Cost of Living Support Icon
warm Spaces Icon

Adnoddau defnyddiol 

Gwybodaeth am asiantaethau ac elusennau ategol sy'n gallu helpu gydag anghenion dysgu ychwanegol.

 

Adnoddau i blant

Ei chael hi’n anodd yn yr ysgol?

Os ydych chi'n ei chael hi'n anoddach i ddysgu rhywbeth, mae cymorth ychwanegol ar gael. Mae'r fideo hwn yn esbonio Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a Chynlluniau Datblygu Unigol (CDU). Gallwch hefyd ddarllen y canllawiau defnyddiol hyn:

 

Plant yng Nghymru

Plant yng Nghymru yw’r corff ambarél cenedlaethol ar gyfer sefydliadau ac unigolion sy’n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd yng Nghymru. 

Children in Wales is the national umbrella body for organisations and individuals who work with children, young people and their families in Wales. Maen nhw'n:

  • Cyfrannu at wireddu Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yng Nghymru

  • Brwydro dros wasanaethau cynaliadwy o ansawdd uchel a chyfran deg i bob plentyn a pherson ifanc

  • Sicrhau sylw a thriniaeth arbennig i blant mewn angen a’r rhai sydd ar y cyrion

  • Sicrhau bod llais gan blant a phobl ifanc

 

Fforwm Cymru Gyfan i Rieni a Gofalwyr Pobl ag Anableddau Dysgu

Sefydlwyd Fforwm Cymru Gyfan gan grŵp o rieni a gofalwyr o bob rhan o Gymru sydd am gael 'llais a rheolaeth’ dros y modd y mae gwasanaethau ar gyfer eu meibion a'u merched ag anableddau dysgu yn cael eu cynllunio a'u darparu.

 

Cenhadaeth graidd ffcg yw i ddarparu llais cenedlaethol a chydnabyddiaeth i rieni a gofalwyr plant ac oedolion Cymru sy'n byw gydag Anableddau Dysgu.

 

 

Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd (FIS)

Mae’r Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd yn darparu cyngor a gwybodaeth rhad ac am ddim ym mhob awdurdod lleol ar amrywiaeth eang o opsiynau gofal plant a gweithgareddau i blant 0-20 oed, eu teuluoedd a’u gofalwyr.

 

Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am feithrinfeydd, gwarchodwyr plant, clybiau y tu allan i oriau ysgol, grwpiau chwarae a grwpiau rhieni a phlant bach. Hefyd, rydym yn darparu help a chyngor ar dalu am ofal plant a gweithio yn y maes.

 

 

SNAP Cymru

Mae SNAP Cymru yn cynnig gwybodaeth gywir, cyngor a chefnogaeth wrthrychol ynghylch ystod o achosion gan gynnwys asesiadau, datganiadau anghenion addysgol arbennig, bwlio, presenoldeb yn yr ysgol, gwaharddiadau, darpariaeth gofal iechyd a chymdeithasol, a neilltuaeth.