Cost of Living Support Icon

Sut mae Anghenion Dysgu Ychwanegol yn newid

Mae'r dull o gefnogi plant a phobl ifanc sy'n cael anawsterau gyda dysgu yn newid.

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi pasio deddfwriaeth newydd, o'r enw Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru), a gaiff ei chefnogi gan y Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). Bydd y Ddeddf a’r Cod yn disodli'r ddeddfwriaeth a’r canllawiau ynghylch y system anghenion addysgol arbennig (AAA) flaenorol.

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi creu canllaw i rieni, gofalwyr a theuluoedd am sut y bydd plant yn symud i'r system anghenion dysgu ychwanegol (ADY):

 

Canllaw system ADY i rieni:

 

https://www.llyw.cymru/sites/default/files/publications/2022-09/gweithredur-system-anghenion-dysgu-ychwanegol-rhwng-medi-2021-ac-awst-2024-canllaw-i-rieni-a-theuluoedd.pdf

 

 

Beth sy’n newid?

O fis Medi 2023 mae’r system Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) wedi dechrau disodli’r system Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) flaenorol. Pan gyflwynir y system ADY, byddwch yn sylwi ar y newidiadau canlynol i'r hyn y mae pethau'n cael eu galw:

  • bydd Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) yn dod yn Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)

  • bydd Cydlynwyr Anghenion Addysgol Arbennig (CAAA) yn dod yn Gydlynwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY)

  • bydd darpariaeth addysgol arbennig yn dod yn Ddarpariaeth Ddysgu Ychwanegol (DDdY)

  • bydd cynlluniau fel Cynlluniau Addysg Unigol (CAU), datganiadau a chynlluniau dysgu a sgiliau yn cael eu disodli gan gynllun newydd o'r enw Cynllun Datblygu Unigol (CDU)

Bydd rhai pethau yn aros yr un fath. Mae bod ag ADY yr un fath â bod ag AAA. Mae hyn yn golygu os oes gan blentyn neu berson ifanc AAA, mae'n debygol y bydd ganddo ADY hefyd. Ac mae'n golygu y bydd y ddarpariaeth addysgol arbennig mae plant a phobl ifanc yn ei chael i'w helpu i ddysgu yn y feithrinfa, yr ysgol, yr UCD neu'r coleg gan fod ganddynt AAA yn parhau, os oes ei hangen o hyd, ond bydd bellach yn cael ei galw'n ddarpariaeth ddysgu ychwanegol.

 

Pryd y bydd plant a phobl ifanc yn symud i'r system newydd?

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi newid yr amserlen weithredu fel bod gan feithrinfeydd, ysgolion ac awdurdodau lleol tan fis Awst 2025 i symud i’r system ADY.

 

 

Mae Dyddiadau pan fydd plant a phobl ifanc yn symud i'r system newydd ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

 

Sut y bydd plant a phobl ifanc yn symud i'r system newydd?

Mae'r system ADY newydd yn pwysleisio mwy o gydweithio, a phwysigrwydd darparu cymorth a gwybodaeth i sicrhau bod plant, a'u teuluoedd a phobl ifanc yn cymryd cymaint o ran â phosibl mewn penderfyniadau sy'n effeithio arnynt. Dyma pam y bydd ysgolion, neu awdurdodau lleol yn gweithio gyda chi, eich plentyn a gweithwyr proffesiynol eraill gan ddilyn y dull sy'n canolbwyntio ar unigolion i benderfynu ar y ffordd orau o ddiwallu anghenion eich plentyn.

 

Bydd y rhan fwyaf o blant yn symud o'r system AAA i'r system ADY pan fydd eu meithrinfa awdurdod lleol, ysgol awdurdod lleol neu awdurdod lleol yn rhoi hysbysiad CDU iddynt.

 

Mae hysbysiad CDU yn golygu bod meithrinfa, ysgol neu awdurdod lleol wedi penderfynu bod gan blentyn ADY ac y bydd CDU yn cael ei wneud ar gyfer y plentyn.

 

Mae'n debygol y bydd gan blant ag AAA â darpariaeth drwy weithredu yn y blynyddoedd cynnar, gweithredu yn y blynyddoedd cynnar a mwy, gweithredu gan yr ysgol, neu weithredu gan yr ysgol a mwy ADY.

 

Ar adegau, bydd plentyn a oedd ag AAA yn cael hysbysiad o'r enw hysbysiad dim CDU. Mae hysbysiad dim CDU yn golygu bod y feithrinfa, yr ysgol neu'r awdurdod lleol wedi penderfynu nad oes gan y plentyn ADY ac na fydd CDU yn cael ei wneud ar gyfer y plentyn. Efallai y bydd plant yn cael hysbysiad dim CDU am fod eu hanghenion wedi newid ac nad oes angen cymorth arnynt mwyach i ddysgu.