Cost of Living Support Icon
​

Tîm Anghenion Dysgu Ychwanegol Blynyddoedd Cynnar

Mae Tîm ADY Blynyddoedd Cynnar yn cefnogi ac yn cydlynu gwasanaethau ar gyfer plant ag anghenion ychwanegol, eu teuluoedd, lleoliadau Blynyddoedd Cynnar ac ysgolion i sicrhau trosglwyddiad esmwyth i ddosbarth meithrin neu ddosbarth derbyn.

 Rydym yn cynnig:  

  • Cefnogaeth, gwybodaeth, cymorth ymarferol a chyngor i bob lleoliad blynyddoedd cynnar ac i deuluoedd plant blynyddoedd cynnar a allai fod ag anghenion ychwanegol

  • Cymorth i ysgolion i gynnwys POB plentyn o fewn darpariaeth gyffredinol ac, helpu gydag ysgrifennu neu adolygu Cynlluniau Datblygu Unigol y Blynyddoedd Cynnar, Cynlluniau Gofal Iechyd Unigol neu Asesiadau Risg

  • Gweithio ar y cyd gyda chydweithwyr Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant, Dechrau'n Deg a Chynnig Gofal Plant i gefnogi trosglwyddo plant sy'n hysbys i'r Fforwm Blynyddoedd Cynnar i mewn i leoliadau prif ffrwd ac ysgolion

  • Darparu canllawiau i ymarferwyr wrth adnabod plant ag anghenion sy'n dod i'r amlwg yn gynnarHwyluso grŵp cymorth wythnosol i rieni, mewn partneriaeth â Dechrau'n Deg

  • Darparu a hwyluso rhaglen hyfforddi gynhwysfawr ar gyfer ysgolion a lleoliadau blynyddoedd cynnar

Lawrlwythwch y daflen Tîm YMA

  

EYF meeting clipart

Beth yw'r Fforwm Blynyddoedd Cynnar? 

Mae'r Fforwm Blynyddoedd Cynnar yn gyfarfod amlasiantaethol rheolaidd, sy'n cynnwys gweithwyr proffesiynol o feysydd Iechyd, Addysg, Gofal Cymdeithasol a'r Trydydd Sector ar draws Bro Morgannwg.


Rydym yn gweithio gyda'n gilydd i gynllunio, cefnogi ac adolygu plant hyd at bum mlwydd oed, nad ydynt eto'n mynychu'r ysgol ac y mae eu cynnydd datblygiadol yn peri pryder neu, a allai fod ag anghenion gofal iechyd neu ychwanegol fel y gallant gael mynediad i'w lleoliad gofal plant neu addysg.

 

Mwy o wybodaeth am Fforwm Blynyddoedd Cynnar

Little Pebbles Logo - Cymraeg

Grŵp Cefnogaeth Rhieni Cerrig Mân Bach

Os ydych chi'n rhiant neu'n ofalwr plentyn, yn geni i bump, gydag angen ychwanegol, ymunwch â ni yng ngrŵp Cerrig Mân Bach i gwrdd â phobl newydd a chael sgwrs tra bod eich un bach yn chwarae.

 

Mae'r grŵp yn rhoi cyfle i gwrdd â rhieni a phlant eraill a chael cyngor gan gweithwyr proffesiynol Addysg a mwy. Mae'n hwyl, yn gyfeillgar ac yn rhad ac am ddim. Nid oes angen unrhyw ddiagnosis, ymrwymiad na chyfeiriad! Rydym yn cwrdd bob dydd Gwener (Amser tymor yn unig) 10-11.30am yn Hwb Cymunedol Sant Helen, Stryd Wyndham. Y Barri, CF63 4EL

 

Mwy o wybodaeth am Grŵp Cerrig Man Bach

 

Mudiadau Cysylltiedig

 Partner Organisations Logo

 

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

Dogfennau ac adnoddau defnyddiol

books clipart

  Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

 

Cysylltu a'r Tîm ADY

ar gyfer ymholiadau ADY, cysylltwch â:

 

 

 

ABC footer