Cost of Living Support Icon

Cysylltiadau ADY 

Mae Deddf ADY (Cymru) wedi amlygu rolau allweddol fydd yn gyfrifol am gynorthwyo cydlynu a gweithredu'r system ADY. lsod, ceir crynodeb o'r rolau allweddol hynny, a'u cyfrifoldebau.

 

Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (ALNCo).

Mae'r r61 hon yn debyg i r61 y cydlynydd anghenion arbennig. Yr ALNCo yw'r prif gydlynydd ar gyfer dysgwyr ag anghenion ychwanegol. Mae'n gweithio mewn ysgolion a gynhelir, meithrinfeydd, colegau ac unedau cyfeirio disgyblion.

 

Mae'r cydlynydd yn sicrhau bod anghenion pob dysgwr gydag ADY yn y lleoliad addysg yn cael eu bodloni.

 

Gall eich ysgol roi manylion cyswllt ar gyfer eich Cydlynydd ADY.

 

Swyddog Arweiniol Clinigol Dynodedig Addysg

Mae'r gyfraith newydd yn mynnu bod gan bob bwrdd iechyd swyddog arweiniol clinigol dynodedig addysg (DECLO). Bydd y swyddog arweiniol clinigol yn gyfrifol am gydlynur61 y bwrdd iechyd mewn perthynas a phlant a phobl ifanc ag ADY.


Bydd r61 DECLO hefyd yn helpu awdurdodau iechyd ac addysg i weithio gyda'i gilydd yn fwy effeithiol; lie bo'n briodol, bydd yn cyfrannu at CDU a darpariaeth anghenion dysgu ychwanegol.

 

Swyddog Arweiniol Anghenion Dysgu Ychwanegol y Blynyddoedd Cynnar (EYALNLO)

Roi Swyddog Arweiniol Anghenion Dysgu Ychwanegol y Blynyddoedd Cynnar yw gweithio gyda rhieni, lleoliadau'r blynyddoedd cynnar, gweithwyr iechyd proffesiynol a phobl eraill all fod yn gweithio gyda phlant dan oedran ysgol gorfodol, i godi ymwybyddiaeth o'r system ADY a hyrwyddo ymyrraeth gynnar.

 

Mae'r EYALNLO yn gyfrifol am gydlynu rol yr awdurdod lleol mewn perthynas a phlant dan oedran ysgol gorfodol nad ydynt yn mynychu ysgolion a gynhelir. Mae hyn yn berthnasol i bob plentyn hyd nes iddyn nhw gyrraedd oedran ysgol statudol.

 

Cysylltu â'r tîm ADY

Os oes gennych ymholiadau ADY cysylltwch â:

  • 01446 709180
  • Drwy’r post

    Tîm ADY Anghenion Cymhleth

    Cyngor Bro Morgannwg

    Swyddfeydd Dinesig

    Heol Holltwn

    Y Barri

    CF63 4RU