Cost of Living Support Icon

Gwasanaeth Cwnsela Ysgolion a Chymunedol y Fro

Os ydych chi’n poeni neu’n pryderu am rywbeth, mae yna bobl y gallwch  siarad â nhw

 

Barnardo's banner

 

Wedi'i ariannu gan Gyngor Bro Morgannwg, mae Barnardo's yn darparu gwasanaeth cwnsela annibynnol, proffesiynol am ddim i blant a phobl ifanc 10-19 oed sy'n byw neu'n mynd i'r ysgol ym Mro Morgannwg.

 

Mae cwnsela yn cefnogi plant a phobl ifanc i ymdopi'n well gyda phroblemau personol, materion perthynas, digwyddiadau niweidiol mewn bywyd a phrosesau datblygiadol. Mae'n cynnig cyfle i blant a phobl ifanc archwilio a deall ei problemau a datblygu adnoddau personal a chymdeithasol, strategaethau ymdopi a gwytnwych seicolegol.

 

Darperier cwnsela drwy sesiynau 1:1 i gefnogi plant a phobl ifanc gyda'u hiechyd meddwl a'u lles emosiynol. Mae cwnselwyr wedi'u lleoli ym mhob ysgol uwchradd ym Mro Morgannwg. Mae darpariaeth Gymunedol hefyd yn y Ganolfan Menter Gymunedol (CEC), Skomer Road, Y Barri, ar gyfer disgyblion Blwyddyn 6, pobl nad ydynt yn mynychu'r ysgol ac i'r rhai lle gall yr ysgol fod yn rhwyster iddynt gael mynediad at y gwasanaeth hwn.

 

  • Beth yw Cwnsela? 
    Gall cwnsela ddarparu lle diogel i bobl ifanc siarad am eu bywyd, eu teimladau a'u sefyllfa bresennol. Mae'n ffynhonnell cymorth emosiynol sy'n rhoi'r gallu iddynt siariad â rhywun sy'n niwtral ac yn ddiduedd. Mae'r berthynas â'r cwnselydd yn seiliedeg ar ymddiriedaeth a bydd y person ifanc yn penderfynu ar yr hyn y mae am siarad amdano yn y sesiynau. Rôl 

    y cwnselydd yw meithrin a chefnogi eu lles tra’n meddwl am eu diogelwch.

     

    Mae cwnsela yn lle cyfrinachol iddynt, fodd bynnag, mae yna 3 eithriad i gyfrinachedd llwyr:

     

    • OS yw'r person ifanc mewn perygl o niwed
    • OS yw rhywun y mae’r person ifanc yn ei adnabod  mewn perygl o niwed
    • OS oes gan y person ifanc wybodaeth am drosedd.

     

    Gallwch fod yn dawel eich meddwl mai diogelwch yw ein blaenoriaeth. Efallai y byddwn yn estyn allan at riant/gofalwr y plentyn os oes gennym bryderon, fodd bynnag, bydd cynnwys y sesiwn yn parhau'n gyfrinachol rhwng y person ifanc a'r cwnselydd.

  • Pwy sy'n gallu gweld Cwnselydd? 
    Mae ein cwnselwyr yn gweithio gyda phobl ifanc 10-19 oed sy'n byw neu'n mynd i’r ysgol ym Mro Morgannwg.  Gall hyn fod yn eu hysgol uwchradd neu yn y Ganolfan Fenter Gymunedol yn Skomer Road, Y Barri. 

     

    Mae'r rhesymau pam y gallai pobl ifanc gwrdd â Chwnselydd yn cynnwys y canlynol:

     

    Rydym yn rhoi cymorth ar gyfer amrywiaeth o faterion ond os nad yw ar y rhestr hon, rydym yn dal yn gallu helpu.

     

     

    • Cam-drin domestig
    • Gorbryder
    • Hunanladdiad
    • Trawsryweddo
    • Perthnasoedd
    • Gofalu am rhywun
    • Cam-drin
    • Anhwylderau bwyta
    • Cyllid
    • Salwch
    • Hunan-niweidio
    • Straen 
    • Troseddu
    • Academaidd
    • Iselder
    • Cyfeiriadedd rhywiol
    • Dicter
    • Hunan-werth
    • Bwlio 
    • Camddefnyddio sylweddau
    • Teulu
    • Profedigaeth
    • Diogelwch ar-lein
    • Hunaniaeth

     

     

  • Pa Gymorth sy'n cael ei gynnig? 
     

    Cyfarfod cychwynnol gyda chwnselydd cymwys i ddarganfod ai cwnsela yw'r lefel gywir o gymorth sydd ei angen.


    Hyd at chwe sesiwn 1-1 i siarad am ba bynnag ofidiau neu bryderon sydd. 

     

    Mae hyn wedi'i gynllunio i fod yn ymyrraeth tymor byr sy'n canolbwyntio ar ddatrysiadau.

     

    Mewn rhai achosion, efallai bydd y cwnselydd yn cyfeirio at asiantaeth neu sefydliad mwy priodol ond byddai hyn yn cael ei drafod gyda'r person ifanc yn gyntaf. 

  • Sut ydw i'n trefnu gweld Cwnselydd?  

    Gellir gwneud atgyfeiriadau trwy'r wefan:-

     

     

    Gall y person ifanc, rhiant/gofalwr neu weithiwr proffesiynol wneud atgyfeiriadau trwy glicio ar y tab perthnasol, sgrolio i waelod y dudalen a chlicio ar y ddolen i gwblhau hunanatgyfeiriad neu atgyfeiriad rhiant/gofalwr/gweithiwr proffesiynol. Os ydych yn cwblhau atgyfeiriad ar ran plentyn, trafodwch hyn gyda nhw yn gyntaf a chael eu caniatâd.

     

    Mae'r wefan hefyd yn cynnwys gwybodaeth ychwanegol am y gwasanaeth i blant, pobl ifanc, rhieni/gofalwyr a gweithwyr proffesiynol.

     

    Unwaith y derbynnir yr atgyfeiriad, bydd cwnselydd yn gwahodd y person ifanc i sesiwn asesu cyn gynted ag y bydd lle ar gael. Os yw'r person ifanc wedi gofyn am gael ei weld yn yr ysgol, bydd hyn yn cael ei wneud heb dynnu sylw i sicrhau cyfrinachedd. Os yw'r person ifanc wedi gofyn am gael ei weld yn y Gymuned, bydd y cwnselydd fel arfer yn cysylltu â'r rhiant/gofalwr i drefnu hyn.

     

    Gall plant a phobl ifanc hefyd siarad ag aelod dibynadwy o’r staff yn eu hysgol. Gallai hyn fod yn diwtor dosbarth, Pennaeth Blwyddyn neu aelod o'r tîm gofal bugeiliol; gallant eu helpu i gwblhau atgyfeiriad ar-lein neu ddarparu ffurflen atgyfeirio ar bapur y gellir ei phostio trwy flwch post Barnardo’s yn eu hysgol.

     

    Gall plant a phobl ifanc atgyfeirio i'r gwasanaeth heb fod angen caniatâd eu rhiant/gofalwr. Fodd bynnag, ar gyfer plant Blwyddyn 6, a fyddai angen defnyddio'r gwasanaeth yn y Gymuned, byddai rhiant/gofalwr yn dod â'u plentyn i sesiynau.

     

    Angen help nawr? Nid gwasanaeth argyfwng neu frys yw hwn. Os ydych chi'n poeni am eich person ifanc, yn y lle cyntaf cysylltwch â'ch meddyg teulu, ar gyfer ymholiadau y tu allan i oriau cysylltwch â Galw Iechyd Cymru 111. Fel arall, os ydych chi'n teimlo ei fod yn argyfwng, gallwch fynd â'ch person ifanc i'ch adran Damweiniau ac Achosion Brys agosaf. 

 

Gwefannau defnyddiol

Profedigaeth a Gweld Eisiau

 

Bwlio


Anabledd ac Anghenion Dysgu Arbennig


Pryder a Straen

 

Iselder

 

Anhwylderau Bwyta


Hunan-Niwed

 

Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol

 

Iechyd Meddwl Plant yn Gyffredinol

 

Help a Chymorth i Blant a Phobl Ifanc Dan 19

 

Atal hunanladdiad ymhlith pobl ifanc

 

Iechyd Meddwl a Lles Emosiynol 

 

Llinell gymorth gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth ar gyfer plant a phobl ifanc