Cost of Living Support Icon

Iechyd a Lles yn Eich Teulu

Gwybodaeth i’ch helpu i ddysgu am ystod o wasanaethau iechyd a lles, gan gynnwys cael cymorth ar gyfer materion penodol

 

 

Dewis Cymru Logo Welsh
Vale Parenting Service

Cymorth rhianta

 

Mae'r Gwasanaeth Rhianta Bro yn cefnogi teuluoedd sydd a phlant rhwng 0-18 oed ledled Bro Morgannwg er mwyn adeiladu ar gryfderau a gweneud newidiadau cadarnhaol, gan alluogi rheini i deimlo'n fwy hyderus wrth reoli: ymddygiad, arferion beunyddiol a ffiniau. Mae'r gwasanaeth yn elwa hefyd o gymorth bydwreigiaeth arbenigol gan ein bydwraig i rai dan 19, er mwyn rhoi cymorth penodol sy'n ategu'r Gwasanaeth Rhianta ac yn ei wella.

 

Rydym yn cynnig rhaglenni rhianta mewn grwpiau bychain, neu'n cynnig cymorth un-i-un wedi ei deilwra'n unol a'r hyn y mae'r teulu eisiau canolbwyntio arno.

 

Rhaglenni Rhianta

 

 Cysylltwch a Llinell Gyngor Teuluoedd un Gyntaf: 

  • 0800 0327 322

 

Parenting.Give it Time.

Rhianta. Rhowch amser iddo.

Lluniwyd y wefan hon gan Lywodraeth Cymru gyda help ystod o sefydliadau a gweithwyr proffesiynol. Mae pob plentyn a phob rhiant yn unigryw.  Rhianta. Rhowch amser iddo. yw’r lle i fynd i gael syniadau i wneud penderfyniadau ynghylch beth all weithio i’r plentyn a’r teulu.m Y nod yw helpu rhieni i feithrin perthynas gadarnhaol, iach â’u plant.

 

Rhwng genedigaeth a phum mlwydd oed mae plant yn tyfu ac yn newid yn gyflym iawn. Gall deall mwy am ddatblygiad eich plentyn eich helpu i ddeall eich plentyn a’i ymddygiad yn well. 

  Rhianta. Rhowch amser iddo.

 

Llwybr Gwybodaeth y Blynyddoedd Cynnar

Llinell Gyngor Teuluoedd Yn Gyntaf

2FFAL Logo

Mae Llinell Gymorth Teuluoedd yn Gyntaf yn bwynt cyswllt cyntaf i deuluoedd â phlant 0 – 18 oed sy’n byw ym Mro Morgannwg.

 

Mae’r Llinell Gyngor yn cynnig gwasanaeth personol sy’n anelu at wrando ac asesu anghenion pob teulu. Mae’r Llinell Gyngor yn rhoi cymorth i deuluoedd i’w galluogi i ddatrys eu pryderon yn annibynnol, neu yn helpu teuluoedd i nodi gwasanaethau ac yn helpu i gyfeirio teuluoedd atynt.

 

Llinell Gyngor Teuluoedd Yn Gyntaf yn agored yn ystod yr wythnos:

9.00am - 4.30pm

  •  0800 0327 322

Llinell Gyngor Teuluoedd Yn Gyntaf

 

Behaviours 2

Ymddygiad

Mae’r rhan fwyaf o deuluoedd yn mynd drwy gyfnodau anodd. Mae gan Ymgyrch Llywodraeth Cymru Rhianta.Rhowch amser iddi. rai syniadau ar ddelio â phryderon rhianta cyffredin. Mae pob plentyn yn unigryw ond gallai’r awgrymiadau hyn helpu.

Cyfnodau anodd a cyffredin

 

Mae‘r NSPCC wedi datblygu canllaw sy’n rhannu cyngor ac awgrymiadau ymarferol ar dechnegau rhianta cadarnhaol sy’n gweithio'n dda i blant – o fabanod i bobl ifanc.

 

NSPCC Rhianta cadarnhaol - Angen gwybod: sut i osod ffiniau a meithrin perthnasoedd cadarnhaol.

 

 

bigstock-Stickman-Illustration-of-a-Nur-108275411

Cymorth Anghenion Ychwanegol:

Mae Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd y Fro’n gyfrifol am Y Mynegai i Blant a Phobl Ifanc ag Anableddau neu Anghenion Ychwanegol. Ariennir y Mynegai gan Deuluoedd Yn Gyntaf a’r nod yw rhoi gwybodaeth i deuluoedd a gweithwyr proffesiynol ar draws y Fro am y gwasanaethau a’r cymorth sydd ar gael i blant a phobl ifanc ag anableddau neu anghenion ychwanegol.

 

Plant ag Anghenion Ychwanegol

bigstock-Illustration-of-a-Group-of-Boy-38536267

Gofalwyr ifanc

Mae gofalwr ifanc yn rhywun dan 18 oed sy’n helpu i ofalu am rywun yn ei deulu, neu ffrind, neu’n sâl, anabl neu’n camddefnyddio cyffuriau ac alcohol.

 

Dan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles Cymru (2014), mae gan Ofalwyr Ifanc yr hawl i asesiad o’u hanghenion fel gofalwr.

 

Amcangyfrifir bod 700,000 o ofalwyr ifanc yn y DU a dangosodd arolwg diweddar ym Mro Morgannwg y gallai 1 allan o 12 (8%) o ddisgyblion mewn ysgolion cynradd neu uwchradd fod yn ofalwyr ifanc. 

 

I gael rhagor o wybodaeth am gymorth i Ofalwyr Ifanc yn y Fro, gan gynnwys gwybodaeth am Asesiadau Gofalwyr Ifanc yn y Fro, ewch i'n tudalennau Gwasanaethau Gofalwyr:

Gofalwyr ifanc

Talk with me

Cyfathrebu

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi llunio rhestr o wybodaeth ac adnoddau i gynorthwyo rhieni i helpu eu plant i ddysgu siarad. Enw hon yw Ymgyrch  'Siarad gyda Fi'. 

Siarad gyda Fi 

 

Mae'r uchafbwyntiau'n cynnwys yr ymgyrch Edrych, Dweud, Canu, Chwarae.  Mae ymgyrch newydd i hybu’r ymennydd wedi cael ei lansio yng Nghaerdydd a'r Fro i helpu rhieni i gefnogi datblygiad eu babi, wedi’i datblygu gan NSPCC Wales. I gael gwybod mwy gallwch weld gweminar fer yn cyflwyno rhieni a gofalwyr i ymgyrch ac adnoddau Edrych, Dweud, Canu, Chwarae. Beth am roi cynnig arni a chofrestru i gael cyngor a gweithgareddau wythnosol sy’n addas i oedran eich plentyn?

Edrychwch, Dweud, Canu, Chwarae 

 

 Cyngor gan y BBC i'ch helpu i ddatblygu sgiliau cyfathrebu eich plentyn.  Mae’n cynnwys gweithgareddau a syniadau chwarae syml.

Pobl bach hapus 

 

 

Mental Health and Emotional Wellbeing

Iechyd Meddwl / Lles Emosiynol

 

Mae gwasanaethau iechyd meddwl ledled Cymru wedi bod ar gael drwy gydol y pandemig COVID-19, gyda mesurau ar waith i leihau'r tebygolrwydd o drosglwyddo'r feirws a'ch cadw chi, eich anwyliaid a'n staff yn ddiogel. P'un a ydych chi eisoes yn hysbys i'r gwasanaethau iechyd meddwl, neu'n ceisio cymorth am y tro cyntaf, gallwch ddod o hyd i atebion i gwestiynau cyffredin isod. Mae gwybodaeth am gymorth ychwanegol sydd ar gael yn eich ardal leol wedi'i chynnwys, lle y bo'n berthnasol.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro – Cymorth Iechyd Meddwl

 

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi lansio eu gwefan gwasanaeth cwnsela Barnado’s mewn ysgolion gyda gwybodaeth i bobl ifanc, rhieni a gweithwyr proffesiynol. Mae'r wefan yn cynnwys y ffurflenni atgyfeirio i gael mynediad i'r gwasanaeth, sydd ar gael mewn ysgolion, y gymuned ac yn ddigidol. Os ydych chi rhwng 10 a 19 oed ac yn byw neu'n mynd i'r ysgol yn y Fro, gallwch ei ddefnyddio am ddim. 

Gwasanaeth Cwnsela Cymunedol ac Ysgolion Barnado’s

 

Bydd Gwasanaeth Lles Pobl Ifanc y Fro yn cynnig cymorth wedi ei dargedu i bobl ifanc sydd wedi wyneb profiadau plentyndod sydd yn effeithio’n sylweddol ar eu lles cymdeithasol ac emosiynol.   Bydd y prif ffocws ar gefnogi pobl ifanc rhwng 10 ac 16 oed ym Mro Morgannwg.  Prif nodau’r cymorth yw magu hyder a gwydnwch, gwella lles emosiynol a chymdeithasol a gwarchod rhag profiadau andwyol eraill plentyndod.  

Llesiant Ieunctid

 

Mae gwefan lles emosiynol ac iechyd meddwl newydd ar gael ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg, a ddatblygwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ochr yn ochr â'n Bwrdd Ieuenctid. Mae'n cynnwys gwybodaeth am les emosiynol, iechyd meddwl, gwasanaethau sydd ar gael a sut i'w defnyddio. 

Gwefan lles emosiynol a iechyd meddwl


Angen help i reoli eich iechyd meddwl a lles? Dydych chi ddim ar eich pen eich hun.Mae pobl 16+ oed yng Nghymru sy'n cael profiad o orbryder, iselder neu straen ar lefel ysgafn i gymedrol yn gallu cofrestru ar gyfer cwrs therapi ar-lein 12 wythnos am ddim heb orfod aros i gael eu hatgyfeirio gan eu meddyg teulu.

Therapi Ar-lein SilverCloud – GIG Cymru 

 

Mae cyfres o bodlediadau lles meddwl a chanllawiau sain y gallwch wrando arnynt yn eich amser eich hun, yn breifat, i’ch helpu drwy adegau pan fo’ch tymer yn wael neu’ch bod yn teimlo’n bryderus.

Canllawiau Sain Lles Meddwl Moodzone y GIG

 

Mae YoungMinds yn gweithio i atal salwch meddwl rhag datblygu ac yn gwella ymyrraeth a gofal cynnar i bobl ifanc sydd ag anhawster iechyd meddwl.

Gofalu amdanoch chi’ch hun – YoungMinds

 

Mae Darllen yn Well yn eich helpu i ddaell a rheoli eich iechyd meddwl a'ch lles drwy ddefnyddio deunydd darllen defnyddiol sydd ar gael o lyfrgelloedd cyhoeddus. Caif y cynllun ei gymeradwyo gan weithwyr iechyd proffesiynol a phobl ag anghenion iechyd meddwl.

Darllen yn Well

 

 

Physical Health

Iechyd Corfforol

Nod Tîm Byw’n Iach y Fro yw cynyddu nifer y bobl sy’n gwneud chwaraeon a chyfleoedd chwarae ar draws y Fro i wella iechyd a lles.

Chwaraeon a Chwarae

 

Pan mae plant ar bwysau iachus, maen nhw’n teimlo’n well amdanynt eu hunain. Mae’n haws iddynt ddysgu a chwarae. Ac maen nhw’n fwy tebygol o dyfu i fyny’n iach hefyd.  Dyma pam fod sicrhau eu bod yn bwysau iach o’r cychwyn cyntaf yn un o’r pethau gorau y gallwch ei wneud drostynt.

 

Mae gan bob plentyn yng Nghymru’r hawl i gael y dechrau gorau posibl mewn bywyd i'w rhoi ar ben ffordd, gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru’n lansio Pob Plentyn Cymru.

 

Mae’r wefan yn llawn syniadau i’ch helpu i roi dyfodol iach a hapus i’ch plant.

Pob Plentyn Cymru

 

Mae Iechyd Gwell – Teuluoedd Iachach (Newid am Oes gynt) yn rhoi syniadau hwyl i helpu’ch plant a’ch teulu i fod yn iach, gyda’r wefan yn cynnwys gwybodaeth am fwyd, ryseitiau a gweithgareddau.

Iechyd Gwell – Teuluoedd Iachach (Saesneg Unig)

 

Ryseitiau bocs bwyd iachach

Sicrhewch lwytho syniadau hawdd eu paratoi yn ogystal ag aw grymiadau o beth arall i'w roi yn eu bocsys bwyd o Change 4 Life.

Iechyd Gwell – Teuluoedd Iachach (Saesnig Unig)

 

Prawf Iechyd a Lles am Ddim

Mae’r prawf iechyd a lles ‘Ychwanegu at fywyd’ yn wasanaeth am ddim yng Nghymru sy’n profi’ch iechyd corfforol, gan gynnwys eich ymborth bwyd ac alcohol, ymarfer corff a Mynegai Màs y Corff, a’ch iechyd a’ch lles meddwl. Mae hefyd yn cynnwys syniadau a gwybodaeth gan arbenigwyr iechyd i’ch helpu i deimlo’n well. Gallwch wneud yr asesiad ar-lein ac nid yw ond yn cymryd ambell funud:

Prawf iechyd a lles ‘Ychwanegu at fywyd’

 

Partneriaeth Fwyd y Fro

 Ysbrydoli cymunedau iachach ym Mro Morgannwg drwy gysylltu â bwyd yn ystod y pandemig Covid-19 a thu hwnt.Gweler y cyngor ar eu gwefan ar fwyta’n iach, gwybodaeth a chefnogaeth ar gyfer busnesau bwyd lleol a llawer o ryseitiau blasus a maethlon i roi cynnig arnynt gartref. 

 

Partneriaeth Fwyd y Fro 

 

Fideos BIP Caerdydd a'r Fro ar Gyflwyno Bwydydd Solet

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi rhyddhau cyfres o fideos ar 'Gyflwyno Bwydydd Solet i'ch Babi'. Mae'r 5ed fideo yn ymwneud â babanod yn symud ymlaen i brydau teuluol. Mae'n esbonio ffyrdd o helpu gyda’r newid megis cyflwyno gweadau gwahanol, a ffyrdd o addasu prydau'r teulu. Mae hefyd yn disgrifio'r gwahanol arwyddion i nodi a yw eich babi'n llwglyd neu'n llawn. Mae'n llawn gwybodaeth a byddai'n ddefnyddiol i unrhyw rieni sydd â babanod sy'n symud ymlaen i fwydydd solet. 

 

Fideos BIP Caerdydd a'r Fro ar Gyflwyno Bwydydd Solet

 

Talebion Dechrau Iach GIG

Os ydych yn feichiog* neu â phlant o dan 4 oed* gallwch gael talebau neu daliadau wythnosol AM DDIM i'w gwario ar:

• laeth buwch

• ffrwythau a llysiau ffres, wedi’u rhewi neu mewn tun

• llaeth fformiwla babanod 

• pyls ffres, sych a tun

• Gallwch hefyd gael fitaminau Dechrau Iach am ddim.

 

Ers mis Mai 2021 yn genedlaethol dim ond 64% o'r rhai a oedd yn gymwys a ddefnyddiodd dalebau Dechrau Iach ledled Cymru; roedd y nifer a oedd yn manteisio arno ar ei isaf ym Mro Morgannwg ar 57% ond mae'n cynyddu'n raddol. Gallai teuluoedd cymwys fod yn colli allan ar dros £1,000. O fis Ebrill 2021 mae gwerth y daleb wedi cynyddu i £4.25 yr wythnos ac mae cynllun cerdyn wedi’i ragdalu yn cael ei gyflwyno. Cysylltwch â ni os hoffech gael rhagor o wybodaeth am wneud cais.  

 

*Menywod sydd o leiaf 10 wythnos yn feichiog hyd at ben-blwydd eu plentyn yn 4 oed ac sy’n derbyn budd-daliadau penodol. Mae menywod beichiog dan 18 oed hefyd yn gymwys. 

Talebion Dechrau Iach GIG

 

Maeth i'ch un bach (NYLO)

Mae NYLO yn rhaglen 6 wythnos rad ac am ddim sy’n gallu eich helpu chi i deimlo’n fwy hyderus i wneud y canlynol:

Cynnig deiet cytbwys i’ch plentyn.

Ymdopi â phlant sy’n ffyslyd gyda’u bwyd ac annog bwydydd newydd.

 

Mae NYLO yn agored i bob teulu sydd â phlant sy’n 5 oed neu’n iau, sy’n byw yng Nghaerdydd a’r Fro.

Maeth i'ch un bach (NYLO)

 

Urddas Mislif

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi bod yn cefnogi teuluoedd i sicrhau urddas mislif i fenywod a merched o gartrefi incwm isel yn ystod y pandemig. 
Mae cymorth parhaus wedi'i roi ac mae cynhyrchion wedi bod ar gael drwy ddosbarthu parseli bwyd ysgolion, y tîm 15plus, y gwasanaeth lles ieuenctid a phartneriaid cymdeithasau tai amrywiol.
 
Mae partneriaethau gyda mudiadau’r trydydd sector, gan gynnwys banciau bwyd, canolfannau cymunedol, canolfannau teulu ac ati, wedi cael eu rhoi ar waith i sicrhau mynediad i gynhyrchion mislif, yn rhad ac am ddim ac yn hygyrch yn y ffordd fwyaf ymarferol ac urddasol bosibl.
 

Urddas Mislif

 

Relationships

Iechyd Rhywiol a Pherthnasau

Mae gan Galw Iechyd Cymru’r GIG ystod o dudalennau gwybodaeth am Iechyd Rhywiol:

Iechyd Rhywiol y GIG

 

Os ydych yn rhiant / gofalwr, mae gan yr NSPCC bob math o awgrymiadau a chyngor roi’r hyder a’r wybodaeth i chi siarad i’ch plant:

NSPCC - How to talk to your child about sex, sexuality and relationships

 

Mae gan Relate dudalennau gwybodaeth penodol i Bobl Ifanc sy’n Rhieni, sy’n cynnwys cyngor ymarferol ar sut i ddelio â phroblemau cyffredin fel:

Relate – Rhyw a Pherthnasau

 

Sexual and Gender Identity

Hunaniaeth Rywiol a Rhywedd

Mae gan Childline wybodaeth a chyngor am deimladau, gan gynnwys cyfeiriadedd rhywiol, perthnasau ahunaniaeth rhywedd.

Childline – Hunaniaeth Rhywiol a Rhywedd

 

Mae gan Relate dudalennau gwybodaeth penodol i Bobl Ifanc sy’n Rhieni, sy’n cynnwys cyngor ymarferol ar sut i ddelio â phroblemau cyffredin o rhywioldeb i perthynas yn chwalu:

Relate – Rhyw a Pherthnasau

 

Nod Young Stonewall yw gadael i bobl ifanc lesbaidd, hoyw, deurywiol a thraws – yn ogystal â’r rhai sy’n cwestiynu eu rhywiol – wybod nad ydynt ar eu pen eu hunain. Mae gan y wefan gyngor penodol ar ‘ddod allan’:

Young Stonewall - Ddod Allan

Drugs and Alcohol

Cyffuriau ac Alcohol

Mae llawer o deuluoedd yn y DU yn byw gydag anwyliad sy’n defnyddio neu’n ceisio rhoi’r gorau i gyffuriau neu alcohol.

 

Os ydych chi’n rhiant/gofalwr sy’n poeni am ddefnydd eich plentyn o gyffuriau neu alcohol, gall Young Minds roi cyngor a gwybodaeth am le y gallwch gael help.

Parents Guide to Support – Drugs and Alcohol

 

Gwasanaeth Camddefnyddio Sylweddau Arbenigol newydd, sy'n rhan o'r tîm Cymorth Cynnar. Gall ddarparu ymgynghoriadau, cymorth ac arweiniad 1:1 i unrhyw un sy'n ymwneud â pherson ifanc sy'n defnyddio sylweddau. Mae lle hefyd i weithio gyda phobl ifanc yn uniongyrchol, os yw'n briodol. Ar gael i bobl ifanc, hyd at 18 oed, sy'n byw ym Mro Morgannwg.

 

Gwasanaeth Camddefnyddio Sylweddau Arbenigol 

 

 

Adfam yw'r elusen genedlaethol sy’n gweithio i wella bywydau i deuluoedd a effeithir gan gyffuriau neu alcohol.

Understanding the issues - Adfam

 

Mae gan Talk to Frank gyngor cyfeillgar, cyfrinachol ar gyffuriau:

Talk to Frank – Worried about a child?

 

Camau i Wella drwy raglen cymorth cymunedol gofal, ôl-ofala gwella ar gamddefnyddio sylweddau yng Nghaerdydd a’r Fro.

Camau i Wella

 

 

 

 

Cysylltwch â ni:

  • 01446 704704

  • fis@valeofglamorgan.gov.uk

  • Vale Family Information Service

  • @ValeFIS

Vale-Family-Information-Services-logo