Cost of Living Support Icon

Cael cymorth ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol

Dysgwch beth i'w wneud os ydych chi'n meddwl bod angen cymorth ychwanegol ar blentyn neu berson ifanc i ddysgu. Gwybodaeth am bwy i siarad â nhw a sut i gael cymorth.

 

Sut i gael cymorth: Canllaw cam wrth gam 

Fel rhiant neu ofalwr, efallai eich bod yn pryderu bod gan eich plentyn Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). Mae gan blentyn neu berson ifanc ADY os:

  • ydyn nhw’n ei chael hi’n sylweddol anoddach dysgu na’r rhan fwyaf o blant o’r un oedran neu 

  • os oes ganddynt anabledd sy'n eu hatal neu eu rhwystro rhag defnyddio’r cyfleusterau addysgol a ddarperir yn gyffredinol i eraill o'r un oedran mewn ysgol prif ffrwd a gynhelir neu Sefydliad Addysg Bellach

Os ydych chi eisiau gwybod mwy am sut gallwch chi a'ch plentyn gael cymorth, gwyliwch y fideo hwn a darllenwch y canllaw cam wrth gam isod.

 

Cam 1: Siaradwch gydag athro eich plentyn

Os ydych chi’n credu bod gan eich plentyn Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) siaradwch ag athro neu Gydlynydd ADY eich plentyn. Maent wedi'u hyfforddi i roi gwybodaeth, cyngor ac arweiniad.

 

Cam 2: Creu Cynllun Datblygu Unigol (CDU) gyda'ch gilydd

Os yw'r ysgol yn cytuno â chi bod gan eich plentyn ADY, bydd yn gweithio gyda chi, eich plentyn ac unrhyw weithwyr proffesiynol sy'n ymwneud ag ef i greu CDU. Mae'n bwysig i chi wneud hynny, gan eich bod chi'n adnabod eich plentyn orau. Fel arfer mae CDU yn cael ei adolygu bob 12 mis, neu'n gynt os oes angen.

 

Cam 3: Trafod unrhyw bryderon gyda'r ysgol neu'r awdurdod lleol

Os nad yw'r ysgol yn cytuno bod gan eich plentyn ADY, neu os nad ydych chi'n hapus gyda chynnwys CDU eich plentyn, y peth cyntaf i'w wneud fyddai trafod hyn gyda'ch ysgol. Os ydych chi'n dal yn anfodlon yna gallwch ystyried siarad â'ch awdurdod lleol i ofyn am gyngor pellach. Os yw'r awdurdod lleol yn cytuno â chi, yna bydd CDU yn cael ei baratoi neu ei adolygu.

 

Cam 4: Gallwch gael mynediad at eiriolwr

Os yw'r awdurdod lleol yn cytuno â'r ysgol ond rydych chi'n dal yn anhapus, gallant eich cyfeirio at wasanaethau eiriolaeth annibynnol sy'n cefnogi teuluoedd, plant a phobl ifanc i wneud dewisiadau gwybodus ar beth i'w wneud nesaf.

 

Cam 5: Mae gennych hawl i apelio

Mae gan bob plentyn a pherson ifanc a’i rieni/gofalwyr yr hawl i apelio i Dribiwnlys Addysg Cymru (TAC) yn erbyn penderfyniadau. Mae'r TAC yn grŵp arbennig o bobl sydd â'u gwaith i ddelio ag anghytuno. Os bydd ei angen, bydd yn darparu ffrind achos i gefnogi'ch plentyn. Mae ffrind achos yn rhywun a fydd yn cefnogi eich plentyn drwy'r broses dribiwnlys. Dylech chi bob amser drafod unrhyw bryderon gyda'r ysgol neu'r awdurdod lleol yn y lle cyntaf.