Cost of Living Support Icon

Cynllunio ac Adolygiadau

Mae'r system ADY newydd yng Nghymru yn gosod dyletswydd ar bob Awdurdod Lleol ac ysgol i sicrhau bod barn, dymuniadau a theimladau'r plentyn a rhiant y plentyn, neu'r person ifanc, wrth wraidd y broses benderfynu. Mae'r ddyletswydd hon yn adlewyrchu ethos Arfer sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn (ACU). 

 

Ymarfer sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn (PCP)

Mae defnyddio offer meddwl sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn gallu gwella sut mae plant, teuluoedd ac ymarferwyr yn cyfathrebu, ac mae mabwysiadu dulliau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn gallu bod yn hynod ddefnyddiol wrth feddwl am bontio a chynllunio ar ei gyfer.

  • Proffil Un Dudalen

  • Offer Meddwl sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn

  • Adolygiadau (Ymarfer sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn) Blynyddol

Bydd yr holl ysgolion a gynhelir a lleoliadau'r blynyddoedd cynnar yn eich awdurdod lleol yn ceisio cyfathrebu a'ch plentyn a gyda chi gan ddefnyddio offer cyfathrebu sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda chi a'ch plentyn i gwblhau Proffil Un Dudalen (OPP).

 

  • Offer Meddwl sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn

    Yn sgil gweithredu Deddf ADY, bydd y rheiny sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc yn defnyddio proffiliau un dudalen i gasglu gwybodaeth berthnasol.

     

    Mae'r proffil yn cofnodi'r holl wybodaeth bwysig am y plentyn neu berson ifanc ar un dudalen o bapur o dan dri phennawd syml:

    • Beth mae pobl yn ei werthfawrogi amdana' i?

    • Beth sy'n bwysig i fi yn yr ysgol?

    • Beth yw'r ffordd orau o roi cymorth i fi yn yr ysgol?

  • Adolygiadau (Ymarfer sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn) Blynyddol

    Mae Llywodraeth Cymru wedi creu adnoddau ar gyfer teuluoedd, plant a phobl ifanc ar yr hyn y gellir ei ddisgwyl mewn adolygiadau blynyddol a chyfarfodydd ymarfer sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.

     

    Ffocws y cyfarfod adolygu yw darganfod:

    • Beth sy'n bwysig i'r 

      plentyn neu person ifanc

    • Beth sy'n bwysig ar gyfer y plentyn neu person ifanc

    • Beth yw·r ffordd orau o gynorthwyo'r plentyn (beth y mae angen i chi ei wybod neu ei wneud, fel cwblhau ei gynllun dysgu?)

    • Beth sy'n gweithio neu ddim yn gweithio (o safbwynt y plentyn neu person ifanc/y teulu/yr ysgol?)

    • Unrhyw gwestiynau i'w hateb - galluogi pawb sydd ynghlwm i ofyn cwestiynau perthnasol, hynny yw, a roddir sylw i'r gofynion statudol (a yw'r CDU'n parhau i fod yn berthnasol?)

    • Gweithredoedd, cytuno ar y camau nesaf i'w cymryd a dyddiad adolygu

  

 

Cynllun Datblygu Unigol

Mae Cynllun Datblygu Unigol (CDU) yn ddogfen gyfreithiol fydd yn cael ei defnyddio yn lie datganiadau. Mae CDU yn canolbwyntio ar yr hyn sydd ei angen ar eich plentyn er mwyn cyrraedd ei botensial addysgol.

 

Defnyddir y wybodaeth a nodir yn y CDU i lywio'r Ddarpariaeth Ddysgu Ychwanegol (DDY). Bydd y math o gymorth a amlinellir, a'r manylion yn y cynllun, yn dibynnu ar hyd a lled ADY y plentyn neu person ifanc.

 

 

  • Ar bwy fydd angen CDU?

    Unrhyw blentyn neu berson ifanc 0-16 oed sy'n bodloni disgrifiad ADY (gweler Rhan Dau). A hefyd unrhyw berson ifanc 16-25 oed sy'n bodloni'r diffiniad uchod o ADY a meini prawf addysg.

     

     

  • Beth fydd yn digwydd os bydd angen CDU ar fy mhlentyn?

    Gellir gwneud cais am CDU gan riant/gofalwr, gweithiwr proffesiynol neu'r dysgwr ei hun. 

    • Ar gyfer plant 0-3 oed, gwneir y cais hwn i'r awdurdod lleol

    • Ar gyfer plant oedran ysgol, gwneir y cais i'r ysgol i ddechrau

    • Ar gyfer myfyrwyr coleg, gwneir y cais i'r coleg 

    Y Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol fydd eich prif bwynt cyswllt mwy na thebyg, ac eithrio os nad yw eich plentyn wedi dechrau yn yr ysgol neu'r dosbarth meithrin -yn yrachos hwn, eich gweithiwr gofal iechyd proffesiynol, yr ALNLO y blynyddoedd cynnar neu arbenigwr y blynyddoedd cynnar arall o'ch awdurdod lleol fydd eich pwynt cyswllt.

     

    Os nad yw'r ysgol yn cytuno bod gan eich plentyn ADY, rhaid iddynt roi gwybod i chi ac esbonio pam. Os byddwch yn anghytuno il'r penderfyniad, dylech drafod hyn gyda'r ysgol yn y lie cyntaf. Os na fyddwch yn gallu dod i gytundeb, gallwch ofyn i'r awdurdod lleol adolygu'r penderfyniad. 

     

    Gweler y wybodaeth Anghytundeb a Datrysiad.

     

     


  • Sut olwg fydd ar CDU?

    Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu templed gorfodol ar gyfer y CDU (gweler yr enghraifft yn atodiadau'r canllaw hwn).

     

    Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y gall awdurdodau lleol newid arddull a chynllun y ddogfen, ond rhaid iddynt ddefnyddio'r holl benawdau, ac yn y drefn y maen nhw'n ymddangos ar y templed.

  • Pwy fydd yn gyfrifol am greu ac adolygu’r CDU?

     

    Pwy fydd yn gyfrifol am greu ac adolygu’r CDU?
    Plentyn/person ifancCyfrifoldeb dros CDU

    Newyddanedig-3 oed (ddim mewn addysg orfodol)

    Awdurdod lleol

    Plant 4-16 oed sy’n mynychu ysgolion prif ffrwd

    Ysgol neu awdurdod lleol

    Pobl ifanc 16 oed a hŷn sy’n mynychu coleg prif ffrwd neu ysgol

    Y coleg neu ysgol

    Bydd CDU yn cael ei adolygu’n flynyddol (o fewn 12 mis) ar ôl model cyfathrebu a chyfranogiad yr adolygiad sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Os byddwch chi neu eich plentyn yn dymuno hynny, gallwch wneud cais am adolygiad cynt. Hefyd, gall ysgol neu goleg eich plentyn, neu’r awdurdod lleol, benderfynu adolygu CDU yn gynt. Bydd yn rhoi gwybod i chi a’ch plentyn ac yn cytuno ar ble a phryd y cynhelir yr adolygiad.

  • Beth yw adolygiad CDU sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn?

    Mae adolygiadau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn ffordd o benderfynu pa gymorth sydd ei angen ar blentyn neu berson ifanc gydag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) neu benderfynu ar unrhyw newidiadau y mae angen eu gwneud i’w cymorth neu’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol.

     

    Mae’n bwysig bod y bobl gywir yn rhan o gyfarfod adolygu plant a phobl ifanc i’w helpu i gynllunio ar gyfer eu dyfodol.

     

    Mae hyn yn sicrhau bod ganddyn nhw’r pethau sy’n bwysig iddyn nhw, yn ogystal â’r cymorth cywir i’w helpu i gyflawni eu dyheadau.

  • Pwy fydd yno?

    Weithiau, efallai y bydd llawer o bobl yn rhan o’r adolygiad, fel gweithwyr proffesiynol iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg, yn ogystal â theulu a ffrindiau.

     

     

     

    Ar adegau eraill, efallai mai dim ond chi, eich plentyn a rhywun o’r ysgol neu’r coleg fydd yno.

  • Ble a phryd fydd yn cael ei gynnal?

    Bydd yn cael ei gynnal yn lleoliad y blynyddoedd cynnar, yr ysgol neu’r coleg, siŵr o fod, Dylai’r amser a’r dyddiad fod yr un mor gyfleus i bawb sy’n mynychu. Bydd o leiaf un cyfarfod adolygu CDU bob blwyddyn; bydd yr ysgol neu’r coleg yn rhoi gwybod i chi pryd fydd y rhain.
  • Beth mae angen i chi feddwl amdano cyn y cyfarfod?

    Mae Llywodraeth Cymru wedi creu llyfryn 'Adolygiadau sy’n Canolbwyntio ar Unigolion ar gyfer Teuluoedd' er mwyn eich helpu i feddwl am y pethau yr hoffech eu dweud. 

     

    Gallwch ddefnyddio'r gweithgareddau neu'r adnoddau yn y llyfryn i ysgrifennu pethau rydych chi eisiau eu dweud ar y diwrnod.  Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod eich barn yn cael ei chlywed yn y cyfarfod. Efallai y bydd eich ysgol hefyd yn anfon gwaith papur atoch chi y maen nhw'n credu allai fod yn ddefnyddiol. Efallai y byddan nhw'n gofyn i chi ddychwelyd copi ohono cyn y cyfarfod.  

     

    Mae'n bwysig i'ch plentyn fod eich barn yn cael ei chlywed felly mae'n hanfodol eich bod chi'n neilltuo amser i feddwl am y cwestiynau a chofnodi eich barn. 

     

     

     

     

  • Beth fydd yn digwydd yn y cyfarfod?

    Bydd awyrgylch anffurfiol mewn adolygiad sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, sy’n wahanol iawn i gyfarfodydd traddodiadol eraill rydych o bosibl wedi’u mynychu.

     

    Mae popeth wedi’i drefnu i fod mor anffurfiol a chyfforddus â phosibl. Os bydd yn gyfarfod bach, gallai fod yn sgwrs ymlaciedig, neu efallai y gall y cyfarfod gynnwys rhai o’r pethau canlynol:

    • Os bydd llawer o bobl yn dod, efallai y bydd bwrdd mawr yno, ond efallai bydd cerddoriaeth yn chwarae a phosteri neu ddarnau mawr o bapur wedi’u pinio i’r waliau

    • Y bwriad yw galluogi pawb sydd yno, gan gynnwys chi, i ddweud beth sy’n bwysig iddyn nhw

    • Bydd pob adolygiad yn newid i fodloni anghenion eich plentyn, sydd wrth wraidd y cyfarfod. Bydd un person, a elwir yn hwylusydd, yn gyfrifol am sicrhau bod pawb yn cael cyfle i ddweud ei farn a bod y cyfarfod yn cytuno ar dargedau a gweithredoedd er mwyn newid

    • Mae’n debygol y bydd yr hwylusydd yn rhywun o’r ysgol neu’r coleg, a dylech gael gwybod pwy fydd hwn cyn y cyfarfod

    • Mae’r cyfarfod yn dechrau gyda phawb yn cyflwyno ei hun ac o bosibl yn rhannu rhywbeth mae’n ei hoffi neu’n ei edmygu am eich plentyn

    • Bydd yr hwylusydd yn esbonio beth fydd yn digwydd yn y cyfarfod adolygu ac yna bydd pawb yn cael cyfle i rannu ei farn a’i wybodaeth am eich plentyn

    • Ar ôl i bawb orffen rhoi eu sylwadau, bydd pob un ohonoch yn ystyried ac yn trafod beth sydd angen ei newid a pha ganlyniadau a thargedau rydych eisiau eu gweld

    • Yna, byddwch yn cytuno ar ba gamau i’w cymryd er mwyn cefnogi eich plentyn i’w helpu i gyflawni ei ddyheadau

  • Ar ddiwedd adolygiad

    Erbyn diwedd yr adolygiad, bydd yr hwylusydd yn sicrhau y cytunwyd ar y gweithredoedd. Bwriad y gweithredoedd yw sicrhau y gall pawb weld beth fydd yn cael ei wneud i gynorthwyo eich plentyn i ddysgu a chyflawni ei freuddwydion. 

    Mae gan ysgolion amrywiaeth o adnoddau a fydd yn helpu i’ch tywys drwy’r broses ac yn sicrhau bod barn y dysgwr yn cael ei hystyried.