Cost of Living Support Icon

Chwilio Ar-lein Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd y Fro

Defnyddiwch cyfeiriadur Gwybodaeth Gofal Plant Cymru i chwilio am ofal plant, gweithgareddau a chymorth i’r teulu ym Mro Morgannwg a’r tu hwnt.

 

Mae Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd yng Nghymru wedi gweithio mewn partneriaeth â Data Cymru i ddatblygu cyfeiriadur Gwybodaeth Gofal Plant i wneud y wybodaeth a gedwir am wasanaethau i deuluoedd yng Nghymru yn haws i'w defnyddio a'i diweddaru.

 

Mae Gwybodaeth Gofal Plant Cymru yn dolennu at Dewis Cymru sy’n cynnal cyfeiriadur gwasanaethau ar-lein sy’n galluogi teuluoedd, oedolion, pobl ifanc a gweithwyr proffesiynol i ganfod gwybodaeth ynghylch gwasanaethau a gweithgareddau trwy Gymru gyfan mewn un lle.

 

Os hoffech hyrwyddo eich gwasanaeth ar y wefan hon, cysylltwch â ni am gyngor neu ewch i wefan Dewis Cymru a chofrestru gan ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost. 

 

Chwiliwch am ofal plant, gweithgareddau i blant a gwasanaethau cymorth i deuluoedd yn y Fro gan ddefnyddio’r wefan Gwybodaeth Gofal Plant newydd. 

 

  Cliciwch yma i chwilio a hidlo yn ôl eich anghenion 

 

Fel arall, gallwch gysylltu â ni'n uniongyrchol am eich anghenion gofal plant drwy lenwi ein ffurflen ymholiadau ar-lein. Bydd yr holl ddata'n cael ei gadw yn unol â rheoliadau diogelu data, fel y nodir yn Hysbysiad Preifatrwydd Cyngor Bro Morgannwg. 

Ffurflen Ymholiadau Ar-lein

 

 

 

Cysylltwch â ni:

  • 01446 704704
  • fis@valeofglamorgan.gov.uk