Cost of Living Support Icon

05794 - Index Header

Y Mynegai

Gweithio gyda'n gilydd i sicrhau bod teuluoedd yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau, cefnogaeth a gweithgareddau i blant a phobl ifanc sydd ag anableddau neu anghenion ychwanegol ym Mro Morgannwg.

 

 

Beth yw'r Mynegai?

Cofrestr wirfoddol Bro Morgannwg o blant a phobl ifanc sydd ag anableddau ac anghenion ychwanegol yw’r Mynegai.

 

Cymerwch olwg ar ein fideo sy'n esbonio'r Mynegai a'r manteision i chi:

 

Nod y Mynegai yw rhoi darlun cliriach o nifer y plant a phobl ifanc sydd ag anableddau ac anghenion ychwanegol sy’n bodloni, a thrwy Grant Teuluoedd yn Gyntaf, mae’n ein galluogi i gydweithio gydag asiantaethau eraill i helpu i gydlynu gwasanaethau’n well. 

 

  • Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau a gweithgareddau newydd

  • Derbyn y cylchlythyr bob tri mis, Y Mynegai

    , a phost penodol

  • Cael y cyfle i gyfrannu at erthyglau, newyddion a digwyddiadau i rannu gydag eraill ar y Mynegai

  • Helpu'r mathau o ddarpariaeth sy'n cael ei chynnig a'i datblygu a dylanwadu arnynt

  

 

 

Pam cofrestru ar gyfer y Mynegai?

Ar ôl cofrestru ar gyfer y Mynegai byddwch yn derbyn:

  • Cylchlythyr y Mynegai – cylchlythyr a anfonir bob 3 mis. Mae’n llawn gwybodaeth am wasanaethau, cymorth a gweithgareddau ym Mro Morgannwg

  • E-newyddion y Mynegai - e-byst rheolaidd yn rhoi gwybodaeth am unrhyw weithgareddau a digwyddiadau a allai fod yn digwydd rhwng rhifynnau’r cylchlythyr

 

 

Sut i gofrestru ar gyfer y Mynegai?

P’un ai a ydych yn rhiant/gofalwyr neu weithiwr proffesiynol, gallwch gofrestru plentyn ar gyfer y Mynegai trwy gwblhau ffurflen gofrestru. I’r plentyn neu berson ifanc gael ei gynnwys yn y Mynegai rhaid iddo:

  • fod hyd at 18 oed
  • bod â diagnosis o anabledd, yng nghanol cael diagnosis neu ag anghenion ychwanegol parhaol wedi’u cadarnhau

 

 

Rhestr Bostio’r Mynegai i Weithwyr Proffesiynol

Os ydych yn weithiwr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant ag anableddau neu anghenion ychwanegol, gellir eich ychwanegu at ein rhestr i dderbyn e-fwletin am beth sy’n digwydd yng Nghaerdydd a’r Fro.

Rheoli tanysgrifiadau - Polisi Preifatrwydd

 

Gwasanaethau a chymorth

Gweithgareddau a Chymorth

Defnyddiwch ein cronfa ddata GGiD Cymru ar-lein i chwilio am ofal plant, gweithgareddau a chymorth i’r teulu ym Mro Morgannwg a’r tu hwnt.

 

Chwilio am ofal plant

Wrth chwilio gan ddefnyddio Cyfeiriadur Gwybodaeth Gofal Plant Cymru, ar ôl dewis categori gofal plant, hidlwch trwy glicio 'iaith ac anableddau'. Ticiwch y blwch/blychau Anghenion Dysgu Ychwanegol priodol i deilwra'r cais chwilio at eich anghenion

 

Os oes gennych ymholiad manylach, cysylltwch â ni'n uniongyrchol drwy ddefnyddio'r ffurflen ymholiadau ar-lein. Bydd yr holl ddata'n cael ei gadw’n unol â rheoliadau diogelu data, fel y nodir yn Hysbysiad Preifatrwydd Cyngor Bro Morgannwg

 

Gwasanaethau Gofalwyr

Dysgwch am hyfforddiant, cymorth a digwyddiadau i ofalwyr ym mhob rhan o’r Fro.

 

 

Cymorth ehangach

Darllenwch fwy am y cymorth ehangach sydd ar gael i blant ag anghenion ychwanegol yn y Fro.

 

 

 

Cyfryngau Cymdeithasol

Mae Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd y Fro yn cynnig y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau, gweithgareddau a chymorth sydd ar gael i deuluoedd.

 

 

Adroddiadau ac Arolygon

Mae Arolwg Mynegai yn gofyn i deuluoedd nodi pa wasanaethau Teuluoedd yn Gyntaf maen nhw wedi ei defnyddio yn y gorffennol, yn ogystal â nodi unrhyw fylchau mewn gweithgareddau a gwasanaethau ym Mro Morgannwg. Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn.

 

 

 

Mae Adroddiad Blynyddol 2020 – 2021 y Mynegai yn edrych ar y prif gyflawniadau’r flwyddyn.

 

 

 

Pontio: Dechrau Cynllunio ar gyfer Fy Nyfodol

Pan fyddwch yn 14 oed, bydd rhaid i chi ddechrau meddwl am eich dyfodol a’r hyn yr hoffech ei wneud wrth adael yr ysgol. Efallai byddwch yn dymuno mynd i’r coleg, cwblhau hyfforddiant neu gael swydd. Gall fod angen cymorth arnoch i barhau i ddysgu gwneud pethau drosoch chi eich hun pan fyddwch allan yn y gymuned neu efallai y bydd angen i chi gael eich cefnogi mewn man lle cewch gymorth gyda’ch gofal corfforol, er enghraifft. Weithiau, gallai fod yn anodd gwneud dewisiadau ond gall hyn hefyd fod yn amser cyffrous, ac mae llawer o bobl eraill yn ogystal â phobl yn yr ysgol a all eich helpu.

 

Er enghraifft:

  • Gall Cynghorydd Gyrfaoedd gynnig lawer o syniadau i chi a rhoi gwybod am y dewisiadau sydd ar gael yn eich ardal chi pan fyddwch yn gadael yr ysgol;
  • Gall staff y Coleg hefyd roi gwybod i chi pa gyrsiau sydd ganddynt os hoffech fynd i’r coleg. Gallant hefyd drefnu ymweliadau i chi gael gweld sut beth ydyw;
  • Gallech gael cymorth hefyd gan rywun sy’n gallu siarad am yr hyn rydych chi’n ei wneud yn eich amser sbâr a helpu gyda phethau newydd i’w gwneud wrth i chi dyfu’n hyˆn.

Dyma rai o’r pethau (opsiynau) y gallech fod eisiau eu gwneud yn y dyfodol:

  • Aros yn yr ysgol ar ôl i chi droi’n 16 oed • Gwneud ceisiadau am swyddi
  • Cofrestru gydag asiantaeth cyflogaeth â chymorth (gall eich ysgol ddweud wrthych am y rhain)
  • Mynd i’r coleg
  • Ymuno â rhaglen hyfforddi
  • Mynychu gwasanaeth dydd
  • Cael cymorth yn y gymuned
  • Cael rhywfaint o brofiad gwaith neu waith gwirfoddol i’ch helpu i gael swydd gyflogedig yr hoffech ei wneud yn y dyfodol
  • Paratoi i fyw oddi cartref

Bydd cynllunio ar gyfer eich dyfodol yn dechrau ym mlwyddyn 9 sy’n amser hir cyn i chi adael yr ysgol. Os oes gennych Ddatganiad o AAA, bydd y diagram isod yn dangos i chi beth ddylai ddigwydd i’ch helpu i gynllunio ymlaen llaw.

 

Os hoffech siarad â ni am y Mynegai cysylltwch â:

Swyddog Mynegai

Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd

Swyddfa’r Dociau, Heol Yr Isffordd

Y Barri

CF63 4RT

 

 

Ariennir y Mynegai gan Fenter Teuluoedd yn Gyntaf Llywodraeth Cymru.