Cost of Living Support Icon

05794 - Index Header

Cylchlythyr Y Mynegai

Rydym yn paratoi cylchlythyr y Mynegai yn chwarterol ac yn ei anfon at yr holl deuluoedd y mae eu plant wedi tanysgrifio i’r Mynegai.

 

Nod y Mynegai ydy sicrhau cynnig digonedd o erthyglau ynghylch digwyddiadau, gwasanaethau, cynlluniau chwarae a llawer mwy ar gyfer teuluoedd gyda phlant a phobl ifanc ag anableddau ac anghenion ychwanegol.

 

Er mai ni sy’n cynhyrchu'r cylchlythyr, rydyn ni wastad yn awyddus i glywed eich barn a theimladau am y cynnwys a bydden ni'n croesawu unrhyw awgrymiadau am bethau yr hoffech chi eu gweld mewn rhifynnau yn y dyfodol.

 

Rydyn ni’n gwerthfawrogi eich cyfraniad at gylchlythyr y Mynegai os ydych yn un o'r canlynol:

  • plentyn neu berson ifanc
  • rhiant neu ofalwr plentyn neu berson ifanc
  • sefydliad / elusen sy’n cefnogi plant a phobl ifanc
  • gweithiwr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc

 

 

Swyddog Mynegai

Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd

Swyddfa’r Doc, Heol Yr Isffordd

Y Barri

CF63 4RT