Cost of Living Support Icon

Cyrsiau RhiantaSame Sex Parent Family

Cynhelir nifer o gyrsiau rhianta ym Mro Morgannwg. Dyma fanylion am y cyrsiau a sut gallant fod yn gefn i chi. Mae’r cyrsiau i gyd yn Saesneg oni nodir fel arall. 

 

Beth yw Cyrsiau Rhianta?

Mae Cyrsiau Rhianta a’r Gwasanaeth Rhianta’n cefnogi rhieni drwy ganolbwyntio ar sgiliau/technegau a all gryfhau perthynas aelodau teulu â’i gilydd a gostwng lefelau chwalfa mewn teuluoedd.

Caiff cyrsiau rhianta ym Mro Morgannwg eu cyflenwi gan fudiadau cymeradwy er mwyn sicrhau eu bod yn effeithlon. 

Gellir darparu’r cyrsiau mewn grŵp neu yn unigol. 

 

Beth yw’r Gwasanaeth Rhianta?

Gwasanaeth sy’n darparu sgiliau rhianta mewn grŵp neu yn unigol a chefnogi rhieni / cynhalwyr.

Mae nifer o wasanaethau sy’n cefnogi teuluoedd drwy gynnig gwybodaeth a chyngor iddynt. Gall rhieni gael eu cyfeirio at y cyrsiau drwy’r gwasanaethau hyn. Mae swyddogaeth benodol i’r cyrsiau rhianta fel y gwelir uchod. 

 

Beth yw Rhianta?

Diffiniad Cynllun Gweithredu Rhianta Llywodraeth Cymru yw:

 

‘gweithgaredd a gyflawnir gan bobl sy’n magu plant, gan gynnwys mamau a thadau, gofalwyr maeth a rhieni mabwysiedig, llysfamau a thadau, a neiniau a theidiau. Mewn rhai achosion, bydd brodyr a chwiorydd yn ymgymryd â swyddogaeth rhianta. Bydd pob un ohonynt yn chwarae rhan hanfodol wrth roi’r dechreuad gorau posibl i’r plant sydd yn eu gofal, a gosod seiliau cadarn ar gyfer twf a datblygiad plant a phobl ifanc. Mae awdurdodau lleol hefyd yn gweithredu fel rhieni corfforaethol i’r plant a’r bobl ifanc sydd yn eu gofal.’

 

Dod o hyd i’r cwrs perthnasol 

Cynhelir nifer o gyrsiau rhianta ym Mro Morgannwg. Isod, gwelir rhestr ohonynt, oed y plant dan sylw ynddynt a’r mudiadau sy’n eu cynnal. Am wybodaeth bellach, ewch i wefan Dewis Cymru a chwilio (adnodd Saesneg) termau perthnasol, neu gysylltu â’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd:

 

Mae llawer o raglenni rhianta’n cael eu cynnal ym Mro Morgannwg.  Isod mae rhestr ohonynt ac oedran y plant y maent wedi'u hanelu atynt.   Mae'r mwyafrif yn cael eu cynnal gan Gwasanaeth Rhianta'r Fro Teuluoedd yn Gyntaf ac mae rhai yn cael eu cynnal gan sefydliadau eraill.  

 

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Llinell Gyngor Teuluoedd yn Gyntaf 

Dydd Llun i ddydd Gwener: 9.00am - 4.30pm

 

Expecting parents 1

Croeso i’r Byd Cysylltiadau Teuluol 

Rhieni sy’n disgwyl

Cyflwynir y rhaglen hon fel un 1-1 i rieni sy'n disgwyl babi.  Mae rhieni'n ymgysylltu o tua 24 wythnos o feichiogrwydd. Mae'r pynciau'n cynnwys empathi a sylw cariadus, datblygiad ymennydd babi, dewisiadau bwyta'n iach, bwydo ar y fron, gofalu am fabi, rheoli straen a theimladau anodd, magu hunan-barch a hyder, a pherthynas y cwpl.

Cyflwynir gan Wasanaeth Rhianta’r Fro  Teuluoedd yn Gyntaf. 

 

Cysylltwch â Llinell Gyngor Teuluoedd yn Gyntaf (manylion uchod). 

New Parents with Baby

GroBrain

Rhieni â babanod – 12 mis

Mae'r rhaglen hon yn cael ei chynnal ar draws 4 sesiwn ac yn canolbwyntio ar ddatblygiad ymennydd ac ymlyniad babanod. 

Cyflwynir gan Wasanaeth Rhianta’r Fro  Teuluoedd yn Gyntaf. 

 

Cysylltwch â Llinell Gyngor Teuluoedd yn Gyntaf (manylion uchod). 

bigstock-Stickman-Illustration-of-a-Nur-108275411

Rhaglen E-PATS

0 - 5 oed

Mae E-PATS yn rhaglen 8 wythnos ar gyfer teuluoedd sy'n magu plentyn ifanc ag anabledd dysgu a/neu ddatblygiadol. Mae plant ag anableddau dysgu a/neu ddatblygiadol yn wynebu amrywiaeth o anawsterau a heriau yn eu bywyd pob dydd ac mae angen rhywfaint o gymorth ar y rhan fwyaf o deuluoedd i ddeall anghenion eu plant yn llawn.  Yn ogystal, mae gofalwyr teuluol yn dweud y gall magu plentyn ag anabledd dysgu a/neu ddatblygiadol effeithio ar eu lles eu hunain.  Datblygwyd E-PATS gan ofalwyr teuluol sy'n gweithio ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol (wedi'u cyd-gynhyrchu).  Cynhelir sesiynau gan 2 hwylusydd (un gofalwr teuluol ac un gweithiwr proffesiynol) sydd ill dau â phrofiad o weithio, neu o fod yn rhiant i blant ag anabledd dysgu a/neu ddatblygiadol.

Mae'r rhain yn cael eu darparu dim ond fel sesiynau grŵp.

 

Cysylltwch â Llinell Gyngor Teuluoedd yn Gyntaf (manylion uchod). 

Mum and Dad Reading with Child 

RhaglenMagwraeth Cycylltiadau Teuluol 

Rhieni plant 0-11 oed  

Caiff y rhaglen hon ei chyd-hwyluso gan Ymarferwyr Rhianta o Wasanaeth Rhianta'r Fro Teuluoedd yn Gyntaf, a Gweithwyr Cymorth i Rieni yn Dechrau'n Deg.  Mae hon yn rhaglen ffurfiol 10 wythnos sy'n seiliedig ar dystiolaeth.

Cyflwynir gan Wasanaeth Rhianta’r Fro  Teuluoedd yn Gyntaf a Dechrau'n Deg. 

 

Cysylltwch â Llinell Gyngor Teuluoedd yn Gyntaf (manylion uchod). 

Parent and Child Craft Session

GroBrain i Blant Bach

1 flwyddyn – 3 blynedd

Mae'r rhaglen hon yn cael ei chynnal am 6 wythnos fel grŵp neu 1-1.  Mae'n canolbwyntio ar ymlyniadau cynnar a phwysigrwydd datblygu ymennydd iach. Ei nod yw gwella dealltwriaeth o iechyd emosiynol babanod a rhoi hwb i hyder rhieni.

 

Cysylltwch â Llinell Gyngor Teuluoedd yn Gyntaf (manylion uchod). 

bigstock-Illustration-of-Parents-and-Th-65841772

Gweithdy Magwraeth Cysylltiadau Teuluol 

Rhieni plant 1-3 oed 

Mae'r rhaglen hon yn cael ei chynnal am 4 wythnos fel grŵp neu 1-1.  Mae’n cynyddu’r ddealltwriaeth o bwysigrwydd ymgyfarwyddo, chwarae, empathi a chyfathrebu ac yn canolbwyntio ar agweddau cadarnhaol tuag at ddisgyblaeth a lles emosiynol yn natblygiad plant. 

Cyflwynir gan Wasanaeth Rhianta’r Fro  Teuluoedd yn Gyntaf. 

 

Cysylltwch â Llinell Gyngor Teuluoedd yn Gyntaf (manylion uchod). 

bigstock-Stickman-Illustration-of-a-Mot-168892283

Siarad Dysgu Gwneud 

Rhieni plant 3-11 oed

Mae hon yn rhaglen ddilynol i'r rhai sydd wedi mynychu'r rhaglen meithrin. Mae hon yn rhaglen sy'n seiliedig ar dystiolaeth a ddatblygwyd gan y Gwasanaeth Cyngor Ariannol.  Mae’n rhoi cyngor a strategaethau i rieni i helpu i wella sgiliau rheoli arian eu plant mewn ffordd hwyliog sy’n briodol o ran oedran.  

 

Cysylltwch â Llinell Gyngor Teuluoedd yn Gyntaf (manylion uchod). 

bigstock-Illustration-of-Stickman-Kids--82572575

CywCynnar, CywCynnar Hŷn, Adeg yr Arddegau

Mae CywCynnar (dan bump oed), CywCynnar Hŷn (5 i 10 oed), ac Adeg yr Arddegau (10 i 16 oed) yn rhaglenni cymorth i rieni a gofalwyr, sy'n cynnig cyngor ac arweiniad ar strategaethau a dulliau o weithio gyda phlant awtistig.  Mae'r rhaglenni'n gweithio ar ddeall awtistiaeth, magu hyder i annog rhyngweithio a chyfathrebu, a deall a chefnogi ymddygiad.  Mae pob rhaglen yn 6-8 sesiwn ac mae pob sesiwn yn 2.5 awr. 

 

Am fwy o wybodaeth, ebostiwch engagementserviceadmin@yyd.org.uk


Illustration of five children

Rhaglen Rhianta Cygnet

Rhieni plant 5-18 oed sydd â diagnosis o Awtistiaeth

Mae rhaglen rhianta Cygnet yn rhaglen sy'n seiliedig ar dystiolaeth sydd wedi'i chynllunio i gefnogi rhieni / gofalwyr i ddeall a rheoli Cyflwr ar y Sbectrwm Awtistig ac unrhyw anawsterau ymddygiadol ychwanegol.  Mae'r rhaglen Cygnet wedi bod yn cael ei chynnal am nifer o flynyddoedd ac mae wedi helpu llawer o rieni a gofalwyr.

 

Cyflwynir gan Barnardo's.  Cysylltwch â Llinell Gyngor Teuluoedd yn Gyntaf (manylion uchod). 

Teenagers

Cysylltiadau Teuluol yn siarad am yr arddegau

Rhieni pobl ifanc yn eu harddegau

Mae’r rhaglen hon yn datblygu dealltwriaeth rhieni o ddatblygiad eu plant yn ystod eu harddegau a’r dylanwad mae datblygiad yr ymennydd yn ei gael ar ymddygiad. 

Cyflwynir gan Wasanaeth Rhianta’r Fro.   

 

Cysylltwch â Llinell Gyngor Teuluoedd yn Gyntaf (manylion uchod). 

Illustration-of-Teens

Rhaglen Ailfeithrin Perthnasoedd

Pob rhiant sy'n cael anawsterau oherwydd problemau ymlyniad.

Mae hon yn rhaglen strwythuredig lle mae gwaith yn cael ei wneud gyda'r Rhiant.  Mae'n helpu i alluogi plant a phobl ifanc i feithrin ymlyniad iach gyda'r prif fffigur(au) rhianta.  Mae Rhianta - Ymlyniad yn ymwneud â helpu rhieni i ddeall beth sydd wedi atal y broses ymlyniad rhag datblygu yn y gorffennol, ac yna 'hyfforddi' rhieni wrth ymateb i'w plentyn mewn ffordd wahanol. 

 

Cysylltwch â Llinell Gyngor Teuluoedd yn Gyntaf (manylion uchod). 

bigstock-Illustration-of-Kids-Being-Esc-59397236

Perthnasoedd Tavistock - 'Rhieni fel Partneriaid' 

Rhieni sy'n byw gyda'i gilydd, neu sydd wedi gwahanu ac yn cyd-rianta.

Mae’r rhaglen hon yn cefnogi rhieni wrth atgyfnerthu eu perthynas â’i gilydd, fel eu bod yn teimlo y gallant wynebu’r pethau da a drwg mewn bywyd.  Mae'r rhaglen 16 wythnos wedi'i chynllunio i leihau gwrthdaro a gwella cyfathrebu.  Mae'n canolbwyntio ar y teulu cyfan, nid yn unig ar y berthynas rhwng rhieni a'u plant.  Mae'r ddau riant yn cymryd rhan mewn sesiynau. 

Cyflwynir gan Wasanaeth Rhianta’r Fro  a Dechrau'n Deg. 

 

Cysylltwch â Llinell Gyngor Teuluoedd yn Gyntaf (manylion uchod). 

Mum Dad and Children Photo Frame

CAMAU

Pob rhiant 

Rhaglen 5 wythnos yw hon (1 diwrnod llawn bob wythnos).  Mae’n hybu hyder rhieni ac yn helpu rhieni i adnabod y sgiliau all rymuso eu plant.  Mae'n canolbwyntio ar gynyddu dealltwriaeth o sut mae'r meddwl yn gweithio, ac wedyn helpu rhieni i oresgyn rhwystrau personol, torri cylchoedd ymddygiad a gosod nodau yn y dyfodol. 

Cyflwynir gan Wasanaeth Rhianta’r Fro  Teuluoedd yn Gyntaf.  

 

Cysylltwch â Llinell Gyngor Teuluoedd yn Gyntaf (manylion uchod). 

Parenting.Give-it-Time.

Rhianta. Rhowch amser iddo.

Lluniwyd y wefan hon gan Lywodraeth Cymru gyda help ystod o sefydliadau a gweithwyr proffesiynol. Mae pob plentyn a phob rhiant yn unigryw.  Rhianta. Rhowch amser iddo. yw’r lle i fynd i gael syniadau i wneud penderfyniadau ynghylch beth all weithio i’r plentyn a’r teulu.m Y nod yw helpu rhieni i feithrin perthynas gadarnhaol, iach â’u plant.

 

Rhwng genedigaeth a phum mlwydd oed mae plant yn tyfu ac yn newid yn gyflym iawn. Gall deall mwy am ddatblygiad eich plentyn eich helpu i ddeall eich plentyn a’i ymddygiad yn well. 

 

Rhianta. Rhowch amser iddo.

 

Am ragor o wybodaeth neu gymorth rhianta, ewch i'n Tudalen Iechyd a Lles.  

Chwilio am grwpiau, gweithgareddau a gwasanaethau cyn-ysgol i blant, pobl ifanc a theuluoedd

 

Vale FIS logo

Chwiliwch am grwpiau cyn ysgol, gofal plant, gweithgareddau i blant a gwasanaethau cymorth i deuluoedd yn y Fro gan ddefnyddio’r wefan Gwybodaeth Gofal Plant newydd. 

 

Dolen i GGiD Cymru

Vale Family Information Service