Cost of Living Support Icon

Urddas Mislif

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi bod yn cefnogi teuluoedd i sicrhau urddas mislif i fenywod a merched o gartrefi incwm isel.

 

Mae cymorth parhaus wedi'i roi ac mae cynhyrchion wedi bod ar gael drwy ysgolion, y tîm 15plus, y gwasanaeth lles ieuenctid a phartneriaid cymdeithasau tai amrywiol.

 

Mae partneriaethau gyda mudiadau’r trydydd sector, gan gynnwys banciau bwyd, canolfannau cymunedol, canolfannau teulu ac ati, wedi cael eu rhoi ar waith i sicrhau mynediad i gynhyrchion mislif, yn rhad ac am ddim ac yn hygyrch yn y ffordd fwyaf ymarferol ac urddasol bosibl.

 

Byddwch yn ymwybodol bod gan bob ysgol ym Mro Morgannwg gyflenwadau urddas mislif i'ch plentyn eu defnyddio.

 

Pwyntiau Casglu Cynhyrchion Urddas Mislif

Porwch ein map i weld pwyntiau casglu cynhyrchion urddas mislif ym Mro Morgannwg. Cliciwch ar bwynt casglu i weld y cyfeiriad, y manylion cyswllt a'r amserau agor ar gyfer pob lleoliad.

 

Unedau Cyflenwi Dewis a Dethol

Period Dignity Stand Civic Offices Welsh

 

Mae gennym nifer o Beiriannau Glanweithdra 'Dewis a Chymysg' mewn lleoliadau ym Mro Morgannzg. Mae'r rhain yn caniatau i aelodau'r cyhoedd gymryd eitemau misglwyf pan fydd eu hangen arnynt heb orfod gofyn yn benodol amdanynt. Mae'r adborth ar gyfer yr Unedau hyn hyd yma wedi bod yn gadarnhaol iawn ac yn tynnu sylw at ar angen am gynhyrchion yn y Gymuned. 

 

 

 

Ar hyn o bryd mae gennym Unedau Dosbarthu wedi'u lleoli yn y lleoliadau canlynol:-

 

 

 

 

 

 

 

Cynnyrch am ddim ar gael i bob disgybl sy’n cael mislif

Gellir cyflwyno cynhyrchion mislif am ddim i ddisgyblion mewn ffordd ddiogel, ymarferol ac urddasol. Cysylltwch â perioddignity@valeofglamorgan.gov.uk i ofyn am eich cynhyrchion am ddim gan roi enw, ysgol, grŵp blwyddyn a chyfeiriad y disgybl er mwyn sicrhau y gallwn ymateb cyn gynted â phosibl.

 

Rydym yn ymwybodol na all rhai pobl ddefnyddio cynhyrchion penodol, neu nad ydynt am wneud hynny. Felly nid yw cynnig 'safonol' o gynhyrchion yn briodol.  Felly, mae amrywiaeth o gynhyrchion, gan gynnwys eitemau ecogyfeillgar, ar gael ar gais. Gofynnwch am y math o gynnyrch sy'n gweddu orau i chi.

 

Ein nod yw sicrhau nad oes unrhyw un yn llithro drwy'r rhwyd a bod darpariaeth ar gael i bob dysgwr sy’n cael mislif. 

Adnoddau Addysg

Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gydag Eco-Sgolion Cadwch Gymru'n Daclus i ddarparu adnoddau ar gyfer ysgolion a fydd yn hyrwyddo trafodaeth agored gyda phobl ifanc ac yn helpu i chwalu'r stigma cymdeithasol a'r tabŵs o amgylch mislif a chynhyrchion mislif. Mae'r adnoddau'n cynnwys gwybodaeth am ddewisiadau cynaliadwy yn lle cynhyrchion mislif untro a'r effaith y gall y rhain ei chael ar yr amgylchedd.

 

hwb.gov.wales   

 

Mae sesiynau hefyd wedi'u cynnal mewn Ysgolion, gan ganolbwyntio ar Ysgolion Cynradd yn y lle cyntaf, sy'n tynnu sylw at bob dim yn ymwneud â’r mislif, cylchoedd, defnyddio cynhyrchion ac ati. Ers mis Ionawr 2023 rydym wedi cynnal sesiynau o fewn 95% o Ysgolion Cynradd ym Mro Morgannwg. Bydd disgyblion Blwyddyn 7 ac 8 mewn Ysgolion Uwchradd yn cael cynnig y gwersi hyn hefyd. Bydd pob disgybl sy'n mynychu'r sesiynau hyn yn cael bag o gynhyrchion am ddim i'w cludo gartref.

Cynhyrchion Mislif Eco-gyfeillgar

Gyda chymorth arian Llywodraeth Cymru, caiff teuluoedd eu cynorthwyo i gyrchu cynhyrchion mislif gan gynnwys cynhyrchion mislif ecogyfeillgar (h.y. cynhyrchion y gellir eu hailddefnyddio a/neu ddi-blastig).

 

Mae codenni/bagiau hylendid sy'n cynnwys eitemau fel padiau amldro a llodrau isaf yn cael eu dosbarthu ar alw drwy brojectau lleol. Er na all y Cyngor gymeradwyo na hyrwyddo'r defnydd o unrhyw gynnyrch penodol dros y llall, rydym yn ymwybodol bod teuluoedd wedi cael peth anhawster cael mynediad at y cynhyrchion hyn.

 

Rydym wedi meithrin perthnasoedd da â’r cwmnïau canlynol bob un â chymwysterau ecogyfeillgar neu olion traed carbon bach. Ar hyn o bryd rydym yn cyflenwi:

 

Cynhyrchion untro tafladwy:

  • TOTM - Tamponau (dodwr cardfwrdd/heb ddodwr), padiau rheolaidd ac uwch, padiau leinin ysgafn.

  • Grace & Green - Tamponau rheolaidd ac uwch (dodwr cardfwrdd/heb ddodwr), padiau, padiau leinin ysgafn.

  • Hey Girls - Tamponau rheolaidd ac uwch (dodwr cardfwrdd/heb ddodwr), padiau, padiau leinin ysgafn.

  • Natracare - Tamponau (dodwr cardfwrdd/heb ddodwr), padiau, padiau leinin ysgafn.


Padiau amldro

  • Cheeky Wipes / Pants

  • Femme Tasse


Llodrau Isaf Mislif (amldro)

  • Cheeky Wipes / Pants

  • Femme Tasse 

  • Roytoy


Cwpanau mislif (amldro)

  • Hey Girls

  • TOTM

 

Gellir cael rhagor o wybodaeth am hyn drwy anfon e-bost i:

Gwefannau Ategol

Mae gan Lywodraeth Cymru Gynllun Gweithredu Strategol Urddas Mislif sydd ar gael yma:-