Cost of Living Support Icon

Anghenion Dysgu Ychwanegol

Fel rhiant neu ofalwr, efallai eich bod yn pryderu bod gan eich plentyn Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). Mae gan blentyn neu berson ifanc ADY os:

  • ydyn nhw’n ei chael hi’n sylweddol anoddach dysgu na’r rhan fwyaf o blant o’r un oedran

  • oes ganddynt anabledd sy'n eu hatal neu eu rhwystro rhag defnyddio’r cyfleusterau addysgol a ddarperir yn gyffredinol i eraill o'r un oedran mewn ysgol prif ffrwd a gynhelir neu Sefydliad Addysg Bellach ac angen Darpariaeth Ddysgu Ychwanegol (ADY).

Mae gwybodaeth a chanllawiau ar gyfer plant a phobl ifanc sydd angen cymorth ychwanegol i ddysgu isod.

 

Llyfryn arweiniad Anghenion Dysgu Ychwanegol i rieni a gofalwyr

Buom yn gweithio gydag awdurdodau lleol eraill yn rhanbarth Canol y De i gynhyrchu llyfryn gwybodaeth, cyngor ac arweiniad ADY i rieni a gofalwyr:

 

Llyfryn Arweiniad ADY i rieni a gofalwyr

 

Sut mae Anghenion Dysgu Ychwanegol yn newid

Darllenwch wybodaeth am y system ADY newydd a sut bydd hyn yn newid y ffordd y bydd ysgolion yn gweithio gyda chi i nodi a chefnogi anghenion plant a phobl ifanc.

Cael cymorth gydag ADY

Dysgwch beth i'w wneud os ydych chi'n meddwl bod angen cymorth ychwanegol ar blentyn neu berson ifanc i ddysgu. Gwybodaeth am bwy i siarad â nhw a sut i gael cefnogaeth.​

Cysylltiadau Anghenion Dysgu Ychwanegol

Manylion y bobl allweddol sy'n ymwneud â chefnogaeth ADY ac y dylid cysylltu â nhw i gael cymorth.

Cynllunio ac adolygiadau

Gwybodaeth am Ymarfer Sy'n Canolbwyntio ar Yr Unigolyn, Proffiliau Un Dudalen a Chynlluniau Datblygu Unigol (CDU)

Y Blynyddoedd Cynnar

Sut mae ADY yn newid i blant sy’n rhy ifanc i fynychu’r ysgol.

Datrys Anghytundebau

Beth i'w wneud os nad ydych yn hapus am benderfyniad a wnaed yn ystod y broses ADY.

Adnoddau defnyddiol

Gwybodaeth am asiantaethau ac elusennau ategol sy'n gallu helpu gydag anghenion dysgu ychwanegol.

 

Cysylltu â'r tîm ADY

Os oes gennych ymholiadau ADY cysylltwch â:

  • 01446 709180
  • Drwy’r post

    Tîm ADY Anghenion Cymhleth

    Cyngor Bro Morgannwg

    Swyddfeydd Dinesig

    Heol Holltwn

    Y Barri

    CF63 4RU

 

 

 

The Index for Children Disabilities or Additional Needs Logo

Mynegai i Blant a Phobl Ifanc sydd ag Anableddau ac Anghenion Ychwanegol

 

Mae'r Mynegai ar gyfer teuluoedd sydd â phlant 0-18 oed, sydd ag anabledd neu angen ychwanegol ac sy'n byw ym Mro Morgannwg.

 

Mae'n ffordd o roi'r wybodaeth ddiweddaraf i deuluoedd am yr hyn sydd ar gael yn lleol ac yn genedlaethol.

Byddwch yn derbyn cylchlythyr bob tri mis, yn llawn gwybodaeth am ddigwyddiadau, gweithgareddau, cynlluniau chwarae a gwasanaethau, yn ogystal ag e-fwletinau rheolaidd.

 

Mae cofrestru'n rhad ac am ddim ac yn gwbl wirfoddol ac nid oes angen i chi fod ag anabledd sydd wedi'i ddiagnosio.

Mae rhagor o wybodaeth ar ein tudalennau gwe, yn ogystal â fideo cyflym a ffurflen gofrestru ar-lein.

 

Mynegai i Blant a Phobl Ifanc sydd ag Anableddau ac Anghenion Ychwanegol