Cost of Living Support Icon

Darpariaethau Arbenigol 

Mae nifer fach o ddisgyblion angen cymorth arbenigol sy'n gofyn am arbenigedd a/neu adnoddau nad ydynt ar gael yn ysgol brif ffrwd y dysgwr.  Os yw hyn yn wir yna gall ei ysgol ei atgyfeirio i’r adran anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yn yr Awdurdod Lleol i ystyried a fyddai'r plentyn yn cael y cymorth gorau trwy fynychu darpariaeth Canolfan Ragoriaeth. 

 

Os bydd yr atgyfeiriad hwn yn cael ei dderbyn, yn dilyn asesiadau a chyfnod o ymyrraeth Athro Arbenigol (lle y bo'n briodol) efallai y bydd eich plentyn yn cael ei addysgu'n llawn amser neu'n rhan amser mewn Canolfan Ragoriaeth.  

 

Os rhoddir cofrestriad deuol i'r plentyn am 2-3 diwrnod yr wythnos, bydd yn mynychu ei ysgol brif ffrwd am weddill yr wythnos. 


Ni fydd unrhyw atgyfeiriad yn cael ei wneud heb ganiatâd rhiant neu warcheidwad y plentyn. 

 

Mae sawl canolfan ragoriaeth sy'n cynnig lleoedd llawn neu ran amser i blant ym Mro Morgannwg.

 

 

 Y Ganolfan Adnoddau Anghenion Cymhleth yn Ysgol Gynradd Parc Jenner

 

Mae'r Ganolfan Ragoriaeth ar gyfer Anghenion Cymhleth yn cynnig amgylchedd ysgogol a chyfoethog a staff arbenigol i ddarparu ar gyfer plant sydd ag anghenion dysgu a gwybyddiaeth, gan gynnwys diagnosis meddygol.

 

Mae cynorthwywyr cymorth dysgu ac athrawon arbenigol yn cydweithio â'r disgyblion, y rhieni ac unrhyw asiantaethau a sefydliadau addysgol eraill cysylltiedig er mwyn sicrhau dilyniant a chyflawniad ym mhob maes datblygu.

 

Caiff anghenion unigol disgyblion eu hasesu, eu monitro a'u holrhain a chaiff strategaethau eu datblygu i sicrhau bod y disgybl yn gallu manteisio i'r eithaf ar ddysgu.

 

 

Bydd disgyblion sy’n cael eu lleoli yn y Ganolfan Ragoriaeth ar gyfer Anghenion Cymhleth yn manteisio ar y canlynol:

  • Dull unigol o ddysgu 
  • Asesiadau tymhorol gan ddefnyddio camau dilyniant B Squared
  • Adolygiadau sy’n seiliedig ar asiantaethau allanol ar sail angen 
  • Dull Ymarfer sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn o ddatblygu ac adolygu cynlluniau datblygu unigol (CDU) 
  • Cydweithio rhwng yr holl randdeiliaid sy'n ymwneud â'r disgybl 
  • Integreiddio i ysgol gynradd brif ffrwd lle bo hynny'n briodol  

 Y Ganolfan Adnoddau Clyw Cynradd yn Ysgol Gynradd Cogan 

 

Mae’r Ganolfan Adnoddau Clyw yn cefnogi disgyblion:

 

  • sydd wedi cael diagnosis o golled clyw sylweddol gan awdiolegydd
  • sydd wedi cael cymhorthion clyw ar bresgripsiwn neu fewnblaniadau yn y cochlea os yw'n briodol
  • y mae colli clyw wedi effeithio ar eu datblygiad iaith a chyfathrebu
  • y mae angen arnynt yr hyn sy'n cyfateb i ymyrraeth ddyddiol gan athro'r byddar a lefel uchel o gymorth gan gynorthwy-ydd cymorth dysgu arbenigol 

Mae'r lefel a'r math o gymorth a gynigir yn cyfateb i anghenion y disgybl unigol a gall gynnwys:

  • Cymorth yn y dosbarth gan ddefnyddio dulliau cyfathrebu Iaith Arwyddion Prydain, Saesneg a Gefnogir gan Arwyddion neu lafar
  • Cymorth un i un neu grŵp bach ar gyfer y cwricwlwm prif ffrwd
  • Gwaith datblygu iaith unigol un i un neu mewn grŵp bach
  • Ysgrifennu nodiadau
  • Cynnal a chadw offer cymorth clyw

 

Bydd pob disgybl sydd wedi cael diagnosis o golled clyw neu sydd â hanes o anawsterau clyw neu wrando yn cael ei fonitro gan Athro'r Byddar ac yn cael mynediad ar unrhyw adeg i gymorth gydag offer cymorth clyw. Gall disgyblion hefyd gael eu hatgyfeirio i'w hasesu gan staff neu rieni sydd â phryderon am allu plentyn i wrando yn yr ystafell ddosbarth.

 

 

 Y Ganolfan Adnoddau Clyw Uwchradd yn Ysgol Gyfun Sant Cyres 

 

Mae’r Ganolfan Adnoddau Clyw yn cefnogi disgyblion:

  • sydd wedi cael diagnosis o golled clyw parhaol a sylweddol gan awdiolegydd ac sy’n cael cymhorthion clyw ar bresgripsiwn neu sydd â mewnblaniadau yn y cochlea os yw'n briodol. 
  • Efallai y bydd gan ddisgyblion anghenion eilaidd y mae angen arnynt yr hyn sy'n cyfateb i ymyrraeth ddyddiol gan Athro'r Byddar a lefel uchel o fewnbwn gan gynorthwy-ydd cymorth dysgu arbenigol.

 

Mae'r lefel a'r math o gymorth a gynigir yn cyfateb i anghenion y disgybl unigol a gall gynnwys:

  • Cymorth yn y dosbarth gan ddefnyddio dulliau cyfathrebu Iaith Arwyddion Prydain, Saesneg a Gefnogir gan Arwyddion neu lafar
  • Ysgrifennu nodiadau
  • Gwaith datblygu iaith un i un neu grŵp bach
  • Sesiynau tiwtora ar gyfer atgyfnerthu a/neu ail gyflwyno gwaith
  • Addasu iaith ysgrifenedig i wneud deunyddiau cwrs yn fwy hygyrch
  • Cynnal a chadw offer cymorth clyw
  • Trefniadau Mynediad i Arholiadau

 

Bydd pob disgybl yn y ganolfan Cymorth Clyw sydd wedi cael diagnosis o golled clyw neu sydd â hanes o anawsterau clyw neu wrando yn cael ei fonitro gan Athro'r Byddar ac yn cael mynediad ar unrhyw adeg i gymorth gydag offer cymorth clyw. Gall disgyblion hefyd gael eu hatgyfeirio i'w hasesu gan staff neu rieni sydd â phryderon am allu plentyn i wrando yn yr ystafell ddosbarth.

 

 

Y Ganolfan Adnoddau Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu yn Ysgol y Ddraig 

 

Mae'r Ganolfan Ragoriaeth ar gyfer Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu yn ganolfan adnoddau arbenigol ar gyfer disgyblion sydd ag anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu (ALlICh) fel eu prif angen.

 

Mae'r ganolfan ALlICh yn cynnig amgylchedd cefnogol a staff arbenigol i ddarparu ar gyfer anghenion plant yng Nghamau Dilyniant 1 - 3, ym Mro Morgannwg, sydd ag anghenion lleferydd, iaith a/neu gyfathrebu. 

 

Mae'r lefel a'r math o gymorth a gynigir yn cyfateb i anghenion y disgybl unigol a gall gynnwys:

  • Cymorth cydweithredol gan dîm o Athrawon Arbenigol, Cynorthwywyr Cymorth Dysgu a'r Tîm Therapi Iaith a Lleferydd. Mae staff yn gweithio gyda rhieni ac ysgolion cartref i dargedu anawsterau sy'n gysylltiedig ag anghenion y disgybl
  • Mynediad i amgylchedd lle mae'r staff yn brofiadol ac wedi'u hyfforddi ym maes ALlICh
  • Rhaglen ddysgu unigol sy'n canolbwyntio ar iaith, geirfa a sgiliau cymdeithasol
  • Cymorth i'r disgybl a'r staff yn yr ysgol brif ffrwd

 

Mae pob lleoliad yn rhan amser. Fel arfer, mae plant yn mynychu'r Ganolfan Adnoddau Arbenigol 3 diwrnod yr wythnos nes y teimlir gan yr holl weithwyr proffesiynol cysylltiedig ei bod yn briodol iddynt ddychwelyd i brif ffrwd yn llawn amser. Mae lleoliadau hwb wedi'u cyfyngu o ran amser i uchafswm o dri thymor. Ar ôl y cyfnod hwn, bydd anghenion y plentyn yn cael eu hadolygu, a bydd naill ai'n dychwelyd i'r brif ffrwd gyda chyngor a/neu gymorth ar waith neu bydd yn cael cynnig lleoliad yn y Ganolfan Ragoriaeth ar gyfer ALlICh neu gellir ystyried lleoliad arall.

 

Mae anghenion pob disgybl yn cael eu hadolygu'n rheolaidd gyda staff y Ganolfan Adnoddau, therapydd Iaith a Lleferydd, a'r ysgol brif ffrwd. Mae rhieni'n cael y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd eu plentyn. Mae Cynorthwywyr Cymorth Dysgu Arbenigol yn gweithredu fel cyswllt rhwng staff y Ganolfan Adnoddau a staff yr ysgol brif ffrwd i sicrhau parhad rhwng lleoliadau.

 


Y Ganolfan Adnoddau Anghenion Corfforol a Meddygol Cynradd yn Ysgol Gynradd Palmerston 

 

Mae Canolfan Adnoddau’r Ganolfan Ragoriaeth ar gyfer Anghenion Corfforol a Meddygol yn cefnogi disgyblion sydd ag anghenion corfforol a meddygol cymhleth yn y lleoliad prif ffrwd.

 

Mae’r Ganolfan Ragoriaeth ar gyfer Anghenion Corfforol a Meddygol yn cynnig amgylchedd cefnogol a staff arbenigol i sicrhau bod pob disgybl sydd â nam corfforol neu gyflwr meddygol gwanychol yn gallu cael mynediad llawn i'r cwricwlwm. Gellir cyflawni hyn drwy gyfleoedd a gefnogir i fanteisio ar holl weithgareddau'r brif ffrwd, gan roi cyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu sgiliau bod yn annibynnol.

 

Mae Cynorthwywyr Cymorth Dysgu ac Athrawon Arbenigol yn cydweithio, ar y cyd â gweithwyr proffesiynol eraill a rhieni, i sicrhau bod pob disgybl yn cael ei gynnwys yn llawn ym mhob agwedd ar y cwricwlwm.

 

Mae'r lefel a'r math o gymorth a gynigir yn cyfateb i anghenion y disgybl unigol a gall gynnwys:

  • Cymorth un i un neu grŵp bach 

  • Addasu tasgau

  • Teilwra tasgau

  • Hwyluso Ffisiotherapi a/neu Therapi Galwedigaethol 

  • Hwyluso rhaglenni iaith a lleferydd

  • Rhoi meddyginiaethau

 

Mae staff yn y Ganolfan Adnoddau wedi'u hyfforddi yn y canlynol:

  • Codi a Chario

  • Bwydo drwy diwbiau

  • Glanhau’n drylwyr

  • Rhoi meddyginiaethau

  • Rhoi Epi-Pen 

  • Makaton 

 

Y Ganolfan Adnoddau Anghenion Corfforol a Meddygol Uwchradd yn Ysgol Gyfun Sant Cyres

 

Mae'r Ganolfan Adnoddau Anghenion Corfforol a Meddygol yn cefnogi disgyblion sydd ag anghenion corfforol a meddygol cymhleth yn y lleoliad prif ffrwd.

 

Mae disgyblion yn gwybod eu bod yn gallu mynd i ystafell y Ganolfan Anghenion Corfforol a Meddygol i gael cymorth bugeiliol mewn man diogel, gydag oedolyn cyfarwydd y gellir ymddiried ynddo.

 

Mae'r lefel a'r math o gymorth a gynigir yn cyfateb i anghenion y disgybl unigol a gall gynnwys:


  • Ysgrifennu nodiadau, cymorth yn y dosbarth pan fo angen 

  • Gwaith datblygu un i un neu grŵp bach mewn llythrennedd a rhifedd

  • Sesiynau tiwtora ar gyfer atgyfnerthu gwaith dosbarth

  • Addasu iaith ysgrifenedig i wneud deunyddiau cwrs yn fwy hygyrch - gan gynnwys addasu arbenigol ar gyfer namau ar y golwg pan fo angen

  • Mynediad i Ystafell Hylendid (teclyn codi ar drac a thoiled arbenigol) a chymorth lle bo angen ar gyfer gofal personol a mynd i’r toiled

  • Mynediad i lifftiau ar bob un o'r tri llawr yn yr ysgol

  • Cymorth pan fo angen ar gyfer amser cymdeithasol gan gynnwys amser egwyl ac amser cinio, lle anogir annibyniaeth a rhyngweithio â chyfoedion

  • Cefnogi cyfleoedd i ddisgyblion gael mynediad i'r ysgol brif ffrwd a gweithgareddau allgyrsiol

  • Sesiynau gwirio bob dydd yn Ystafell y Ganolfan i gefnogi lles disgyblion a monitro newidiadau mewn anghenion corfforol

  • Darparu hebryngwr, cymorth ac eiriolwyr ar gyfer apwyntiadau yn Ysgol Arbennig y Deri e.e. Ffisiotherapi, Therapi Galwedigaethol, Clinig Orthotig, clinigau dan arweiniad Meddyg Ymgynghorol y GIG

  • Cyswllt a chymorth rhieni a gofalwyr

  • Addysg gorfforol wedi’i theilwra a chymorth ar gyfer mynediad cynhwysol i weithgareddau cyfoedion

 

 

Y Bont yn Ysgol Gynradd High Street 

 

Mae'r Ganolfan Ragoriaeth ar gyfer anawsterau ymddygiadol, emosiynol a chymdeithasol (AYECh) yn cynnig amgylchedd ysgogol a chyfoethog a staff arbenigol i ddarparu ar gyfer plant sydd ag anghenion AYECh yn y ganolfan adnoddau yn llawn amser.

 

Mae cynorthwywyr cymorth dysgu ac athrawon arbenigol yn cydweithio â'r disgyblion, y rhieni ac unrhyw asiantaethau a sefydliadau addysgol eraill cysylltiedig er mwyn sicrhau dilyniant a chyflawniad ym mhob maes datblygu. Mae'r disgyblion wedi’u cofrestru’n ddeuol gydag Ysgol Gynradd High Street a'u hysgol gartref.

 

Caiff anghenion unigol disgyblion eu hasesu, eu monitro a'u holrhain a chaiff strategaethau eu datblygu i sicrhau bod y disgybl yn gallu manteisio i'r eithaf ar ddysgu.

 

Canolfan Adnoddau Arbenigol Awtistiaeth Cymraeg a leolir yn Ysgol Gwaun Y Nant

 

Mae’r Ganolfan Adnoddau Arbenigol yn darparu cyfnodau o ddarpariaeth integredig ar gyfer disgyblion â diagnosis o gyflwr ar y sbectrwm awtistig a’r rhai sy’n profi anawsterau cyfathrebu cymdeithasol, rhyngweithio neu reoleiddio sylweddol. Bydd hyn yn cynnwys disgyblion gyda lefel uchel o bryder yn effeithio'n sylweddol ar eu gallu i gael mynediad i addysg brif ffrwd.

 

Pwrpas yr adnodd arbenigol hwn yw cefnogi dysgwyr unigol yn ogystal â gwella gallu’r ysgol prif ffrwd i greu amgylchedd cynhwysol lle mae pob dysgwr yn cael y cyfle i lwyddo a chael mynediad i addysg sy’n bodloni eu hanghenion.

 

Gall disgyblion fynychu’r Ganolfan Adnoddau Arbenigol yn rhan amser (2 ddiwrnod) wrth gynnal lle â chymorth yn eu hysgol brif ffrwd leol.

 

Bydd disgyblion derbyn i flwyddyn 2 yn mynychu'r ganolfan ar ddydd Llun a dydd Mawrth a disgyblion blwyddyn 3-6 ar ddydd Iau a dydd Gwener. Mae’r lleoliadau hyn yn galluogi disgyblion i barhau i ddysgu ochr yn ochr â’u cyfoedion prif ffrwd a rhyngweithio’n gymdeithasol â nhw yn eu hysgolion prif ffrwd.

 

Mae’r 2 ddarpariaeth yn gweithio gyda’i gilydd i ddileu rhwystrau i gynhwysiant parhaus o fewn yr ysgol brif ffrwd ac adeiladu ei gallu i ddiwallu anghenion addysgol y disgybl yn y dyfodol.

Canolfan Ragoriaeth ar gyfer Cyflwr Sbectrwm Awtistiaeth Ysgol Uwchadd Whitmore 

 

Mae Canolfan Awtistiaeth Whitmore yn gyfleuster arbenigol i gefnogi disgyblion sydd â CSA fel eu prif rwystr i ddysgu.

 

Mae'r ganolfan adnoddau arbenigol yn cefnogi disgyblion i gael mynediad i addysg prif ffrwd yn ogystal â darparu cyfleoedd o fewn y ganolfan i ddatblygu sgiliau cymdeithasol, emosiynol, synhwyraidd a dysgu unigol.

 

Mae Canolfan Awtistiaeth Whitmore yn darparu amgylchedd arbenigol i ddisgyblion sy'n eu galluogi i gael mynediad i addysg prif ffrwd, gyda chefnogaeth arbenigol ac ymagwedd hyblyg at y cwricwlwm.

 

Bydd llwybrau dysgu disgyblion yn cael eu hystyried a'u datblygu'n unigol, yn seiliedig ar angen.

 

Mae'r ganolfan yn rhan fawr o ysgol Whitmore ac wedi'i lleoli o fewn yr adeilad prif ffrwd. 

Ysgol y Deri

 

Mae Ysgol y Deri yn ysgol arbennig sy'n darparu ar gyfer myfyrwyr 3-19 oed sydd ag ystod o anghenion dysgu a chorfforol ac awtistiaeth.

 

"Croeso i Ysgol y Deri - mwy nag ysgol yn unig! Rydym yn ysgol sy'n darparu ar gyfer ystod eang ac amrywiol o ddisgyblion sydd â gwahanol alluoedd. Yma ceir ysgol sy'n gadarnhaol, yn gynnes ac yn groesawgar. Ysgol sydd ag ystod wych o gyfleusterau a thîm staff sydd ag agwedd bositif. Rydym yn gweithio gyda phob plentyn fel unigolyn gan sicrhau bod ei anghenion addysgol a therapiwtig yn cael eu bodloni fel y gall ffynnu yn ein hysgol a phan fydd yn ei gadael. Mae ein gweledigaeth yn syml - Potensial, Cyfle, Cyflawni. Edrychwch ar wefan yr ysgol a gallwch fod yn dawel eich meddwl bod tîm ymroddedig yr ysgol yma i'ch helpu a'ch cefnogi chi a'ch plentyn trwy gydnabod ei botensial, creu cyfleoedd a dileu rhwystrau i'w helpu i gyflawni hyd eithaf ei allu."

Chris Britten: Pennaeth Ysgol Y Deri