Cost of Living Support Icon

Gofalwyr Di-dâl

Gwybodaeth i ofalwyr sy'n gofalu, yn ddi-dâl, am ffrind neu aelod o'r teulu nad ydyw oherwydd salwch, anabledd, problem iechyd meddwl neu ddibyniaeth yn gallu ymdopi heb eu cymorth.

 

 

 

Cerdyn Gofalwyr UK ID

Mae Mike O'Brien a Bobbie-Jo Haarhoff dryw'r Cynulliad Gofalwyr Di-dâl wedi sicrhau cerdyn Gofalwyr y DU digidol am ddim i drigolion Caerdydd a'r Fro.

 

Dyma’ch Cerdyn Hunaniaeth Gofalwyr y DU digidol am ddim

Dilys am 2 flynedd

 

Cliciwch ar y ddolen 'Prynu Eich Cerdyn'.

Cwblhewch y ffurflen.

Lawrlwythwch Ap Carers Card UK o'ch siop apiau ac rydych yn barod i fynd.

 

Ar ôl i chi gael eich cerdyn digidol a'r Ap bydd gennych fynediad at: 

  • Cerdyn Hunaniaeth Digidol

  • Manylion Cyswllt Argyfwng

  • Cynllun Argyfwng Gofalwyr

  • Offeryn Cylch Gofalwyr

  • Fy Llyfrgell Cymorth

  • Hyb Lles

  • Gostyngiadau o'r brandiau gorau

Mewn partneriaeth â Lazarou Hair Salon and Barbers, Castell Caerdydd (Heol y Dug) Caerdydd, rydym yn falch o gyhoeddi ein disgownt lleol cyntaf.

 

Ar ôl cyflwyno eich Cerdyn Hunaniaeth Gofalwyr y DU digidol, bydd gennych hawl i gael gostyngiad o 25% o ddydd Llun i ddydd Sadwrn.

 

Dewis Cymru Logo Welsh

Chwiliwch Dewis Cymru i ddod o hyd i wasanaethau i helpu gofalwyr ym Mro Morgannwg

Gwasanaethau i helpu gofalwyr

 

Isod ceir manylion sefydliadau cenedlaethol i ofalwyr, sy'n rhoi cyngor, gwybodaeth a chymorth i ofalwyr di-dâl yng Nghymru.

 

Yn rhoi cyngor a gwybodaeth i ofalwyr a'r gweithwyr proffesiynol sy'n cefnogi gofalwyr. 

Gofalwyr Cymru 

Llinell gyngor – Dydd Llun i ddydd Gwener: 02920 811370

 

Yn darparu llais cenedlaethol i rymuso rhieni a gofalwyr pobl ag anableddau dysgu. 

Fforwm Cymru Gyfan   

02920 811120 admin@allwalesforum.org.uk

 

Wedi ymrwymo i wella cymorth a gwasanaethau i ofalwyr di-dâl: 

Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru   

0300 772 9702 wales@carers.org

 

Siarter Gofalwyr Di-dâl Caerdydd a’r Fro

Mae tua 1 o bob 10 ohonom sy’n byw yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg yn darparu gofal di-dâl i aelod o’r teulu neu ffrind.

 

Mae’r Siarter hon yn addo ymrwymiad partneriaid ar draws y rhanbarth gan gynnwys y GIG, awdurdodau lleol, mudiadau gwirfoddol a sefydliadau’r trydydd sector ac yn amlinellu sut y byddwn yn eich cefnogi os ydych yn gofalu am rywun. 

 

 

Strategaeth ar gyfer gofalwyr di-dâl

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio Strategaeth newydd ar gyfer gofalwyr di-dâl: