anghenion yn well a chynnig:

 

  • cymorth a allai gynnwys dyddiadau dychwelyd gwaith cartref hyblyg
  • cymorth lles ychwanegol
  • neu fynediad at grwpiau gofalwyr ifanc.

Mae llawer o ysgolion hefyd yn cynnig cerdyn adnabod Gofalwr Ifanc, gan helpu staff i'ch adnabod a'ch cefnogi'n gyflym heb orfod esbonio'ch sefyllfa dro ar ôl tro.

 

Diwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc

Os hoffech ofyn am gerdyn adnabod Gofalwr Ifanc, e-bostiwch eich cais i valeyoungcarers@ymcacardiff.wales neu ffonio 02920 465250 a bydd rhywun o'r tîm Gofalwyr Ifanc yn cysylltu â chi.

 

 

YMCA

Prosiect Gofalwyr Ifanc y Fro                                  

Mae’r prosiect gofalwyr ifanc ym Mro Morgannwg yn cael ei redeg gan YMCA Caerdydd a’i ariannu gan Gyngor Bro Morgannwg.

 

Dim ond i bobl ifanc sydd wedi’u derbyn i’r prosiect y mae’r clwb hwn. 

Cysylltwch â'r Llinell Gyngor Teuluoedd yn Gyntaf i atgyfeirio.

 

  • 0800 032 7322
  • familiesfirstadviceline@valeofglamorgan.gov.uk

Bydd y Prosiect hwn yn darparu gweithgareddau seibiant rheolaidd i ofalwyr ifanc yn y Fro, rhwng 7 a 18 oed, gan roi cyfle iddynt gymdeithasu, gwneud ffrindiau a chael hwyl!

Vale Young Carers

Mae’r Clwb Ieuenctid Gofalwyr Ifanc yng Nghanolfan YMCA, Court Road, Y Barri, CF63 4EE, ar agor bob nos Iau a Gwener yn ystod y tymor. 

 

Mae'r oedrannau wedi eu rhannu ar draws y ddau ddiwrnod, gyda chlwb y plant iau (oedran ysgol gynradd) yn cael ei gynnal bob dydd Iau rhwng 4pm a 5:30pm yn ystod y tymor

 

a’r clwb hŷn (oedran ysgol gyfun) bob dydd Gwener rhwng 4pm a 5:30pm yn ystod y tymor.

 

Vale Young Carers - YMCA Cardiff

Mewngofnodi

Rhaglen Gofalwyr Ifanc mewn Ysgolion (RhGImY)

Mae'r Rhaglen Gofalwyr Ifanc mewn Ysgolion yn cefnogi ysgolion cynradd ac uwchradd ledled Caerdydd a Bro Morgannwg, gan eu helpu i gydnabod a diwallu anghenion gofalwyr ifanc.

 

Ein nod yw lleihau effaith negyddol cyfrifoldebau gofalu a sicrhau bod gofalwyr ifanc yn cael yr un mynediad at addysg, lles a chyfleoedd yn y dyfodol â'u cyfoedion.

 

Rydyn ni’n gweithio'n uniongyrchol gydag ysgolion, gan roi offer, adnoddau ac arweiniad iddyn nhw i ddatblygu dull gweithredu ysgol gyfan o gefnogi gofalwyr ifanc. Mae'r rhaglen yn canolbwyntio ar bum maes allweddol: 

  • Deall gofalwyr ifanc

  • Hysbysu staff ysgolion a chymunedau

  • Nodi gofalwyr ifanc yn gynnar

  • Gwrando ar leisiau gofalwyr ifanc

  • Eu cefnogi nhw'n effeithiol mewn addysg

Ariennir y Rhaglen Gofalwyr Ifanc mewn Ysgolion gan Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a'r Fro.

 

I gael gwybod mwy neu i gymryd rhan, cysylltwch â: hello@tuvida.org