Cost of Living Support Icon

Tiwtora y Tu Allan i'r Ysgol 

Rydym yn darparu tiwtoriaid Hyfforddiant y Tu Allan i Oriau Ysgol (HTAOY) drwy'r Tîm Cynhwysiant yn y gyfarwyddiaeth Dysgu a Sgiliau.

 

Mae ein tiwtoriaid yn helpu i gefnogi dysgwyr nad ydynt yn gallu mynychu'r ysgol yn llawn amser.  Efallai y byddwn yn gweithio gyda dysgwyr os nad ydynt yn gallu mynychu'r ysgol am unrhyw un o'r rhesymau canlynol:

  • rhesymau meddygol

  • problemau sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl

  • beichiogrwydd

 

Mae ein tiwtoriaid yn cefnogi dysgwyr mewn lleoliadau ysgol a lleoliadau y tu allan i'r ysgol. Maent yn gweithio gyda staff yr ysgol a gweithwyr proffesiynol eraill i gefnogi dysgu'r plant. Maent hefyd yn helpu i gefnogi dysgwyr i ddychwelyd i'r ysgol.

 

Sut mae dysgwyr yn cael cymorth HTAOY?

Gall ysgolion gyfeirio dysgwyr at ein Panel Cymdeithasol ac Emosiynol ac Iechyd Meddwl (PCEIM). Cyn i ysgol wneud cais i'r PCEIM am gymorth, rhaid iddi gael caniatâd gan riant neu ofalwr y dysgwr.  Rhaid darparu tystiolaeth feddygol o angen fel rhan o atgyfeiriad PCEIM.

 

Dim ond un o'r ffyrdd posibl y gall yr Awdurdod Lleol gynnig cymorth ychwanegol yw HTAOY. 

 

Rydym yn adolygu darpariaeth tiwtoriaid HTAOY fel rhan o gynllun cymorth bugeiliol (CCB) dysgwr. Mae eu Rhaglen Cymorth Bugeiliol yn helpu i'w cefnogi'n ôl i ddysgu llawnach ac ehangach mewn ffordd raddol. 

 

Am ba hyd y bydd HTAOY yn gweithio gyda dysgwyr?

Mae tiwtoriaid HTAOY yn gweithio gyda dysgwyr ar sail tymor byr. 

 

Mae tiwtoriaid yn cyfarfod â'r ysgol, y dysgwr a'u rhieni neu ofalwyr i lunio Cynllun Cymorth Bugeiliol (CCB). Mae'r Rhaglen Cymorth Bugeiliol yn dweud sut olwg fydd ar eu dysgu unigol.  Cynhelir adolygiadau rheolaidd o'u Rhaglen Cymorth Bugeiliol.  Mae gan rieni, gofalwyr a dysgwyr i gyd ran i'w chwarae yn y cyfarfodydd adolygu hyn.

Bydd rhai dysgwyr yn cael asesiad tymor byr.   Efallai y byddant yn cael cymorth dysgu o bell (ar-lein), yn y ganolfan les neu yn yr ysgol.

 

Bydd HTAOY yn dod i ben pan: 

  • gall y dysgwr ddychwelyd i'w ysgol, neu

  • pan nad yw bellach o oedran ysgol (diwedd Blwyddyn 11), neu 

  • os yw darpariaeth amgen yn diwallu anghenion y dysgwr yn well

 

Bydd yr adolygiad CCB yn nodi beth yw'r cymorth terfynu neu drosglwyddo. Bydd hefyd yn nodi sut y bydd HTAOY yn cau i’r dysgwr mewn ffordd gynlluniedig. Bydd y PCEIM yn rhan o benderfyniadau cau HTAOY.

 

Beth mae'r tiwtoriaid HTAOY yn ei wneud?

Nod y Gwasanaeth Cynhwysiant yw sicrhau bod dysgwyr yn cael mynediad at addysg llawn amser addas sy'n diwallu eu hanghenion.  Gall hyn edrych yn wahanol i bob dysgwr ond bydd yn gynllun darpariaeth sy'n seiliedig ar anghenion fel y nodir yn y Rhaglen Cymorth Bugeiliol.

 

Yn amodol ar delerau'r atgyfeiriad PCEIM a'r targedau a nodwyd yn y Rhaglen Cymorth Bugeiliol, bydd aelod o'r Tîm HTAOY yn gwrando ar y dysgwr ac yn cysylltu â'r ysgol berthnasol i gefnogi addysg y dysgwr yn unigol. Gall hyn gynnwys, er enghraifft, darparu cymorth addysgu ar gyfer TGAU mewn Mathemateg a Saesneg yng Nghyfnod Allweddol 4 neu ddarparu mynediad i Becyn Cymorth Hanfodol Cymru (PCHC) i ddatblygu sgiliau rhifedd, llythrennedd a digidol.

 

Bydd ysgolion yn parhau i chwarae rhan yn addysg y dysgwr drwy gydol yr amser y cynigir HTAOY, drwy: 

  • sefydlu a mynychu cyfarfodydd CCB

  • cynnig mynediad i ddysgu ac adnoddau ar-lein

  • galluogi mynediad i arholiadau