Cost of Living Support Icon

 

Gwasanaethau Cymorth Arbenigol

 

Mae nifer fach o ddisgyblion angen cymorth arbenigol sy'n gofyn am arbenigedd a/neu adnoddau nad ydynt ar gael yn lleoliad y dysgwr.  Os felly, gall y lleoliad atgyfeirio i’r adran ADY o fewn yr Awdurdod Lleol i ystyried a fyddai'r plentyn yn cael y gefnogaeth orau trwy wasanaeth cymorth arbenigol neu wasanaeth Allgymorth.  

 

Pe bai'r atgyfeiriad hwn yn cael ei dderbyn, yn dilyn penderfyniad y panel, byddai’r lleoliad yn cael gwybod ac yn cydweithredu â rhanddeiliaid.

 

Ni fydd unrhyw atgyfeiriad yn cael ei wneud heb ganiatâd rhiant/ gwarcheidwad y plentyn. 

 

Mae nifer o wasanaethau cymorth arbenigol ym Mro Morgannwg:

 

 

Allgymorth Gwybyddiaeth a Dysgu

 

Pwrpas Allgymorth yw cefnogi'r dysgwr sydd ag anghenion gwybyddiaeth a dysgu parhaus a nodwyd mewn Cynllun Datblygu Unigol (CDU). 

 

Gall y dysgwr arddangos proffil cymhleth, sy'n cynnwys anghenion ychwanegol mewn un neu fwy o'r meysydd canlynol; 

 

 

·        Cyfathrebu a Rhyngweithio

·        Ymddygiad, Datblygiad Emosiynol a Chymdeithasol            

·        Anghenion Synhwyraidd a/neu Gorfforol 

 

 

 

Allgymorth Anawsterau Dysgu Penodol 

 

Pwrpas allgymorth ADP yw cefnogi'r dysgwr sydd ag angen neu anhawster dysgu penodol gydag un neu fwy o rannau penodol o ddysgu.

 

Mae'r gwasanaeth Allgymorth yn ymdrechu i ddiwallu anghenion penodol y dysgwyr drwy waith uniongyrchol.

 

 

Allgymorth Anghenion Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu 

Pwrpas allgymorth yw cefnogi dysgwyr sydd ag Anghenion Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu sylweddol gan gynnwys Anhwylder Iaith Datblygiadol a/neu Anhwylder Lleferydd Penodol.

 

Gall dysgwyr arddangos proffil cymhleth, sy'n cynnwys anawsterau / anghenion ychwanegol mewn un neu fwy o'r meysydd canlynol: synhwyraidd, cyfathrebu, meddygol.

 

Yn ogystal, efallai y bydd rhai dysgwyr wedi dod yn agored i niwed neu wedi'u hynysu mewn lleoliad prif ffrwd a/neu gall profiadau dysgu a chymdeithasol fod wedi effeithio’n andwyol ar gynnydd a datblygiad.

 

 

 

Allgymorth Anghenion Corfforol a Meddygol

 

Pwrpas allgymorth yw cefnogi lleoliadau addysgol a rhieni'n effeithiol i reoli anghenion dysgwyr sydd wedi cael eu diagnosio â diagnosis neu anhawster corfforol neu feddygol.

 

Gall y dysgwr arddangos proffil cymhleth, sy'n cynnwys anghenion ychwanegol mewn un neu fwy o'r meysydd canlynol;

 

·        Cyfathrebu a Rhyngweithio

·        Ymddygiad, Datblygiad Emosiynol a Chymdeithasol          

·        Gwybyddiaeth a Dysgu.

 

 

Allgymorth Nam ar y Golwg

 

Pwrpas Allgymorth yw cefnogi lleoliadau addysgol a rhieni'n effeithiol i reoli anghenion dysgwyr sydd wedi cael eu diagnosio â nam ar y golwg.  Sicrhau bod dysgu effeithiol yn digwydd.

 

Mae'r gwasanaeth Allgymorth yn ymdrechu i ddiwallu anghenion synhwyraidd, cyfathrebu, cymdeithasol ac emosiynol y disgyblion fel rhan o nam ar y golwg, ac i gefnogi plant nad eu prif ADY yw eu nam ar y golwg o reidrwydd. 

 

 

Allgymorth Cymorth Clyw

 

Pwrpas allgymorth yw cefnogi lleoliadau addysgol a rhieni yn effeithiol i reoli anghenion dysgwyr sydd wedi cael diagnosis o golli clyw. Sicrhau bod dysgu effeithiol yn digwydd.

 

Mae'r gwasanaeth Allgymorth yn ymdrechu i ddiwallu anghenion synhwyraidd, cyfathrebu, cymdeithasol ac emosiynol y dysgwyr.

 

Gwasanaeth Ymgysylltu

 

Diben y gwasanaeth hwn yw cefnogi ysgolion i ddatblygu eu darpariaeth i ddiwallu anghenion dysgwyr cymhleth ac agored i niwed.  Mae'n wasanaeth sy'n cael ei lywio gan drawma ac iechyd meddwl sy'n cael ei lywio gan DDP.

 

Mae'r tîm yn deall heriau a chryfderau gwahaniaeth niwroddatblygiadol ac yn dathlu amrywiaeth.