Cost of Living Support Icon

Anghytuno a Datrys

 

Os ydych chi’n meddwl bod gan eich plentyn ADY, y cam cyntaf yw siarad gydag athro eich plentyn neu’r ALNCO (Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol). Maen nhw wedi’u hyfforddi i ddarparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad ar ADY.

 

Os bydd yr ysgol yn cytuno gyda chi bod gan eich plentyn neu berson ifanc ADY, bydd yr ysgol yn gweithio gyda chi i greu CDU (Cynllun Datblygu Unigol). Byddwch chi, fel rhiant, yn cael eich gwahodd i gyfrannu at gynnwys y CDU. Mae’n bwysig eich bod yn gwneud hynny gan mai chi sy’n adnabod eich plentyn orau. Fel arfer, caiff CDU ei adolygu pob 12 mis, neu’n gynt os oes angen.

 

Os nad yw eich ysgol yn cytuno bod gan eich plentyn ADY, neu os nad ydych chi’n hapus gyda chynnwys CDU eich plentyn. Yn y lle cyntaf, bydd angen i chi drafod hyn gyda’r ysgol. Os nad ydych chi’n fodlon o hyd, gallwch ystyried siarad â’ch Awdurdod Lleol i ofyn am ragor o gyngor. Os bydd yr Awdurdod Lleol yn cytuno bod gan eich plentyn ADY, bydd CDU yn cael ei baratoi neu ei adolygu.

 

Fodd bynnag, os bydd yr Awdurdod Lleol yn cytuno gyda’r ysgol ac rydych yn anhapus o hyd, gallant eich cyfeirio at Wasanaethau Eirioli Annibynnol sy’n cynorthwyo teuluoedd a phobl ifanc i wneud penderfyniadau gwybodus am y camau nesaf.

 

Yr hawl i apelio

Mae gan bob plentyn, eu rhieni/gofalwyr a phobl ifanc yr hawl i apelio i Dribiwnlys Addysg Cymru yn erbyn y penderfyniadau. 

 

Ei rôl yw clywed apeliadau yn ymwneud â phlant ag anghenion dysgu ychwanegol a gwneud penderfyniadau arnynt. Gallwch chi, fel rhiant/gofalwr, neu’r person ifanc ei hun, apelio. Mae’r Tribiwnlys yn annibynnol ar y llywodraeth, awdurdodau lleol, ysgolion a Sefydliadau Addysg Bellach. Mae ei benderfyniadau yn rhwymol gyfreithiol.

 

Hefyd, gall y Tribiwnlys wneud penderfyniadau am allu plentyn i ddeall materion yn ymwneud â’r system ADY, gan gynnwys beth mae apelio yn ei olygu. Gall y Tribiwnlys benodi cyfaill achos er mwyn cynorthwyo’r plentyn neu’r person ifanc - dyma rywun fydd yn cynorthwyo eich plentyn trwy broses y Tribiwnlys. Bydd plant a phobl ifanc yn cael gwybodaeth i gael mynediad at wasanaethau eirioli annibynnol.